Share Button

Wrth gwrs, efo pob clwb mae ‘na chwaraewyr sy’n ffyddlon am dymhorau maith, boed hynny efo’r tîm cynta neu’r ail. Ar y llaw arall, bu yna nifer fawr o chwaraewyr bu gyda ni am amseroedd byr. Roedd hynny hyd y gwyddwn i oherwydd natur y Clwb, a’r ffaith bod lawer o bobl yn dod i weithio i Gaerdydd am flwyddyn neu rai oedd yn y coleg cyn mynd nôl adre to.

Yn ogystal â hyn, bu yna nifer fawr o chwaraewyr bu’n gysylltiedig â ni am amser byr, a sawl un o’r rhai hynny wnaeth chwarae ‘mond gem neu ddwy yn ein plith. Mae llawer o’r rhain yn gymeriadau cofiadwy, a chafodd sawl un diwrnod i’w gofio tra’n gwisgo’r crys coch.

Nol yng nghanol yr wythdegau, Y CIACS oedd tîm gorau Caerdydd o bell ffordd, ac roeddynt yn un o dimoedd cryfa’r wlad, yn ennill cwpan y Bragwyr o leia’ dwywaith. Oherwydd hyn, yn anaml iawn y byddem yn eu gwrthwynebu. Ond fe ddaeth un bore Sadwrn pan dderbyniwyd gem pŵl yn eu herbyn gan yr ysgrifennydd gemau, Gareth Harries o bosib, ac yn ôl y disgwyl, fe ddechreuodd sawl aelod tynnu nôl ac egluro nad oeddynt ar gael y Sadwrn hwnnw wedi’r cwbl. Wrth i’r penwythnos agosáu roedden ni’n fyr o ddau neu dri chwaraewr, ac fe drafodwyd p’un ai gohirio’r gêm neu beidio. Er mwyn sicrhau bod y gêm yn mynd yn ei flaen, cynigiodd Terry Bach ddod a dau o’i ffrindiau lawr i gael gem.

Nawr, mae’n siwr gen i na ofynnwyd i Terry pwy oedd yn dod lawr i chwarae. O gofio fod Terry wedi bod yn y coleg yng Nghyncoed, efallai y gallwn ni fod wedi disgwyl y byddai’u ffrindiau’n debyg o fod yn chwaraewyr o safon. Ond dyna lle’r oedd e’r bore Sadwrn hwnnw, gydag un blaenwr cryf, a’i glustiau’n amlwg wedi bod mewn sgrym neu ddwy yn y gorffennol, ac asgellwr tal a chyflym. Ar y pryd, fe’u cyflwynwyd i ni fel Marc a John, ac fe aethon ni mas i’r cae.

Mae’n syndod cymaint o wahaniaeth mae dau chwaraewr yn gallu gwneud i glwb. Roedd John yn chwarae yn yr ail reng er mwyn imi chwarae fel wythwr, ac roedd yn amlwg ei fod wedi arfer chwarae safon llawer yn uwch na hyn. Fe fyddai’n ennill y bel yn y leiniau, ac yn cyfrannu’i bwysau yn y sgrym, ac yna, fe oedd yn cyrraedd y bel yn gyntaf i sicrhau bod y meddiant yn cael ei gadw. Os oedden ni dan bwysau, byddai’r bel yn cael ei ‘sgubo draw i Marc, a byddai fe’n osgoi tacl neu ddwy cyn ennill tir a rhyddhâi’r pwysau, cyn chwilio am John a fyddai wrth ei ysgwydd, ac yn ddigon cryf i ddal mlaen i’r bel hyd nes i’r gweddill ohonom ni gyrraedd. Mae nhw’n dweud bod un neu ddau chwaraewr da yn gallu codi safon gweddill y tîm, ac roedd hynny’n wir y diwrnod hwnnw.

Erbyn i’r gêm orffen, roedden ni wedi ennill o ryw 43 pwynt yn erbyn tua 15. Doedd chwaraewyr y Ciacs yn methu’n lân a chredu beth oedd wedi digwydd – yn wir, roedd ‘na rai ohono’ ni oedd yn ei gweld hi’n anodd credu. Doedd fawr o syndod yn hwyrach y diwrnod hwnnw pan eglurodd Terry mai John Morgan, blaenasgellwr, ac yn ddiweddarach, capten tîm Penybont, a Marc Batten, asgellwr Casnewydd a (dwi’n meddwl) Cymru B oedd y ddau westai. Rhyw fis yn ddiweddarach, y Ciacs a ni oedd y ddau glwb yn y pŵl eto ar gyfer rhyw fore Sadwrn, a chafwyd cyfle i ailchwarae’r gêm gofiadwy honno, ond y tro hwn i ni, heb y ddau chwaraewr dosbarth cyntaf. Gorffennwyd y gêm gyda’r sgôr yn reit debyg i’r gêm cynta hwnnw, ond bydd neb yn synnu mai’r CIACS oedd yn fuddugol y tro hwn.

Mae ‘na rai sy’ heb fod mor llwyddiannus â hyn. Wrth imi ddechrau ‘ngyrfa efo’r clwb, daith chwaraewr newydd i’n plith, doctor mae’n siwr. Doedd e ddim yn dod o Gaerdydd, yn wir doedd e ddim yn dod o Gymru, ond mi roedd ‘na sôn ei fod wedi cynrychioli ei wlad yn y gorffennol. Roedd e’n digwydd dod o Kenya, ac felly’n ddigon syml, ymunodd ‘Dai Kenya’ efo ni. Roedd Dai yn asgellwr ac mae’n siwr petai wedi cael ‘chydig o bêl y byddai wedi datblygu’n chwaraewr da inni. Roedd wedi ymuno yn ystod mis Awst 1984 ac felly’r gobaith oedd y byddai’n chwarae rhywfaint cyn i’r Gaeaf ddod, a’r tywydd gwaethygu.

Yn anffodus i Dai, daith ei gyfle mawr mewn gem gwpan yn ystod ail wythnos mis Medi yn erbyn ail dîm Illtydians lan ar gaeau’r ganolfan hamdden yn Rumney. Er mawr siom inni gyd, bu’n glawio trwy’r dydd, ac erbyn i’r gêm gychwyn, roedd hi’n amlwg ei bod hi’n mynd i fod yn gêm i’r blaenwyr yn hytrach na’r cefnwyr. Wrth edrych nôl, efallai bod hyn wedi bod yn beth da. Y rheswm am hyn oedd nad oedd neb wedi gofyn i Dai os oedd ganddo bâr o fŵts rygbi. Dim ond wrth inni redeg i’r cae yr amlygodd hi fod Dai yn bwriadu chwarae ar noson wlyb, brwnt mewn pâr o trainers. Eto, er mawr syndod i neb, yr unig dro iddo gael ei ddwylo ar y bel, fe syrthiodd i’r llawr o fewn dim. Yn siomedig inni fel clwb, fe gollwyd y gêm o 8-6 ac roedd cyfle arall yn y Mallet wedi mynd.

Yn symud nôl at ddyddiau positif o’r math yma, mae yna atgof clir iawn i’r rhai hynny ohonom ni oedd yno, o’r diwrnod y chwaraeom yn erbyn Barry Plastics mewn gem i ddatgan pwy fyddai’n dyrchafu i adran gynta’r Cardiff and District. Yn ôl y cof, roedd y tîm yn weddol gryf, dan gapteiniaeth Meurig Phillips. Roedd hi wedi bod yn dymor llwyddiannus, ond roedd angen un fuddigoliaith arall i sicrhau mynd lan.

Oherwydd ei bod hi mor hwyr yn y tymor, chawsom ni ddim caniatâd chwarae yn Llandaf, ac felly rhaid oedd teithio lawr i’r caeau ar bwys Parc Ninian. Heblaw am hynny, roedd pethau o’n plaid gan ei bod hi’n heulog a sych. Wedi i ni gyrraedd y cae, fe arhoso’n ni’n amyneddgar am rywun i agor y ‘stafelloedd newid. Erbyn tri o’r gloch roedd hi’n amlwg fod gennym broblem. Aeth Meurig ati i geisio dod o hyd i unrhyw un oedd ag allwedd, ond roedd y dyfarnwr yn fryn ei amynedd, a buon ni’n bron a chytuno i symud y gêm i chwarae yn Sully ar gae croesawgar y Plastics. Diolch i’r drefn, trodd y gofalwr lan jyst mewn pryd, a llwyddwyd chwarae rhyw hanner awr yn hwyr.

Ond roedd un broblem arall wedi bod hefo ni. Fel arfer, roedden ni wedi bod yn fryn o chwaraewyr rheng blaen. Roedd Dai Owen ar gael, ond roedd Dai yn ifanc ar y pryd. Roedd Tony ar gael i fachu, ond doedd neb arall ar gael. Gyda rhai gwrthwynebwyr, doedd hyn ddim yn ormod o broblem, a byddai rhywun fel Geraint Roberts (Skip) yn cael ei drafftio i’r tîm cyntaf. Ond yn erbyn Barry Plastics, doedd hyn ddim yn opsiwn oherwydd bod ei blaenwyr yn rhy gryf ac yn rhy gâs. Fe fydden nhw wedi bod yn ddigon hapus petai un o’n chwaraewyr wedi anafu, felly roedd yn rhaid ceisio dod o hyd i rywun er mwyn diogelwch ein chwaraewyr. Yn ogystal â hyn, roedden ni am ennill y gêm, a’r ffordd gorau o wneud hyn oedd trwy ddod o hyd i brop arall.
Nid am y tro cyntaf, na’r olaf, Andy Thomas, Stumpy, ddaeth i’n achub ni. Roedd e’n nabod rhywun fyddai’n fodlon helpu mas am un gêm. A dyna sut ddaeth Ioan inni am 80 munud. Roedd e wedi bod yn chwarae dros Oakdale, ac roedd e’n brop heb ei ail. Galla’ i ond dychmygu beth oedd yn mynd trwy’i feddwl wrth wylio’r shambles cyn y gêm, ond i fod yn deg, unwaith i’r gêm ddechrau, dim ond un peth oedd ar ei feddwl, sef ennill brwydr y blaenwyr. Yn sgil hynny, fe aeddfedodd Dai yn sydyn fel chwaraewr, ac am unwaith, ni oedd yn curo’r Plastics ymysg y blaenwyr. Doedd hynny ddim wedi digwydd yn aml yn y gorffennol, a byddai ddim yn digwydd eto ryw lawer chwaith. Er gwaetha pob ymdrech ein gwrthwynebwyr, fe enillwyd y gêm a’r dyrchafiad. Unwaith yn rhagor, roedd angen inni fod yn ddiolchgar i rywun oedd yn fodlon troi mas ar fyr rybudd. Er inni ofyn iddo, dim ond unwaith yn rhagor fyddai Ioan yn rhydd i’n cynrychioli, a hwnnw hefyd mewn gem o bwys, sef yr un yn erbyn y Welsh Academicals flwyddyn yn ddiweddarach.

Un arall a ddaeth am un gêm unig dan berswâd un o’n ffyddloniaid oedd Iolo ap Dafydd. Roedd Iolo’n perthyn i Siôn Clwyd, ac ar y pryd, yn chwarae’n reit gyson dros Benybont. Ro’n i ar y pryd, ac yn dal i fod i raddau, yn ansicr iawn o chwaraewyr oedd wedi bod yn, neu oedd yn dal i fod yn chwarae safon uwch o rygbi. Roedd yr awr a hanner cyn dechrau gem yn gallu bod yn shambles llwyr, wrth inni aros am chwaraewyr, ffonio i berswadio bois i chwarae, danfon rhywun i nôl y cit, rhoi awyr yn y peli, chwilio am fflags ac yn y blaen. Roedd hyn oll yn rhan o natur y Clwb na fyddai’n newid tra bod y chwaraewyr yn rhedeg y clwb fel pwyllgor – doedd neb arall o gwmpas i gyfrannu.

Felly, y teimlad imi oedd bod unrhyw un oedd wedi gweld safon uwch yn disgwyl rhywbeth gwell a threfnus. Fydden nhw ddim yn disgwyl bod y cit yn dal i fod yn wlyb, neu waith fyth, heb ei olchi o gwbl, neu’r tîm cynta’n troi lan efo cit yr ail dîm, neu troi fyny yn Llandaf a ffeindio nad oedd dyfarnwr i gael, neu dim cae. Dyma rygbi fel y dylai bod, a ro’n i wastad yn synnu ar glybiau mwy o faint oedd yn cwyno nad oedd arian ganddynt ac yn y blaen. Fe ddylen nhw fod wedi gweld beth sy’n digwydd efo clybiau fel ni.

Fodd bynnag, er mod i’n awyddus i weld Iolo’n cynrychioli’r clwb, do’n ni ddim yn siwr be’ fyddai’i ymateb. Yn anffodus iddo fe, roedd y gêm i fod yn erbyn St. Albans lan ar eu cae nhw. I fod yn deg, roedd Iolo yno i ennill y gêm, ac fe ddaeth yn amlwg iawn pa mor rhwystredig roedd e’n mynd wrth inni’r blaenwyr methu â rhoi unrhyw fath o bêl iddo fe fel canolwr. Roedd gweddill y cefnwyr yn gwybod beth i’w ddisgwyl wrth deithio i Splott. Rhywfaint fewn i’r ail hanner, daith Iolo wyneb wrth wyneb a’i wrthwynebydd, a dechreuodd ffeit bach rhwng y ddau. Y peth nesa’ rwy’n cofio yw ei weld yn edrych ar y llawr i geisio dod o hyd i’w ddant, oedd wedi ei daro mas!

Fe gafodd Iolo’r ‘air diwetha’ wrth sgorio cais cyn diwedd y gêm, ond erbyn hynny, roedden ni rhyw drideg pwynt ar ei hol hi. Eto, er mawr syndod i neb, ni welwyd Iolo yng nghrys y clwb eto. I fod yn deg iddo fe, wrth drafod gydag e’n ddiweddarach, dwi’n meddwl nad oedd y syniadau oedd gen i ynglŷn â chwaraewyr safon uwch yn berthnasol i Iolo. Roedd e’n gystadleuol iawn, ac rwy’n meddwl mai’r unig beth ar ei feddwl oedd ennill y gêm. Dyna oedd achos ei rwystredigaeth. Roedd yn anffodus i ni fel clwb na chafodd e gyfle i’n cynrychioli ar ddiwrnod lle’r oedden ni ar ein gorau, a phan fyddai wedi derbyn digon o bêl i gael gweld gwir safon y clwb.

Wrth edrych nôl ar rai sy’ wedi chwarae dros y clwb, mae pawb yn gofiadwy am ryw reswm neu’i gilydd. Ond mae un chwaraewr sydd yn aros yn fy nghof yn eglur iawn, er iddo chwarae ‘mond un gêm i’r clwb, a welais i mohono naill ai cyn, neu wedi’r gêm honno.

Fel yr oedd hi yn gyson, roedden ni’n fyr o chwaraewyr rheng blaen. Am ryw reswm roedd gem wedi’i drefnu ar fore Sadwrn( gem ryngwladol arall, mae’n siwr) yn erbyn Morganstown. Doeddwn i ddim yn un oedd yn mwynhau gemau ar fore Sadwrn ar unrhyw adeg, ac roedd chwarae Morganstown yn sicr ddim ar unrhyw restr o bethau i’w fwynhau. Yn ogystal â hyn, doedd ddim props ar gael, ac roedd y tywydd yn ofnadwy. Ond ro’n i’n gapten ar y pryd, felly rhaid oedd mynd ati i geisio trefnu tîm. Yn y diwedd, fe gysylltodd Steve Lloyd a fi i ddweud fod ganddo ffrind oedd yn brop fyddai’n fodlon chwarae’r bore hwnnw. Wel o leia’ fyddai tîm ‘da ni.

Wrth gyrraedd y cae, roedd y glaw yn tywallt lawr, wrth imi chwilio am ein prop newydd. I fod yn deg, roedd e ‘na’n disgwyl, ac eto i fod yn deg, roedd e’n edrych fel prop-‘chydig yn fach, ond y siâp iawn o leia’. Aethon fewn i’r stafelloedd newid, ac roedd pethau’n edrych yn well na’r arfer wrth imi weld fod tîm cyfan efo ni i ddechrau’r gêm. Daeth y dyfarnwr fewn i drafod y gêm a gofyn inni fod ar y cae mewn rhyw bum munud. Fe gofiais nad oeddwn wedi trafod ‘lineout signals’ gyda’r prop newydd (Jon dwi’n meddwl) ac felly fe es i gael gair byr gydag e. Wrth siarad, fe ddechreuodd e roi maneg golchi llestri (Marigold) melyn ar ei law chwith. Edrychais arno’n syn, ac fe eglurodd fod ganddo bwythau yn un o’i fysedd, ac roedd y faneg yn ffordd ddoeth o gadw’r bys yn sych. Roedd hyn yn wir, ond ‘sbosib nad oedd angen y faneg gyfan yn mynd hanner ffordd lan ei fraich. Dechreuais feddwl efallai’i fod yn bwriadu rhoi rhimyn neu dâp drosti, ac fe gerddais i ffwrdd gan groesi bysedd nad oedd yn bwriadu mynd i’r cae gyda hwn ar ei law.

Yn anffodus, dyna’n union beth wnaeth e. Doedd e ddim yn poeni dim fod pawb ar ochr y cae yn ei alw’n Marigold Man. Ro’n i’n gobeithio y byddai’n cadw ei law allan o’r golwg lle’n bosib, ond na, roedd e’n benderfynol o wneud y gwrthwyneb. Pob tro fyddai’r bel yn croesi’r ystlys, byddai Jon ar flaen y lein yn gwaeddi “here’s the mark,lads” yn dal y llaw felen hon i’r awyr i bawb cael gweld.

Collwyd y gêm honno, a gwelwyd Jon byth eto. Roedd gan hyn rywbeth i wneud hefyd a’r ffaith i flaenasgellwr Morganstown twrio bys fewn i lygaid Jon wrth inni fynd lawr i gael sgrym. Fe gododd e fel petai rhywun wedi ei saethu, ond yn anffodus, chafodd fawr o sylw gan nad oedd neb yn fodlon ei gymryd o ddifri oherwydd y faneg.

Roedd y diwrnod hwnnw yn gofiadwy imi hefyd am ryw reswm am un achlysur arall. Ar yr asgell chwith y diwrnod hwnnw roedd Dafydd Levi. Roedd Daf gyda’r asgellwyr cyflyma bu efo ni trwy gydol fy amser yno, ac unwaith i’r bel gyrraedd ei ddwylo, roedd e’n gallu bod yn dwyllodrus iawn. Dangoswyd hyn pan enillodd wobr chwaraewr mwyaf gwerthfawr yn ystod cystadleuaeth ffantasi’r clwb. Na, problem fwyaf Dafydd oedd sicrhau bod y bel yn aros yn ei ddwylo’n ddigon hir iddo gael effaith. Yr enw a gafodd gan Alun Coch, oedd ag enwau i bawb, oedd Dai Sebon.

Felly ar ddiwrnod gwlyb a gwyntog, doeddwn i ddim yn disgwyl i Dafydd gynnig cyfraniad mawr inni. Felly ‘roedd hi pan enillodd Morganstown y bel a chodwyd up-and-under anferth gan eu maswr. Rwy’n cofio rhedeg nôl i edrych i weld lle’r oedd ein cefnwr ni i gael dal y bel a’i chlirio. Yn sydyn, daith llais isel i’r clust. “Pêl fi”(a bod yn onest, wrth ystyried Cymraeg cywir Dafydd, efallai taw “fy mhêl” glywais i). Ta beth, doedd clywed llais Dafydd ddim yn ein llenwi a hyder. Roedd y bel yn uchel, roedd hi’n wlyb ac yn wyntog, ac roedd pob un o chwaraewyr Morganstown yn paratoi i lanio ar yr asgellwr unwaith iddo gymryd y bel.

Ond roedd hyn i fod yn ddiwrnod, neu’n foment i’w gofio. Estynnodd Dafydd ei freichiau, a dalodd y bel ar flaen ei fysedd. Wedi cyflawni hyn, fe gododd ei ben a dechrau rhedeg fel Forest Gump, gan ennill tir a churo gwrthwynebwyr. Fe’i taclwyd yn y diwedd, ond dim ond wedi iddo redeg y bel o’n dwy-ar-hugain ni i’w dwy-ar-hugain nhw. Oedd, roedd hi’n fore i’w chofio’n wir .