Share Button

Trwy gydol y pymtheg tymor nesa, bu rhai cymeriadau yn cyfrannu ac yn amlygu ei hunain ym mhob ffordd. Roedd yna rai oedd yno bob ddydd Sadwrn, roedd rhai fyddai yno bob ddydd Llun a Sadwrn, ac wrth gwrs roedd yna rai oedd yn fwy bodlon nac eraill i gyfrannu oddi ar y maes. Roedd cyfraniad y cymeriadau hyn yn holl bwysig i barhad y clwb. I raddau, gellir dweud yr un peth am y rhai hynny a drodd allan unwaith yn unig i helpu mas, ond mae ‘na rai unigolion oedd yn sefyll allan o un tymor i’r nesa’.

Erbyn hyn, mae bwrdd capteiniaid ar wal clwb y Cameo. ‘Rydw i, fel y gweddill sydd â’i enwau ar y bwrdd, yn falch iawn o hynny. Mae rhedeg y Clwb fel capten wedi datblygu yn waith caled sy’n cymryd mwy a mwy o amser i drefnu â phob tymor. Mae’r capteiniaid presennol yn para am ddau dymor ar y mwya’, sy’n ddigon teg wrth gofio faint o waith mae hyn yn golygu. Fe fues i’n lwcus tra’n gapten bod Butchie yn hyfforddwr am ddau dymor, ac felly roedd gen i help wrth law – un oedd yn deall yr hyn sy’ raid ei gyfrannu fel capten. Roedd trydydd tymor imi felly yn ddigon syml. Wrth edrych ar fwrdd y capteiniaid felly, mae’r llygaid yn cael ei dynnu tuag at enw Wyn Lewis, a fu’n gapten am bedwar tymor nôl ar ddiwedd y saithdegau.

Pan ymunais i a’r clwb, roedd gyrfa Wyn i’w weld yn agosáu at ei ddiwedd, ond er hyn, roedd e dal wrthi ryw bum tymor yn hwyrach. Roedd dewis y tîm yr adeg hon yn ddigon hawdd – roedd Frankie, Brian a Wyn ar gael bob ddydd Sadwrn ac felly ei enwau nhw oedd yn mynd ar bapur bob wythnos. I’r rhai oedd yn chwarae ar y pryd, roedd Frankie, Brian, Wyn mor gyffredin â Marks and Spencer neu Morecambe and Wise. Roedd y tri yn ffrindie da, yn chwaraewyr da, ond yn fwy na dim, yn uned dda efo’i gilydd yn y rheng flaen. Yn anaml iawn fyddwn ni’n colli tir yn y pac, ac wrth ystyried cyn lleied o bwysau oedd yn dod o’r tu ôl, mae’n arwydd o safon y tri ohonynt.

Roedd y tri yn wahanol yn ei ffyrdd bach ei hunain. Roedd Frank yn chwarae a gwên ar ei wyneb drwy’r amser. Roedd ei bresenoldeb e yn y clwb ar y pryd yn esiampl fawr i bawb arall, gan ei fod yn byw yng Nghrughywel, ond roedd e’n ymarfer yn reit gyson, ac yn chwarae bob wythnos.
Roedd Brian yn gwbl wahanol. Anaml iawn gwelwyd gwen ar ei wyneb yn ystod gêm. Roedd e’n chwarae er mwyn ennill, a doedd e ddim am weld unrhyw beth yn rhwystro hyn. Ar ôl cael ei anfon o’r cae tra’n chwarae yn erbyn Baglan, am gwyno a gweiddi ar y dyfarnwr, rwy’n ei gofio’n cadw ‘mlaen o’r ystlys yn gweiddi’n ddi-baid. Roedd ganddo safonau uchel fel chwaraewr, a gwau unrhyw un, boed yn chwaraewr neu’n ddyfarnwr oedd yn methu cadw lan a’r safonau hynny.

Wedi imi gael fy newis i’r tîm cyntaf, ro’n ni’n gwybod bod ‘na rai oedd yn tybio mod yn rhy ifanc i fod yn chwarae drostynt, a galla’i ddychmygu mai dyna oedd barn Brian ar y pryd. Rwy’n cofio codi o un sgrym lle ro’n ni dan bwysau, a Brian yn troi ataf yn gwaeddi “Do you know which way you’re supposed to be pushing”. Dyna fel oedd e, yn gystadleuol, ac yn benderfynol o ennill ar bob achlysur.

Ond roedd Wyn yn wahanol eto. Roedd yn chwaraewr arbennig. Doedd dim dwywaith am hynny ac fe ddysgais lot oddi wrtho. Oherwydd cryfder traddodiadol y clwb yn y rheng ôl, daeth fy nghyfle cyntaf yn yr ail reng, tu ôl i Wyn. Eto, mae’n hawdd dychmygu ei feddwl e wrth weld bachgen deunaw oed, yn pwyso rhyw 11 stôn y tu ôl iddo, tra bod Frankie yn mwynhau techneg, pwysau a phŵer gormesol Dafydd Idris y tu ôl iddo. Ond roedd Wyn yn ddigon amyneddgar, a byddai’n gyson yn trafod gêm efo fi yn awgrymu be ddylwn a beth ddylwn i ddim ei wneud.

Fel chwaraewr, roedd Wyn yn dod o ryw oes wahanol. Roedd y gêm wedi dechrau newid hyd nes bod chwaraewyr rheng blaen yn gorfod rhedeg a thrafod y bel. Roedd hyn yn ddigon naturiol i Frankie a Brian, ond roedd Wyn yn wahanol. Wrth ymarfer ar nos Lun, byddem yn cael ein danfon ar ryw daith redeg trwy Gabalfa, a byddai Wyn yn sefyll yng Nglantaf yn gofyn be oedd y pwynt o fynd i redeg- “If I ever get the ball, all I’m going to do is hit the deck and set up a ruck”, yn yr acen Orllewinol, a gwên ar ei wyneb. Beth oedd yn ddoniol oedd bod pawb yn gwybod petai e yn dal y bel mewn gem am unrhyw reswm, dyna yn union be fydde fe yn ei wneud. Roedd y gêm i Wyn yn cael ei ennill a’i cholli yn y rheng flaen.
Wedi’r gêm, byddai’r cyfle i ymlacio yn y bar a chael peint o “brown and bitter mix”. Wyddwn i ddim am unrhyw un arall oedd yn yfed hyn.

Bu Wyn yn gyfrifol am redeg y Clwb amsawl tymor, naill ai fel chwaraewr, capten neu ar y pwyllgor. Tra’n gadeirydd ar y Clwb, cyrhaeddwyd trydedd rownd Cwpan y Bragwyr, a thaith i chwarae lawr yn Nhregaron. Oherwydd safle rhai o gyn-chwaraewyr y clwb yn y BBC, cytunwyd i ffilmio’r gêm, a’i ail-ddangos y pnawn Sul wedyn. Fel rhan o’r darllediad hyn, fe ofynnwyd rhai cwestiynau iddo, fel cadeirydd y Clwb, cyn i’r gêm ddechrau. Gan ystyried Cymraeg ‘naturiol’ Wyn, mae’n bosib y dylid fod wedi dewis siaradwr arall. Fel canlyniad, yr ymateb syml i’r cwestiwn o beth oeddem yn disgwyl y prynhawn hwnnw, daeth y lein gofiadwy, “Wel, ry’n ni’n gwbod mae’n mynd i fod yn twff”.

Estynnodd ei gyfraniad i’r Clwb fel un o’r grŵp fu’n gyfrifol am gychwyn tîm criced y clwb. Roedd yna sawl gricedwr o safon uchel yn gysylltiedig yno ar y pryd, ac yn eu plith, mwy nag un wicedwr amlwg. Roedd Gareth Charles er enghraifft, yn cadw wiced fel chwaraewr proffesiynol – roedd yn amlwg iddo chwarae’n gyson yn y gorffennol. Ond ar brydiau, wrth gwrs, doedd Charlie ddim ar gael, ac yn ei absenoldeb, byddai’r menig yn cael eu rhoi ar ddwylo Wyn. Nawr, peidiwch â chamddeall, doedd Wyn ddim yn ffôl, ond roedd yna fôr o wahaniaeth rhyngddo fe a rhywun fel Charlie. Roedd Charlie’n dal y bêl yn daclus, ac yn cymryd y beils i ffwrdd pob nawr ac yn y man. Roedd Wyn yn wahanol. Roedd ganddo lygad da, ac roedd e yn dal y bel gan amla’, ond weithiau byddai’r daliad yn dod ar yr ail dro, neu wedi i’r bêl ddod oddi ar ei frest neu’i goesau. Yn hytrach na “whipio’r” beils ffwrdd, byddai Wyn yn fwy tebygol o ddinistrio’r tair wiced wrth geisio stympio rhywun, a fydden ni’n gwario pum munud arall yn ceisio ail adeiladu’r wiced ar gaeau gwarthus Llandaf.

I’r rhai bu’n chwarae gydag e ar yr adeg hynny, efallai mai’r atgof mwyaf amlwg yw yn syml sut roedd Wyn yn edrych ar gae criced. Roedd y rhan fwyaf o’r bechgyn yr adeg hynny yn chwarae’n gyson, ac felly yn gwisgo gwisg criced arbennig a drud. Byddai Wyn ar y llaw arall y sefyll ar y cae mewn jeans gwyn, efo flares mawr ar y gwaelod. Am ryw reswm, wrth ei fod yn gwisgo pads criced, byddai’r flares yn dod yn rhydd ac yn ysgwyd yn y gwynt neu wrth iddo redeg.

Trwy gydol y pump neu chwe thymor cynta’ y cefais i efo’r Clwb, roedd Wyn yn un o’r cymeriadau mwyaf amlwg, ac imi yn un o’r rhai pwysicaf. Fe ddysgais gymaint oddi wrtho, boed hynny yn bethau yn gysylltiedig â rygbi neu’n bethau’n gysylltiedig â’r ffyddlondeb sy’n angenrheidiol i fod yn aelod o glwb fel hyn.

Erbyn imi orffen chwarae ym 1996, roeddwn o bell ffordd yn un o’r rhai a’r cysylltiad hiraf efo’r clwb. Roedd un neu ddau o chwaraewyr wedi bod wrthi gyhyd, fel Paul Thomas ac Eryl Jones, ond roedd y ddau yna wedi cael sbel oddi wrth y clwb am ryw reswm neu’i gilydd. Ond roedd un person wedi bod yn gysylltiedig â’r clwb cyn imi ymuno a oedd dal i fod yn gwylio’r diwrnod hwnnw pan orffennais i chwarae, sef Steve Lloyd. Mae’n cliché i raddau, ond mae’n wir bod angen rhywun fel Steve ar bob clwb.

Doeddwn i ddim yn gwerthfawrogi ei gyfraniad yn y dyddiau cynnar. Y tro cyntaf imi gwrdd â Steve oedd pan drefnodd gwis chwaraeon yn y gyfnewidfa lo, ein clwb ni ar y pryd. Yr unig atgof a ddaeth o’r noson honno oedd bod Steve yn gwybod unrhyw beth a phopeth oedd yn gysylltiedig â chwaraeon. Daeth hwn yn fyw amlwg blwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach pan gynrychiolodd Steve y Clwb yn ddigon llwyddiannus ar gwis chwaraeon ar S4C.

Ond dros y blynyddoedd, daeth sgiliau trefnu Steve i’r amlwg o un tymor i’r nesa’. Fe dderbyniodd gyfrifoldeb o weithio ar y pwyllgor, a daliodd ‘mlaen trwy gyfnod newidiol ar ddechrau’r nawdegau pan gollodd y rhan fwyaf o’i gyfoeswyr o’r pwyllgor. Pan oedd angen hen ben i drafod problemau, roedd Steve ar gael. Rwy’n cofio Steve hyd yn oed ym 1995 yn teithio lan i Bwllheli ar ei ben ei hun ar fore Sadwrn cyn Nadolig i gadw golwg a chysylltiad â’r clwb, ac wedyn yn cael ei berswadio i aros y nos yn Aberystwyth gyda gweddill y chwaraewyr.

Ond mae’n siŵr mai’r brif atgof sy’ gan y rhan fwyaf ohonom oedd ei lwyddiant mewn trefnu’r daith flynyddol. Roedd y rhan fwyaf ohono’ ni’n ddigon hapus i fynd ar daith ar ddiwedd tymor, ond petai hynny yn golygu gorfod trefnu’r daith hefyd, byddai’r rhan fwyaf wedi cymryd cam yn ôl. Roedd bod yn gyfrifol am grŵp o ugain a mwy o ddynion ar daith yn rhywbeth na fyddwn yn dymuno ar y gelyn mwyaf. Sgwn i sawl gwaith y bu’n rhaid i Steve egluro ac ymddiheuro i bobl ar y fferi am yr ymddygiad neu’r iaith, neu sawl gwaith bu’n trafod y camymddygiad efo’r heddlu neu efo perchnogion y gwesty.

Yn fwy na hynny, sawl gwaith, sgwn i, bu’n rhaid iddo sefyll ar ei draed mewn bar yn Ffrainc yn mynnu bod pawb yn mynd nôl i’r bws oherwydd bod y gyrrwr yn barod i fynd. A beth oedd yr ymateb? Byddai rhai yn mynd yn syth nôl i’r bws, a’r gweddill yn benderfynol o orffen eu diodydd. Wedyn byddai un o’r rhai hynny yn penderfynu mynd i’r siop cyn mynd nôl i’r bws. Erbyn i’r rhai oedd yn gorffen ei diodydd gyrraedd y bws, roedd y rhai aeth nôl i’r bws cyntaf wedi dechrau gêm o bêldroed yn y maes parcio, a byddai’r amser yn mynd heibio ‘to. Ar ôl blwyddyn neu ddwy o brofiad, mae’n siwr fod Steve wedi dysgu bod angen o leia’ awr o rybudd cyn y byddai’n siwr fod pawb ar y bws.

Rhinwedd mwya’ Steve oedd ei amynedd. Rhaid ei fod yn paratoi yn feddyliol am wythnosau cyn teithio i wneud yn siwr y byddai’n barod am y sarhad cyfeillgar y byddai’n derbyn dros y tri neu bedwar diwrnod. Unwaith, a dim ond unwaith i’r cof ydw i’n cofio gweld Steve yn dechrau colli amynedd ag unrhyw un ar daith, sef y noson gofiadwy honno yn y bar yn Limoges. Roedd Martin Grundy ar ei orau ac yn arwain y ffordd gyda’r gwin a’r Pastis, a thra bod rhywun yn canmol Steve am ei waith trefnu ar y daith, dyma Martin yn dechrau canu “Lloydy Lloydy,Lloydy Lloydy, does neb yn waith na Lloydy; Lloydy Lloydy, Lloydy Lloydy does neb yn waith na Lloydy”(i gerddoriaeth Milgi-Milgi, dwi’n meddwl). Yn anffodus, gan i bawb syrthio mewn ‘hysterics’ penderfynodd Martin ail-ganu’r gan, ac yna am drydydd tro, erbyn hyn a phawb arall wedi ymuno, ac yn dal i fod mewn hysterics.

Roedd y sefyllfa yn dal i fod yn ddoniol pan aeth Martin ati am y pumed tro, ac efallai am y degfed hefyd, ond wrth iddo gadw ‘mlaen a ‘mlaen, ro’n ni’n gweld o wyneb Steve ei fod wedi cael digon. “OK Martin that’s enough” oedd y cwbl y dwedodd e ond roedd hynny’n ddigon i’r gweddill ohono’ ni wybod nad oedd Steve yn hapus â’r sefyllfa. Yn anffodus, roedd Martin yn fwy na hapus hyd nes iddo gael ei gario mas o’r bar ac, yn ôl pob sôn, cwympo i gysgu ar ben car. I’r rhan fwyaf ohonom ni, byddai hynny wedi bod yn hen ddigon inni, ond i fod yn deg, roedd Martin ar daith, ac yn benderfynol o beidio gwastraffu’r un funud, ac o fewn ychydig, agorodd y drws, a daeth llais Grundy eto “Lloydy Lloydy, Lloydy Lloydy…

Bûm yn ddigon ffodus i chwarae gyda sawl chwaraewr o safon uchel yn ystod y pymtheg tymor. Bu rhai o’r rhain efo ni am amser hir, a rhai eraill am dymor neu lai wrth iddynt aros i symud mlaen i glwb arall. Roedden ni wrth gwrs yn ddiolchgar i gael unrhyw chwaraewr yn gysylltiedig â’r clwb.
Wedyn, wrth gwrs, roedd lot mawr o chwaraewyr da iawn oedd efo ni am sbel ac oedd yn gwbl ffyddlon i’r clwb. Yn wir dyma oedd cnewyllyn y clwb ar y cae – dim llawer o sêr, ond sawl chwaraewr da oedd yn fodlon bod yno bob Sadwrn. Dim ond nifer fach iawn yn fy amser i efo’r clwb, gallai fod wedi cael eu cynnwys yn y ddau grŵp uchod- chwaraewyr oedd o safon uchel iawn a oedd yn gwbl ffyddlon i’r clwb a oedd yn fodlon bod wrthi bob pnawn Sadwrn os yn iach. O fewn y grŵp bach hwn, roedd un chwaraewr yn sefyll mas trwy gydol fy hanes a’r clwb.

Nol yng nghanol y Nawdegau, aeth Alun Coch ati i drefnu cystadleuaeth Ffantasi Rygbi’r clwb. Rhoddwyd “gwerth” ar bob chwaraewr a rhaid oedd dewis tîm gyda swm o arian yn yr un modd ag y gwelir yn y papurau dyddiol. Daeth rhai o’r chwaraewyr gyda ffugenwau (Fingers, Dai Sebon etc), ac i John Hayes, rhoddwyd yr enw “brenin”. Dyna oedd barn a theimlad ei gydchwaraewyr tuag ato.

Roeddwn i’n gapten pan ymunodd John a’r Clwb. Fel canlyniad, chefais i fawr o gyfle i gadw golwg arno wrth iddo ddechrau’i yrfa yn yr ail dîm, gan na fedrwn i weld ymhellach na’r tîm cynta’. Y drafodaeth cynta’ dwi’n ei gofio oedd efo Butchie, diwrnod neu ddwy wedi i John dderbyn ei anaf cynta’ lan ym Mryncethin. Roedd Butchie wedi gweld John yn chwarae, ac roedd yn amlwg wrth wrando arno ei fod e’n sylweddoli bod anaf John yn mynd i fod yn golled mawr inni fel clwb.

Bu John nôl efo ni’r tymor wedyn, a chyn pen dim, roedd hi’n amlwg ei fod yn chwaraewr dawnus tu hwnt. Ar y pryd, roedd yn flaenasgellwr, ac roedd ganddo’r cyflymdra, weledigaeth, dewrder a’r hyder i sefyll mas yn rheolaidd. Yn ddiweddarach, symudodd i fod yn wythwr, a chafodd gyfle i arddangos ei sgiliau trafod hefyd. Petai wedi dewis, mae’n siwr y gallai fod wedi symud i chwarae a chlwb o safon uwch, ond yn ffodus inni, roedd John yn hapus. Roedd gwybod ei fod e ar gael ar bnawn Sadwrn yn hwb i weddill y clwb, yn yr un modd ac oedd y dyddiau pryn hynny pan nad oedd John ar gael yn cael effaith negyddol arnom.

Pan oeddwn yn dal i fod yn gapten, daeth John i gael gair efo fi ar gaeau Llandaf rhyw nos Lun tra’n bo ni wrthi’n ymarfer cyn dechrau tymor. Ro’n ni, fel arfer, wedi bod yn ceisio perswadio pawb i ymarfer yn gyson, trwy ddweud na fyddai’r rhai nad oedd yn ymarfer yn chwarae i’r tîm cyntaf y Sadwrn canlynol. Daeth John ataf ac ymddiheuro fod ganddo newyddion drwg. Mewn eiliad, aeth popeth trwy’r meddwl – roedd yn mynd i adael Caerdydd, roedd e’n bwriadu ymuno â chlwb arall, roedd am orffen chwarae…? Na, dim byd o’r fath. Roedd am egluro’i fod yn dechrau dosbarth nos ym mis Medi fyddai’n ei atal rhag ymarfer bob nos Lun, ond er hyn, doedd ddim am beidio â chwarae rygbi, felly fyddai’n ddigon bodlon chware i’r ail dîm bob wythnos. Gallwch ddychmygu’r rhyddhad imi, a’r penderfyniad sydyn bod y rheol o “no train no play” yn un twp beth bynnag a “rules are made to be broken..” ac yn y blaen. Fe chwaraeodd John yn gyson i’r tîm cyntaf y tymor hwnnw fel arfer.

Wrth i’r tymhorau fynd heibio, daeth John yn fwy ac yn fwy amlwg oddi ar y cae hefyd, a chwblhau ei “ddyletswydd” o dymor neu ddau ar y pwyllgor. Ond ei chwarae bydd yn aros yn y cof. Galla’i ond dychmygu’r effaith byddai torri coes yn cael ar ddyn. Ond mae gwneud hyn ddwywaith, a chadw mlaen i chwarae wedi hyn yn rhywbeth na alla’i ddechrau amgyffred. Roeddwn yno’r tro cyntaf, lawr yn Morganstown, pan gymrodd John y bel o gic cosb ar bwys ei lein nhw a rhuthro tuag at y gwrthwynebwyr. Gododd e ddim, ac wedi chydig o sylw gan un o’r doctoriaid, fe gerddodd i ffwrdd gyda help un o’r cefnogwyr.

Tymor neu ddwy yn ddiweddarach, sefyllfa debyg, gyda John yn derbyn y bêl ac yn rhuthro tuag at chwaraewyr Blaenafon, ac eto, clywyd crac, ac arhosodd John ar lawr. Do’n ni ddim yno’r tro hyn. Ro’n ni yn CRI yn barod, ac roedd hi’n od clywed y doctor yn dweud wrthyf, a gwên ar ei wyneb “ you’ll never believe this, but there’s another of your boys just arrived upstairs with a broken leg”. Na, doedd hynny ddim yn bosib. Mae’n siwr taw chwaraewr o ryw glwb arall oedd yno, yn gwisgo crys coch tebyg. Ond na, dyna lle’r oedd John druan, yn paratoi am stint arall mewn plaster. Byddai unrhyw ddyn cyffredin erbyn hyn, yn chwarae rygbi ar y lefel hyn, yn penderfynu rhoi’r ffidil yn y to, ond nid John. Mae’n deyrnged iddo fe ei fod wedi llwyddo dod nôl unwaith yn rhagor, ac wedi llwyddo chwarae’r gêm yn yr un ffordd roedd wedi gwneud am dymhorau cynt.

Yn debyg iawn i Steve Lloyd, mae Darran Phillips wedi bod yn wyneb cyson dros y blynyddoedd diweddar yma, heb iddo fod yn aelod cyson o’r tîm cyntaf. Byddai neb cyffredin yn teithio nôl o Lundain yn gyson fel Darran ar fore Sadwrn er mwyn chwarae gem, ac mae e’n dal i wneud hyn er gwaetha’r ffaith fod gemau wedi cael ei gohirio’n gyson unwaith iddo gyrraedd nôl. Yn fwy na hyn, tymor neu ddwy yn ôl, roedd e wedi bod yn y Dwyrain Canol yn gweithio, a thra’n aros i ddal yr awyren adre, daith neges bod yr awyren yn orlawn, a chafodd gynnig arian i aros yn y maes awyr am rai oriau nes bod yr awyren nesa’n teithio. Eglurodd Darran ei fod wedi trefnu rhywbeth adre ac felly roedd yn rhaid iddo fynd ar yr awyren cyntaf. A beth oedd wedi’i drefnu? Taith y clwb.

Dyna sut mae Darran wedi bod erioed. Un sy’n chwilio am gêm bod Ddydd Sadwrn. Mae’n ffilosoffi da. “You’re a long time retired”, medde nhw. Yr atgof cyntaf sy’ gen i ohono dra gyda’r Clwb, oedd ar fore gêm ryngwladol nôl ar ddiwedd yr wythdegau. Roedd hi wedi bod yn bwrw eira’n drwm ar y nos Wener ac felly, pan gyrhaeddais gae Cardiff HSOB, fel un oedd yn casáu gemau ar fore Sadwrn beth bynnag, roeddwn i wedi penderfynu na fyddai’n bosib chwarae. Roedden ni gyd yn y maes parcio yno yn siarad ac yn trafod lle i wylio’r gêm y prynhawn hwnnw, pan ddaeth Darran draw yn dweud fod y cae yn iawn i’w chwarae arni. Edrychodd pawb yn syn arno, a dywedodd y dyfarnwr ei fod yn hapus i’r ddau gapten dewis chwarae neu beidio. Roedd Darran fel ci sy’ am fynd am dro, yn mynnu mod i’n cerdded i ganol cae oedd yn gwbl wyn gyda’r eira, ac o’r diwedd fe gytunais i er mwyn ei gadw’n dawel. Unwaith i ni fynd i ganol y cae, roedd hi’n amlwg fod y cae yn berffaith. Yn lle rhewi, roedd yr eira’n hanner meddalu, ac roedd y cae fel carped. Cafwyd gem agored, mwynhaol na fyddai wedi digwydd o gwbl heblaw am ddyfalbarhad Darran.
Mae Darran wedi diodde’ ddigon dan hiwmor sawl un o aelodau’r clwb, ond gellir bod yn siwr ei fod e’n derbyn popeth a gwên ar ei wyneb. Fel chwaraewr, roedd e’n anffodus braidd ei fod yn asgellwr, lle roedden yn draddodiadol gryf. Fel arfer, felly roedd yn gynrychiolydd yr ail dîm. Fe gafodd gyfle i’r tîm cyntaf un pnawn Sadwrn mewn gem gynghrair yn Blackweir yn erbyn St. Josephs. Efallai ei fod yn symboleiddio lwc Darran iddo anafu’r diwrnod hwnnw, a chafodd fawr o gyfle eto i gadarnhau ei le yn y tîm cyntaf. Ond eto, dw’i ddim yn meddwl ei fod yn poeni rhyw lawer – chwarae oedd ei fwriad, a’r argraff oedd nad oedd yn poeni os oedd efo’r tîm cyntaf neu’r ail.

Yr atgof cliria sy gen i amdano, yw pan oedd wedi derbyn swydd i reportio ar gyfer y BBC ar gemau pêldroed. Roedden ni wedi bod yn chwarae yn erbyn Morganstown, ac yn eistedd yn eu clwb nhw yn gwylio’r teledu, pan daith llais Alan Wilkins, neu rywun tebyg, yn dweud:

It’s been a bad day for Swansea City today. A five-nil home defeat at the hands of …At the ground for us today is Darran Phillips

Daith bloedd fawr o chwaraewyr y Clwb yn mynnu bod pawb yn dawel gan fod y gohebydd hwn yn aelod o’r Clwb. Wrth gofio fod Abertawe wedi colli o bump i ddim ar eu cae ei hunain, agorodd Darren a’r llinell;
This was a game that Swansea didn’t deserve to lose!

Yn ffodus i Darran, fe benderfynodd ganolbwyntio ar faterion ariannol wedi hyn. Efallai ein bod ni fel Clwb wedi bod yn lwcus hefyd bod hyn wedi’i rhyddhâi i’n cynrychioli ar brynhawn Sadwrn yn lle.