Share Button

Daeth Hydref 1983 yn ddigon o sioc i’r system. Wedi gorffen arholiadau lefel A, ac wedi penderfynu ail eistedd, a symud i fyw yn Colum Rd. gyda dau ffrind ysgol oedd yn aros yng Nghaerdydd, roedd pethau wedi newid yn fawr. Wedi setlo fewn i’r tŷ, y cwestiwn mawr oedd sut i dreulio’r amser hamdden ac i gadw’n ffit ar yr un pryd. Roedd y ddau arall yn y tŷ yn aelodau selog o dîm pêl-droed y Cymric, ac roedd yna demtasiwn mawr i ymuno â nhw yno. Byddai hynny wedi bod yn benderfyniad syml i fachgen deunaw mlwydd oed, oedd ddim yn siŵr sut dderbyn y byddai’n cael oddi wrth grŵp o ddynion nad oedd yn eu ‘adnabod. Yr adeg hynny, doedd dim CRICC ar gael, ac felly doedd gen i ddim cysylltiad ag unrhyw glwb. Roeddwn wedi clywed am Clwb Rygbi, ond doedd yna ddim cysylltiad na ffrind, hyd y gwyddwn i ar y pryd, oedd yn chwarae yno. Felly, pêl-droed efo’r Cymric fyddai’r dewis hawsaf imi.

Wedi ystyried hyn am ychydig, newidiais fy meddwl. Roeddwn wedi chwarae rygbi ers blynyddoedd, ac roedd hi wastad wedi dod a mwy o fwynhad a boddhad imi. Roedd ein blwyddyn olaf yn Llanhari wedi dod a llawer o lwyddiant, ac roedd y ffrindiau hynny wedi dod yn rhai clos. Fe wyddwn i’n iawn y byddwn yn difaru peidio â chwarae rygbi, heb reswm gwell nag oherwydd bod gen i ffrindiau oedd yn chwarae pêldroed.

Felly, un nos Lun ym Mis Hydref 1983, daliais fws i ysgol Glantaf gyda’r ddau arall, ond wrth iddi’n nhw fynd i ‘ystafelloedd newid y peldroedwyr, fe es i mewn i ystafelloedd newid y dynion.

Er mawr syndod, roedd yna wynebau cyfarwydd yno. Roedd Huw “Atlantic” wedi gadael Llanhari flwyddyn neu ddwy o ‘mlaen i ond o leiaf ro’n ni’n ei nabod e, ac roedd e’n nabod fi. Yno hefyd roedd Huw Bristol, a oedd wedi bod yn athro imi yn Llanhari . Roedd gweld y ddau yma yn ddigon i wneud imi deimlo ‘chydig yn fwy cyfforddus, a ro’n i’n ymwybodol, ac yn ddiolchgar i’r ddau ohonynt am gadw llygad arna’i drwy’r misoedd cyntaf.

Yr ofn mwyaf oedd na fyddai neb yn siarad neu’n cynnwys fi yn ystod yr ymarfer. Fe ddylwn fod wedi gwybod yn well. Un o’r wynebau cyfarwydd oedd wyneb Dafydd Hywel, yr hyfforddwr ar y pryd. Roedd y croeso ganddo fel petai’n croesawu un o’i deulu. ‘Dw’i ddim yn meddwl y cafodd unrhyw unigolyn gymaint o effaith bositif ar y clwb nes i Neil Cole gyrraedd dros ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Yn ogystal â DH, cefais groeso gwresog gan Butchie, capten y Clwb ar y pryd, un arall y byddwn yn parchu’n fwyfwy dros y blynyddoedd am ei ymrwymiad i’r Clwb. Yr unig aelod arall imi gofio ar y noson cynta’ hynny oedd Charlie, a gafodd ei gyflwyno gan DH fel Charles, ac y bues am fisoedd yn cymryd mai dyna oedd ei enw cyntaf.

Ac felly ‘roedd hi. Y noson cynta’ o ymarfer wedi’i gyflawni, a rhai ffrindiau newydd wedi datblygi, a minnau wedi derbyn y ffugenw ‘young pup’. Yn anffodus, fi oedd young pup y clwb am sawl tymor i ddod. Wyddwn i ddim y noson honno ‘mod i wedi dechrau ar berthynas efo’r Clwb y byddai’n ymestyn fewn i’r ganrif nesa.