Share Button

Am ryw reswm, doedd y Clwb ddim yn dîm poblogaidd iawn. Dyma’r unig reswm sy’n dod i’r meddwl, paham roedd y rhan fwyaf o’n gwrthwynebwyr yn ein croesawu a dyrnau a chicio lle bo angen. Mewn ffordd arall, mae’n bosib ein bod ni yn un o’r timoedd mwyaf poblogaidd, gan fod ein gwrthwynebwyr wastad yn disgwyl cael gwared â bob rhwystredigaeth bywyd yn ystod 80 munud yn ein herbyn. Roedd ‘na ddyddiau pan oedd yr ymladd yn werth chweil, gan ei fod yn dangos ein bod ni wedi ennill goruchafiaeth drostyn nhw. Ond ar ddyddiau eraill, roedd hi’n amlwg fod y trais wedi ei rhagfwriadu fel modd o’n brawychu. Rhaid bod yn onest, fe weithiodd hyn ar sawl achlysur. Roedden ni gyd yn gorfod mynd i’r gwaith ar fore Dydd Llun wedi’r cyfan.

Roeddwn i’n edmygu sawl tîm yn yr ardal oedd yn amlwg a thuedd i fod yn frwnt, ond a oedd yn hytrach yn canolbwyntio ar eu rygbi, oherwydd eu bod nhw’n gallu chwarae rygbi da. Roedd St.Albans, Fairwater a Caerau Ely erbyn y diwedd yn eu plith ar y pryd. Ar y llaw arall roedd yna glybiau nad oeddent yn chwarae rygbi cystal, ond oedd yn chwarae er mwyn mwynhau. Byddai’r CIACs, neu Sully a’r rhan fwyaf o ail dimoedd y clybiau mwy yn dod o dan y faner hon.

Ac wedyn roedd y clybiau eraill. Roedden ni gyd yn edrych yn fanwl ar y rhestr gemau ar ddechrau’r tymor i weld pa benwythnos fyddai’n ddoeth i fynd ar wyliau efo’r wraig. Mae ‘na sawl gem sy’n dod i’r cof, lle fyddai wedi bod yn well gen i fod unrhyw le arall ar y blaned.

Roedd pob trip lawr i Barri Plastics yn antur reit arbennig. Roedd popeth yn gweithio yn ein herbyn ni lawr ‘na. Roedd blaenwyr mawr ‘da nhw, roedden nhw’n chwarae gêm dyn, roedd y gwynt wastad yn chwythu’n gryf, roedd hi fel arfer yn glawio, roedden ni fel arfer yn cael dyfarnwr gwan, ac yn fwy na hyn, roedden nhw yn ein casáu ni. Rwy’n cofio un o’u chwaraewyr yn siarad hefo John Hayes un diwrnod. Roedd John wedi dod oddi ar y cae gydag anaf. Roedd ei chwaraewr nhw wedi ei anfon o’r maes. Eglurodd ei chwaraewr nhw nad oedd ganddyn nhw unrhyw beth yn ein herbyn ni fel unigolion, ond roedd pethau wedi digwydd yn y gorffennol. Roedden ni gyd yn teimlo lot yn well wedi clywed hyn. Mae’n anodd dychmygu be’ oedd wedi digwydd yn y gorffennol i greu’r fath yma o gasineb.

Fe gyrhaeddo’n ni yno un pnawn Sadwrn dan gapteiniaeth Meurig Phillips. Roedd y glaw wedi bod yn syrthio drwy’r wythnos, ac unwaith yn rhagor, roedd cytuno i chwarae’r gêm yn nwylo’r ddau gapten a’r dyfarnwr. Roedd pymtheg ohonom ni yno yn croesi’n bysedd mai gohiriad fyddai’r canlyniad – stay of execution, efallai. O’r ‘stafelloedd newid, doedd hi ddim yn bosib gweld y cae, felly’r meddwl oedd y byddai’n rhaid canslo, sbosib. Ond wrth i Meurig ddod nôl o’r “pitch inspection” roedd yn amlwg o’i wyneb ei fod wedi colli, a bod y gêm mlaen.

Aethom fewn i’r stafell oer a bach, a dechrau newid a cheisio meddwl am y gêm. Roedd hyn bron a bod yn amhosib oherwydd y sŵn oedd yn dod o’r stafell arall. Roedden nhw yn curo’r waliau ac yn gwaeddi rhywbeth croesawgar, pleserus, “Kill the Welshies” neu rywbeth tebyg. Roedd y gêm wedi’i golli cyn i ni adael yr ystafell honno.

Ar y cae, roedd casineb y chwaraewyr a’r gwylwyr yn ddi-baid. Wrth ddilyn y bel, roedd yn rhaid cadw golwg y tu nôl, er mwyn sicrhau nad oedd dwrn neu gic yn dod tuag atom – hunan-cadwraith oedd y peth cyntaf ar ein meddyliau. Ar un adeg, cefais afael ar y bel wedi tafliad. Roedd eu mewnwr nhw a’i ddwylo ar y bel hefyd, ac roedd ei geg yn erbyn fy mraich dde. Yn sydyn, sylweddolais nad oedd wedi cael brecwast y bore hwnnw, gan ei fod yn cnoi ar fy mraich yn ffyrnig. Wedi’r gêm, roedd gen i farciau clir lle’r roedd ei ddannedd wedi bod, ac mae’r graith yno o hyd. Wyddwn i ddim be fyddai wedi digwydd pe na bawn wedi bod yn gwisgo crys trwchus, neu petai wedi cael ei ddannedd ar fy nghlust.

Yn hwyrach yn yr un gêm, roeddwn ar fy mhen ôl yn codi o sgarmes gyda’r bel wedi hen ddiflannu. Roedd un o chwaraewyr y Plastics ar ei ben gluniau, efo’i ben glun yn erbyn fy mhen glun i. Fe geisiodd wedyn i dynnu rhan isa’ nghoes tuag ato er mwyn iddo dorri’r coes efo’i ddwylo, yn yr un ffordd, efallai, ag y byddai’n torri darn o bren dros ei ben glun. Lwyddodd e ddim wrth gwrs, ond roedd e’n anodd credu y gallai dyn geisio gwneud rhywbeth mor farbaraidd â’i ddwylo.

Dyna fel yr oedd hi lawr yno. Roedd pawb yn falch i gael gorffen y gêm a gadael yno am dymor arall. Yn anffodus, roedd eu tactegau nhw yn gweithio’n aml, gyda’r clwb yn colli gemau y dylen fod wedi ei hennill. Roedden ni’n falch iawn, sawl tymor wedi imi orffen chwarae, i’r Clwb fynd lawr ‘na i chwarae gem gwpan, gyda nifer o chwaraewyr nad oedd wedi bod lawr yno o’r blaen. Heb yr hanes roeddwn i a’m cydchwaraewyr yn ei gofio, aeth y bois newydd yno, a chwarae gem agored a llwyddo ennill y gêm yn y modd a ddisgwylir gan y Clwb.

Blwyddyn neu ddau ynghynt roedd y Clwb wedi chwarae gem cynghrair yn erbyn ail dim Rumney. Roedd John Hayes a finnau wedi ein hanafu bythefnos cyn y gêm, a Martin Grundy wedi derbyn niwed i’w wyneb yr wythnos cynt. Roedd hi’n mynd i fod yn galed i weddill y pac wedi colli tri o’u cydchwaraewyr, ond roedd yr ysbryd yn uchel petawn ni’n gallu ennill digon o feddiant. Fe gyrhaeddais innau, a sylweddoli nad oedd neb arall o’r Clwb yno heblaw amdana i-dim subs, dim gwylwyr, neb. Felly fi ddaeth yn gyfrifol am roi’r fflags mas, rhoi pads y pyst mlaen, rhedeg y lein, cario’r bag meddygol, cario’r dŵr ac yn y blaen.
Roedd pethau’n datblygu’n dda ar y dechrau gyda’r cefnwyr yn rhedeg yn dda ac yn ennill tir. Wedi tua chwarter awr, sgoriwyd cais i’n rhoi ni ar y blaen, ac fe es i y tu ôl i’r pyst wylio’r trosiad. Wrth sefyll yno, cefais gyfle i wrando ar eiriau ysbrydoledig capten Rumney yn dymuno mwy oddi wrth ei chwaraewyr, rhywbeth tebyg i

I doesn’t care wot we ‘as to do, I doesn’t care if we ‘as to kick ‘em, punch ‘em, stamp on ‘em, gouge ‘em or bite’em. We just got to do somein’, OK

Wel roedd hynny’n ddigon i ddechrau rhyfel byd arall, a daeth eu chwaraewyr mas yn chwilio am drwbl. Dechreuodd y dyrnau hedfan a chael effaith ar ein pac ifanc. Ond ymhlith ein blaenwyr y diwrnod hwnnw, roedd Llyr Williams, un nad oedd yn derbyn cymryd cam yn ôl, ac roedd e’n ddigon bodlon dosbarthu cymaint ag yr oedd yn derbyn. Yn anffodus, rwy’n cofio’n eglur gweld dwrn un o chwaraewyr Rumney yn dod nôl wrth ei ysgwydd, ac yna yn taro un o’n chwaraewyr fel bwled. Er mawr syndod i neb, Llyr oedd yr un anlwcus, ac fe ddechreuodd gerdded tuag ataf, a gwaed yn dod o’i foch, a chwt dwfn islaw ei lygad chwith. Mewn gem gyffredin, byddai Llyr wedi gadael y cae ac un o’r eilyddion yn dod ‘mlaen. Ond wrth gwrs, doedd dim eilydd ‘da ni, felly fe benderfynodd Stumpy gosod pwythau yn ei foch ar ochr y cae.

Mewn theori, byddai hyn wedi bod yn iawn. Parhaodd y gêm gyda’r clwb yn chwarae gyda 13 dyn, ac fe estynnais i fy nghyfraniad am y diwrnod i fod yn nyrs tra bod Stumpy’n pwytho. Roedd hyd yn oed hynny’n anodd. Dwn i ddim am faint roedd y pethau meddygol wedi bod yn y bag, ond fydden ni ddim yn synnu petai wedi cael ei phrynu gan Frankie rhyw ddegawd ynghynt. Fe geisiodd Stumpy dorri trwy groen Llyr gyda’r nodwydd, neu beth bynnag mae’n nhw yn ei defnyddio, yn gwbl “blunt”, a bu’n rhaid gwthio fe trwyddo. Wedyn fe ofynnodd imi dorri’r pwyth, sy’n swnio’n ddigon syml, nes sylweddoli mod i’n defnyddio siswrn oedd yr un pa mor “blunt” a’r nodwydd. Roedden nhw fel y fath o siswrn ro’n ni’n defnyddio yn yr ysgol gynradd, rhyw 25 mlynedd yn ôl, gyda hanner cylch ar y pen. Fe dynnwyd wyneb Llyr ymhob cyfeiriad ac mae’n siwr gen i fod y graith sy yno nawr yn gwbl igam-ogam.

Wrth gwrs, roedd chwaraewyr Rumney yn gwbl cyd-ymdeimledig. Aeth y bel dros yr ystlys, a chan fy mod yn gweithio fel Florence Nightingale ar y pryd, doedd hi ddim yn bosib imi redeg y lein i arwyddo lle’r oedd y bel wedi croesi. Dyna gyd a glywyd o’u chwaraewyr nhw oedd “C’mon ref, they’ve gorra have a linesman…tell ‘im”. Doedd y gêm ddim yn llawer o sbort ac fe’i collwyd.

Ar y cyfan, roedd timau Caerdydd lot yn waith na thimoedd y cymoedd. Roedden nhw (timoedd y cymoedd) gan amla’ yn gwerthfawrogi ein bod ni yn fodlon teithio tu fas i’r brifddinas, ac roedden nhw’n gwybod y bydden ni yn ceisio chwarae rygbi da. Wrth gwrs, rwy’n cofio teithio lan i Abercwmboi, gyda Richard Williams yn ceisio’i lwc fel bachwr am y tro cynta’. Er ei bod hi ar y cyfan yn gêm deg, rhywsut neu’i gilydd, roedd Rich wedi cael ei denu fewn i rai o gemau preifat y rheng flaen, ac wrth gwrs roedd ei wrthwynebwyr aeddfed wedi sortio fe mas. Roedd ei wyneb yn ddu a glas wrth inni orffen, a doedd neb arall yn gallu deall be oedd wedi digwydd, gan ei bod hi wedi bod yn gêm lan i’r gweddill ohono’ ni.

Fe aeth ambell gêm yn erbyn Old Tylerians o chwith hefyd. Roedd perthynas da wedi bod rhwng y ddau glwb am flynyddoedd hyd nes iddyn nhw ddod i Gaerdydd i’n chwarae ni ar Gaedelyn. Cafodd un o’u chwaraewyr ei ddanfon o’r cae am ryw stampio digon diniwed i gymharu â beth oedd yn gyffredin inni. Aethom lan yna yn hwyrach yn y tymor â phac gwan, ac fe’n trechwyd ymhob ffordd wrth iddynt ddial am y cam yn ei herbyn yn gynharach yn y tymor. Efallai inni golli’n ffordd rhywfaint y diwrnod hwnnw wrth inni yn y tîm cyntaf sylweddoli fod un o chwaraewyr yr ail dîm wedi cael anaf difrifol ar y cae nesa ato ni. Daeth si ei fod wedi torri ei gefn, ac fe’i gosodwyd ar fanc ar ochr y cae iddo gael gwylio diwedd y gêm!! Fe’i gadawyd ar lawr yr ystafell newid i geisio gwella, a does gen i ddim syniad sut yr aeth adre. Diolch i’r drefn, doedd e heb dorri’i gefn.

Ond y croeso mwyaf gwresog rwy’n ei gofio yn y cymoedd oedd hynny yn Nhroedyrhiw, ger Merthyr. Fe gwrddo’n ni yn Penarth Rd, ac fe amlygodd hi’n gyflym nad oedd Gavin yn mynd i allu codi ail dim. Roedd chwaraewyr yn tynnu mas, ac roedd y tîm cyntaf yn dwyn mwy ar ben hynny. Felly, fe benderfynwyd ffonio Troedyrhiw tua un o’r gloch i egluro nad oedd pwynt i’w ail dim nhw ddod lawr gan nad oedd tîm gennym. Roedd y tîm cyntaf i deithio i Droedyrhiw i chwarae’i tîm cynta nhw. Yn ffodus, roedd hi’n ddiwrnod sych, twym oedd yn ein siwtio ni. Yn anffodus, roedd ei ail dim nhw wedi penderfynu mynychu’r bar gan nad oedd gem ganddynt, ac erbyn i’r gêm ddechrau, roedden nhw fel banshîs ar yr ystlys yn dymuno gwaed. Roedd hi’n amlwg bod bois y tîm cynta am foddhau’u cydchwaraewyr.

Roedd hi’n un o’r gemau hynny pan oeddem yn difaru cwympo ar y bel ar y llawr. Os bu erioed ddiwrnod pan dderbyniodd sawl un ohonom “a good shoeing”, hon oedd hi. Rwy’n cofio gweld cefn Andy Long yn yr ystafell newid a dychmygu y gallem fod wedi chwarae noughts and crosses arni. Dim ond wrth gymryd cawod daith y boen wrth sylweddoli faint o niwed oedd wedi’i wneud i’r cefn.

Am unwaith, enillwyd y gêm. Roedd hi’n ddigon sych i’r cefnwyr redeg yn bert, a rhaid ein bod ni wedi ennill digon o bêl rhywsut. Roedd un o’n ceisiadau yn gofiadwy. Roedden ni yn ein hanner ein hunain, ac wrth-ymosododd y cefnwyr. Llwyddodd Iants fylchu a chroesi hanner ffordd. Doedd neb yn agos iddo, a dim ond cefnwr Troedyrhiw rhyngddo fe a’r lein, er bod rhyw 40m i fynd. Penderfynodd Ianto gicio’r bel, ac fe wnaeth hyn yn berffaith, gyda’r bel yn dod i aros ar ei llinell cais nhw. Daeth ein hasgellwr chwith, dwi ddim yn cofio pwy, trwyddo yn gyflym a chyrraedd y bel cynta’ i sgorio. Ond beth am Ianto? Ryw eiliad ar ôl iddo gicio’r bel, fe hyrddiodd cefnwr Troedyrhiw ato a’i ddal yn ei wyneb. “Thou shallt not pass”. Dwi ddim yn meddwl i Ianto gofio dim wrth inni ei godi ar ei draed a’i longyfarch am fesur ei gic yn berffaith inni sgorio.

Ond timoedd Caerdydd yw’r rhai mwyaf pleserus, ac roedd yna ddwy gêm gofiadwy iawn sy’n dod i’r cof. Roedd popeth oedd yn gysylltiedig â gem oddi-cartref yng Ngabalfa yn werth osgoi. Roedd hi’n un arall o’r gemau hynny lle byddai pawb yn ceisio dychmygu pob math o esgusodion. Roeddwn i wedi chwarae yno sbel yn ôl cyn inni orfod dod yn eu herbyn mewn gem gynghrair. Doedd ein ‘stafelloedd newid ni yn Llandaf ddim yn arbennig o bell ffordd, ond roedd y twll hwnnw yng Ngabalfa yn waith fyth-“pokey” fyddwn i wedi dweud yn Saesneg. Am ryw reswm, ro’n i wastad yn dychmygu y byddai ei chwaraewyr wedi rhoi gwydr neu hoelion ar y llawr inni gerdded arnynt. Dyna’r fath o syniadau byddai’r lle’n creu yn y dychymyg. Wedi’r gêm roedd rhaid gwario hanner awr bleserus yn y Master Gunner. I fod yn deg, doedd yna byth trwbl yno, ond roedden ni wastad yn cadw golwg dros ein hysgwyddau. Yr unig le ddaeth yn agos i hwnnw ar ôl gem, oedd wedi inni chwarae gêm yn erbyn Caerau Ely.

Roedd hi wedi bod yn gêm dda, ond wrth inni gyrraedd y dafarn yno yng nghanol Trelai, ro’n ni’n falch nad oeddwn i wedi dod â’r car. Rwy’n cofio larwm car un o’r bois, Kevin dwi’n meddwl, yn mynd off yn sydyn ar ôl inni gyrraedd yno ac yntau’n penderfynu’n ddoeth i fynd yn syth adre. Yna tra’r oedden ni wrthi’n bwyta’ daith rhywun fewn a dweud wrth Stumpy fod rhywun yn ceisio dwyn ei gar. Er y croeso yno, fe benderfynodd bawb yn sydyn iawn ei bod hi’n amser i fynd adre heb oedi.

Ond yn ôl i Gabalfa. Roedd hi’n gêm gynghrair, ac felly’n gem bwysig. Ond eto, roedd pawb yn gwybod yn iawn y gallai bethau troi’n gas. A dyna ddigwyddodd. Roedd y cae o dan y fflats gweladwy yng Ngabalfa, ac roedd torf weddol o bobl wedi dod allan i weld eu tîm yn ennill, heb boeni sut y byddai’r fuddugoliaeth yn dod. Roedd hi’n un o’r gemau mwyaf brwnt y bûm yn rhan ohono, ac roedd digon o gemau’n cystadlu am yr anrhydedd yna! O’r dechrau byddai pob sgarmes yn datblygu’n ymladd rhwng nifer o chwaraewyr. Fel oedd yn digwydd yn rhy gyson mewn gemau fel hyn, roedd dyfarnwr gwan wrth y llyw, ac roedd e wedi llwyr golli reolaeth o’r gêm. Fe ddaeth yn beryg ar adegau inni fod ar y cae, ac nid dim ond y chwaraewyr oedd wrthi.

Ar un achlysur, torrodd mewnwr Gabalfa rownd ochr dywyll sgrym a chicio’r bel yn ddwfn i’n tir ni. Roeddwn i wedi torri o gefn y sgrym, ac fe geisiais “charge-down” o’r gic. Fe fethais a hynny, ac aeth fy momentwm a fi fewn i’r gwylwyr. Er mawr syndod, derbyniais ben-elyn i ngwyneb gan un ohonynt, a brysiais nôl mlaen i’r cae er mwyn bod yn ddiogel. Roedd hi’n ddigon eironig ar ddiwrnod cas fel hwnnw ei bod hi’n saffach i fod ar y cae nag oddi-arni.

Roedd hi’n od.

Dechreuais i dderbyn fod gemau fel hyn yn rhan o chwarae rygbi, ac nad oedd modd osgoi hyn. Bûm yn siarad â ffrind yn ddiweddarach oedd wedi chwarae rygbi yn Llundain, a doedd e’n methu â chredu beth roedd e’n ei weld pan fyddai’n dod i weld gemau pob nawr ag yn y man yn Llandaf. Roedd y gêm yn Llundain yn gwbl wahanol, medde fe, gyda phawb yn chwarae rygbi caled a dim mwy. Roeddwn i wastad yn ddiolchgar mod i’n gallu mynd i’r gwaith ar ddydd Llun ac anghofio am gemau fel hwnnw yn Gabalfa. Erbyn y Sadwrn canlynol, roedd yr atgofion cas wedi mynd.

Ond roedden i yn gwylltio i sylweddoli pa effaith roedd gemau fel hyn yn cael ar chwaraewyr eraill. Roedd Phil Thomas yn flaenasgellwr gweithgar, ac yn un oedd yn siwtio gem agored y Clwb. Roedd e hefyd yn ddoctor, ac felly yn gydwybodol iawn o’r pwysigrwydd ei fod yn iach i fynychu’r gwaith ar ddiwedd y penwythnos. Rwy’n cofio gweld Phil yn dod nôl tuag ataf ar ôl sgarmes oedd eto wedi datblygu’n ffeit, yn ysgwyd ei ben o un ochr i’r llall. Dw’i ddim yn meddwl ei fod wedi gweld y fath beth yn ei fywyd. Y peth gwaethaf i ni fel clwb oedd yn fyr o chwaraewyr, ac yn fyrrach fyth o chwaraewyr da, oedd na welwyd Phil eto yn cynrychioli’r clwb. Pwy allai roi bai arno?
Doedd dim pob gem yn erbyn Gabalfa cynddrwg a’r un yma, ond doedd hi byth yn bleser mynd yno. I roi halen yn y briw, ar ôl y gêm, ac ar ôl defnyddio’r cawodydd pleserus, roedd yn rhaid mynd i’r Master Gunner i fwyta. Doedd dim ryw lawer i ddweud am hynny chwaith.

Gemau fel hyn berswadiodd y clwb nad oedd hi’n werth parhau yng nghynghrair Caerdydd. I bob gem dda yn erbyn gwrthwynebwyr teilwng, roedd yna ddwy neu dair gêm yn erbyn timoedd fel hyn. Daeth y sefyllfa i’w derfyn wedi gem gwpan yn erbyn Llanedeyrn. Roedden nhw yn yr ail adran ar y pryd, a ninnau yn yr adran gyntaf. Roedden nhw yn reit gryf ac roedd hi’n edrych yn ddigon tebygol y byddent yn ymuno â ni’r flwyddyn ganlynol. Erbyn hynny, roedd tîm aeddfed gennym, ac roedden ni gyd yn gwybod beth oedd i’w ddisgwyl y prynhawn hwnnw. O leia’ roedd y gêm i’w chwarae yn Llandaf. Oedden, roedden ni gyd yn disgwyl y dyrnau, ac roedden ni gyd yn gwybod nad oedd unrhyw bwynt gadael iddyn nhw’n profocio ni. Roedd hi’n bwysig inni adael i bopeth fynd uwch ein pennau ni. Roedd pawb yn deall hynny. Wel, pawb heblaw am un.

Roedd Aled Arch yn chwaraewr anffodus mewn ffordd. Mewn clwb cyffredin, byddai wedi cael cyfleuon di-ri i chwarae’n gyson yn y tîm cyntaf. Ond efo ni, roedd Gareth, John, Llyr, Grundy, Rhidian ac yn y blaen. Felly dim ond gemau nawr ac yn y man byddai’n chwarae. Ond wrth chwarae, dim ond cant-y-cant byddai’n cyfrannu. Roedd e’n un o’r chwaraewyr cyson hynny, un nad oedd byth yn debyg o sgorio o’i hanner ei hun, ond eto nad oedd byth yn cael gem sâl. Yn ogystal â hyn, roedd ganddo dymer a ffiws byr, ac yn erbyn Llanedeyrn y Sadwrn hwnnw, fe welwyd y canlyniad.

Fe gododd y sefyllfa cymaint o weithiau, mae’n anodd cofio. Byddai’r ddau bac yn mynd lawr i gael sgrym, byddai’r bel yn dod allan ar ein hochr ni, a byddai saith o’n blaenwyr ni yn dilyn y bel fel yr arfer. Wedi ail-gylchi’r bel ryw hanner can metr i ffwrdd, bydden yn sylweddoli nad oedd pac i gael gan Llanedeyrn. Wrth edrych nôl, dyna lle’r oedd pac Llanedeyrn yn dyrnu ac yn cicio, gyda gwallt golau Aled yn dangos ar y gwaelod. Byddai’r dyfarnwr yn torri pethau lan, a byddai Aled yn dod nôl i’n plith a’i wallt yn yr awyr, ei grys mas, a’i wyneb yn goch. “I’ll ‘ave em next time” byddai’n dweud, ac er inni gyd awgrymu nad oedd llawer o bwynt, be fyddai’n digwydd? Sgrym nesa’, y bel yn mynd, pac Clwb yn dilyn, edrych nôl, Aled yn ei chanol nhw eto. Petai gwobr wedi bod i rywun oedd yn fodlon dal ati, byddai Aled wedi ennill yn glir. Roeddwn i wastad am wybod beth oedden nhw’n dweud oedd yn llwyddo’i brofocio fe cymaint. Ar un adeg, fe ddechreuodd un o’u dilynwyr nhw gwyno nad oedden ni yn rhoi unrhyw gymorth i Aled. Dw’i ddim yn gwybod beth ‘odd e’n gobeithio gweld.

Am unwaith, enillwyd y gêm honno. Ar ddiwrnodau fel hyn pan oeddem yn chwarae oddi-cartref, roedd hi’n ddigon syml cael chydig o fwyd a pheint yng nghlwb y gwrthwynebwyr, cyn symud o na gan ddweud bod parti efo ni’r noson honno, ac felly roedd rhaid gadael yn gynnar. Ond wedi’r gêm yn erbyn Llanedeyrn, roedden nhw yn y Cameo. Wedi ‘chydig, fe amlygodd hi fod rhai ohonynt allan am y noson. Wedi sylweddoli hyn, fe ddiflannodd y rhan helaeth o’n chwaraewyr ni nad oedd am siarad â’i chwaraewyr nhw. Roedd hi’n sefyllfa od, mod i’n un o ddau chwaraewr y Clwb ar ôl yno, gyda thua saith o’u chwaraewyr nhw. Fe fydden nhw wedi aros yno trwy’r nos dwi’n meddwl, oni bai fod Babs wedi diflasu efo nhw, a gofyn iddyn nhw adael. Dim ond ni alla’n cael ein hachub gan reolwr benywaidd y clwb.