Share Button

Mae pob taith yn gofiadwy am ryw reswm neu’i gilydd, ac mae pob un yn gofiadwy i bobl am resymau gwahanol. Fe fûm i’n ddigon ffodus i deithio ar bum achlysur, pob tro yn teithio draw i’r cyfandir. Roeddwn i’n siomedig i fethu â mynd draw i’r Iwerddon, gan fod pob taith yno wedi bod yn arbennig mewn un ffordd neu’r llall. Dwn i ddim faint o weithiau glywais sôn am y daith i Tullamore – yn ôl pob sôn, hwnnw oedd y daith i fod yn gysylltiedig â hi. Ond na, roedd pob taith yn gofiadwy imi, ac mewn ffordd fe wellodd pob taith wrth i’r blynyddoedd mynd yn eu blaen.

Roedd y daith gyntaf imi yn un od iawn. Roedd hi’n 1984, ac roedd hi wedi trefnu i fynd i Luxembourg. Ro’n ni wedi cytuno i fynd, er mod i lawer yn ifancach na’r gweddill ac er na wyddwn i beth i’w ddisgwyl. Y noson cyn inni adael, doedd neb wedi cadarnhau bod y daith ymlaen o hyd, nes i Butchie ffonio i ofyn a o’n ni dal yn bwriadu mynd. Diolch i’r drefn mod i wedi cytuno fel oedd hi’n digwydd, gan mai dim ond 16 ohono’ ni oedd ar y bws wrth inni adael, ac roedd gan un o’r rhai hynny gout, ac roedd hi’n amlwg nad oedd Gareth Mainwaring yn bwriadu chwarae.

Roedd hi’n daith hir imi. Doedden i ddim wedi arfer ag yfed fel y bechgyn hun, ac wedi stopio ryw bedwar neu bum gwaith ar y ffordd, erbyn cyrraedd Dover ro’n i’n barod i droi nôl. Ond draw a ni, a chael yr anrhydedd o siario ‘stafell wely efo Wyn Lewis a Mainwaring. Gallai fod wedi bod yn waith – roedd Iants wedi rhoi love-bite imi ar fy nghoes ar y ffordd draw, a pwy a ŵyr lle fyddai wedi fy nghnoi petawn i yn yr un’ stafell.

Fel yr oedd hi, nid Luxembourg oedd y lle gorau i fod yn ystod 1984 i unrhyw Brydeiniwr. Yn anffodus, roedd dilynwyr pêl-droed Lloegr wedi gwneud llanast o’r wlad rhai misoedd ynghynt, ac yn anffodus, i’r bobl leol, ‘ro’n ni yr un fath a’r Saeson. Fe ddangoswyd eu diflaster â ni ar ddiwedd yr ail noson.

Roedd y diwrnod wedi dechrau’n dda inni. Fe gyrhaeddon ni’r cae a 15 ohonom yn barod i chwarae, hyd yn oed Dai Gutsy oedd yn diodde’ a gout. Roedd hi’n gwbl groes i’r arfer, gyda gormod o flaenwyr ar gael, ac felly fe ges i’r cyfle o chwarae ar yr asgell ac fe chwaraeodd Keith Thomas fel blaenasgellwr. Ond arwr y gêm oedd Huw Charles wrth iddo sgorio unig gais y gêm ag ennill chwaraewr y gêm wrth i’r Clwb ennill o 24-0. Aethom ‘mlaen i ddathlu yng nghlwb tîm Luxembourg a daw’r atgofion nôl o Butchie a Frankie ein diddanu ni ar y piano.

Wrth i’r noson fynd yn ei flaen, fe ddechreuodd rai o’r bechgyn grwydro i dafarnau’r ddinas, a rhai oriau’n hwyrach daith y newyddion bod rhai ohonynt wedi ei ymosod arnynt gan fechgyn lleol. Roedd yr anafiadau i Keith a Dafydd Idris yn rhai cas iawn, ond diolch i’r drefn, roedd doctoriaid di-ri yn ein plith. Wel, diolch i’r drefn…ish. Roedd Frankie yn ddoctor, ond roedd hi wedi hanner nos erbyn hyn, ac roedd hi wedi bod yn noson hir. Roedd Dafydd wedi derbyn cwt i’w geg, ac rwy’n cofio’r bore wedyn bod Frankie wedi rhoi pwyth yn ei geg, ond wedi methu’r cwt yn gyfan gwbl. Roedd gan Keith gwt anferth ar ei ben, ac i fod yn deg, fe aeth pob un o’r pwythau i’r man cywir. Beth oedd yn peri ofn oedd y ffaith fod Frankie yn sefyll uwchben Keith i roi’r pwythau fewn gyda sigâr fawr yn ei geg, gyda’r tobacco’n syrthio fewn i’r cwt agored. Mae’n syndod na aeth y cwt yn septig y diwrnod hwnnw.

Wedi hynny, fe aeth y daith yn ddigon tawel. Roedd y croeso gan y tîm lleol wedi bod yn dda, ond roedden ni gyd yn falch i fynd adref, yn enwedig y bachgen ifanc hwn nad oedd wedi cyffwrdd cymaint o alcohol yn ei fywyd o’r blaen.

Aeth sawl tymor heibio cyn imi fentro ar daith eto. Erbyn hyn, roedd cnewyllyn o deithwyr ffyddlon wedi datblygu dan arweiniaeth Gavin Rees. Roedd y pedwar neu bum tymor yn yr adeg hon fel “Golden Era” i deithio’r Clwb. Byddai Gavin yn cael ei godi yn Chepstow fel Siôn Corn gyda llond sach o bethau i’w ddefnyddio ar y daith, gan gynnwys ei lyfr bach coch i gael sgrifennu dyfyniadau cofiadwy. Gareth Wilkins oedd yn gyfrifol am ddod â’r wheel of fortune fyddai’n dod allan ar y llong, Pembers oedd yn gyfrifol am ffeinio pobl am unrhyw drosedd, a byddai’r canu’n cael ei arwain gan Steve, gydag ambell gyfraniad gan Mogs neu rywun tebyg. Byddai Gareth Hall yn dweud yn ddiweddarach bod taith ar y llong yn angenrheidiol tra’n teithio er mwyn datblygu’r teimlad o fod ar daith. Er bod pawb ar y cyfan yn bihafio ar y llong, roedd hi yn sefyllfa lle’r oedden ni yn agored iawn i deuluoedd a phlant ifanc, ac erbyn diwedd taith hir, byddai’r iaith yn gwaethygu’n sydyn. Ond, fel arfer, wrth inni sylweddoli ein bod ni wedi croesi’r ffin honno, byddai Steve yn dechrau cytgan arall o Haleliwia, a byddai gwen yn dod nôl i wynebau pawb.

Y daith nesa’ imi oedd hwnnw i San Renan yn Llydaw. Wrth inni gyrraedd Plymouth, roedden ni fel grŵp o ddynion tan, a phawb yn gwisgo helmed Sam Tan. Roedd hi’n grasboeth ar y daith draw, a buon ni’n ddigon annoeth i eistedd yn yr heulwen am awr neu ddwy a’n cegau’n sychu. Wedi hynny, yn syth i’r bar a chael lager neu ddwy gyflym, a chyn pen dim, roedd pawb wedi ymlacio’n hapus. Wedi chydig, byddai’r emynau yn troi’n Mogs yn canu “… I told the landlady my money was spent…” ac yn y blaen am ryw 6 neu 7 pennill. Yna Iants yn cael ei berswadio i ganu trên bach yr Wyddfa, cyn i grŵp o Saeson ddechrau canu. Diolch i’r drefn, roedd hyn cyn dyfodiad y Sweet chariot, neu mae’n siwr y byddem wedi ei glywed trwy’r prynhawn.

Ar ddiwedd y daith draw, nol i’r bws i fynd i’r gwesty. Byddai’r gyrrwr hwnnw, Clive(the drive) gyda ni’r flwyddyn wedyn hefyd(gyda Russ(the bus), a fyddai’n chwarae drosto’n ni ar y daith honno), a ro’n ni wastad yn teimlo’i fod yn adlewyrchiad ohonom ni fel clwb ei fod yn fodlon dod efo ni eto. Wrth inni gyrraedd y gwesty, roedd hen fenyw yna i’n croesawu. Gallai ‘mond dychmygu ei meddyliau hi wrth inni syrthio, yn llythrennol, trwy’r drws. Roedden ni wedi cael gormod o gwrw a gormod o haul.

Mae’n anodd meddwl bod y gwesty hwnnw wedi gwneud ceiniog o elw dros y diwrnod neu ddau buon ni yno. Ro’n ni’n siario ‘stafell a Pembers, ac ar y noson cynta’ honno fe aethon ni i gael cip olwg yn y gegin i weld os oedd chydig o fwyd i’w gael yno. Doedd dim bwyd ar gael, ond roedd yna win, ac fel un oedd yn adnabod gwin da, fe wnaeth Dave benderfyniad gofalus, a chafwyd “midnight feast” bach cofiadwy. Ac nid ni oedd yr unig rai yno. Roedd hanner y bois yn gwneud yr un peth a ni. Mae’n siwr ein bod ni wedi talu amdanyn nhw rywsut neu’i gilydd.

Mae gweddill yr atgofion wedi dechrau diflannu o’r cof. Mae’n bosib bod gan hyn rywbeth i wneud a’r ffaith mod i wedi gorfod canu Sloop John B ar gadair gyda photel o gwrw lan fy mhen ôl, wedi ei osod yno gan Gareth Hall. Honno oedd y noson gyntaf imi weld y gêm bleserus hynny gyda darn hir o bapur tŷ bach rhwng dau ben-ôl yn cael ei berfformio o flaen fy llygaid, ac roedd hynny’n ddigon o reswm i roi’r gore i’r gêm am byth.

Ar y cae, fel arfer, roedd hi’n fuddugoliaeth ddigon cyfforddus. Pryn yw’r atgofion, heblaw am Robin Ogwen yn derbyn cwt cas i’w lygad a Gavin yn cymryd ei le. Roedd Gavin yn chwaraewr da, na chafodd lawer o gyfle yn y tîm cynta’ oherwydd presenoldeb Brian. Roedd e’n fachwr oedd yn ffansio’i hyn fel blaenasgellwr. Yn ddiweddarach, fe siaradais a’i frawd Gareth, a oedd dim ond just yn gorffen ysgol pan oedd Gavin yn gapten ar yr ail dîm. Pan yn brin, fel oedd yn arferol, byddai Gavin yn ffonio Gareth i’w berswadio i chwarae’r prynhawn Sadwrn hwnnw. Bob tro byddai Gareth yn cytuno ar yr amod nad oedd yn chwarae yn y rheng flaen. Byddai Gavin, wrth gwrs, yn cytuno, a byddai Gareth yn troi lan yn ddiniwed ar y Sadwrn. Wrth gwrs, wrth i’r teamsheet gael ei ddosbarthu yn y clwb, byddai rhif 7 yn dweud Gavin Rees, ac wrth gwrs, rhif 2, Gareth Rees.

Wrth gyrraedd hanner amser yn San Renan, roedd y Clwb ar y blaen, ond heb ein bod ni wedi chwarae’n dda iawn. Dw’i ddim yn cofio pwy oedd yn gapten, ond fe benderfynodd y cefnwyr, Meurig a Llyr yn eu plith bod angen lledu’r bel lot yn fwy. Mae’n siwr mai hyn oedd yr asesiad cywir, ond roedd hi fel “red rag” i Gavin. Y tro cynta’ inni ennill y bel yn yr ail hanner, ffurfiwyd sgarmes, ac fe fynnodd Gavin dderbyn y bel yn safle’r mewnwr. Yn ôl y disgwyl, yn lle taflu’r bel allan, fe aeth Gavin ar ei ben ei hun am bum llath. Wrth i weddill y pac ail-ennill y bel, rywsut roedd Gavin nôl yn safle’r mewnwr, ac eto, a gwen bach cyfrwys ar ei wyneb, fe aeth ar ei ben ei hun. Roedd e’n gwybod yn iawn y byddai cadw’r bel ymysg y blaenwyr fel hyn yn gwylltio’r cefnwyr, a dyna oedd y pwrpas. Dyna fel oedd e – gwen ar ei wyneb, ac yn gymeriad i’w gael ar daith.

Enillwyd y gêm, a chafwyd noson arall i’w gofio yn y dre, yn gofiadwy diolch i ddau o’r criw cael ei harestio. Roedd hi’n od nad oedd neb fel ei bod nhw’n poeni rhyw lawer wedi i’r newyddion hyn ddod trwyddo. Galla’i ond dychmygu fod pawb wedi cymryd y byddai Steve yn delio efo’r mater. Dyna oedd yr arfer.

Roedd y rhan fwyaf o deithwyr y clwb yn chwaraewyr cyson, fyddai’n edrych mlaen trwy’r tymor at y penwythnos yn Ebrill i deithio. Ond, wrth gwrs, roedd yna rai fyddai dim ond yn dod ar y daith. Ymhlith y rhain roedd Neil, Martin Kitchener a Dai Morris. Roedd Dai wedi gadael y Clwb i ymuno a St. Peters, ond roedd yna groeso iddo bob tro ar daith, ac roedd e’n handi iawn gan ei fod yn siarad yr iaith. Wedi ail gyffwrdd a bod ar daith yn San Renan, ro’n ni’n barod ac yn edrych mlaen at y daith nesa’ i Limoges. Roedd hi’n daith bell inni draw yno, ac roedd dod nôl yn anoddach fyth. Roedd y fideos, rhyw hanner dwsin ohonynt yn eitha’ diddanol ar y ffordd allan, ond wrth inni’i gwylio nhw am yr ail a’r trydydd tro, roedd y brwdfrydedd wedi mynd.

Fe ddechreuodd un o atgofion orau’r daith cyn inni adael y Cameo. Fel teithiwr da, roedd Dave Pemberton wedi bod yn paratoi yn brysur iawn â bathodynnau unigol inni gyd. Roedd pob bathodyn â llun un o gymeriadau Viz, ac roedd hi’n bleser gwrando ar Dave wrth iddo’u dosbarthu. Roedd rhai o’r cymeriadau yn ddigon amlwg, ond roedd rhai eraill yn berlau o ddychymig Dave. Roedd Dave yn galw Meurig yn Roger Mellie beth bynnag, felly roedd hynny’n hawdd, a daeth Darren yn Daley Starr gan ei fod yn gweithio yn y wasg ar y pryd. Bedyddiwyd gyrrwr y bws yn Nobby’s Piles, Phil James yn Specky Twat, a Huw Morgan yn Captain Morgan and his Hammond Organ. Am ryw reswm, fe ddes i yn Morris Day, Sexual Pervert! Wyddwn i ddim pam. Eto mae’r atgof o Dave ar ei draed ar y bws gyda’r microphone yn ei law yn un cofiadwy iawn.

Roedd hwn i fod yn daith wahanol, gan ein bod ni’n aros gyda theuluoedd mas ‘na. Mae’n anodd credu bod rhyw ddeg o deuluoedd wedi cytuno i adael i grŵp fel ni i aros yn eu tai nhw, yn enwedig wedi’n gweld ni wrth inni gyrraedd eu clwb. Cefais yr anrhydedd o siario stafell efo Huw Morgan, ac roedd ein sgwrs yn y car o’r clwb i’r tŷ yn dra gwahanol. “Etes-vous le president de ce club” medde fi yn ceisio cofio fy ngramadeg Ffrengig, ac yn ceisio gwneud rhyw smalltalk pleserus. Roedd cyfraniad Huw yn debycach i “Nice motor, butt. Is there a kebab ‘ouse anywhere here?”. Erbyn inni adael y teulu, roedden nhw wedi gwresu at Huw, ac roedd y croeso yno yn dda.

Roedd y croeso’r un fath yn eu clwb nhw yn Limoges hefyd. Roedd yr ail noson yno yn un o’r rhai mwyaf cofiadwy imi, gyda Grundy ar ei orau, ac yna dychymyg Pembers yn dechrau gweithio i ddyfeisio’r Luge. Dim ond hambwrdd oedd y Luge, wedi’i roi ar lawr y bar, oedd a chwrw drosti. Sylweddolodd Dave y gallai eistedd ar yr hambwrdd a llithro yn y cwrw. Fe ddatblygodd hyn rhywfaint, ac mae gen i ryw atgof o Grundy, druan, yn cael ei daflu trwy ddrws ffrynt y dafarn tra’n eistedd ar yr hambwrdd.

Does gen i fawr o atgof o’r gêm a chwaraewyd yn Limoges, ond rwy’n gwybod ein bod ni wedi ennill, ac o gofio bod gyrrwr y bws wedi chwarae, mae’n rhaid ein bod ni wedi ennill yn ddigon cyfforddus. Yn anffodus, dim ots faint o fwynhad oedd bod yn Limoges, roedd y daith adre yn un hir iawn. Roedd hi’n rhyw saith awr trwy Ffrainc, ac wedyn roedd y trip nôl o Dover. Eto, doedd dim rhyw lawer i’w gynnig ar y ffordd nôl, heblaw am eistedd trwy fideo ar ôl fideo. Fel arfer, roedden ni’n hwyr yn cyrraedd y fferi, a ro’n ni’n ddigon anffodus i fod ar y bws tra roedd Russ yn ceisio’i parcio ar y fferi, ac yn methu, a bu bron i’r bws orfod symud nôl oddi ar y fferi ac aros am y nesa. Byddai hynny wedi achosi inni orfod dod o hyd i bawb, a oedd ar y fferi erbyn hyn, a’i rhoi nôl ar y bws. Yn ffodus, wedi chydig o waith, fe lwyddwyd i fforsio’r bws reit yng nghefn y llong.

Roedd hi’n daith hir nôl i Gaerdydd wedi hyn. Wrth inni fynd trwy’r customs ar y ffordd nôl, daith Wilkins allan ag un o’r dyfyniadau mwyaf cofiadwy imi glywed ar daith. “If customs stop me now, they’ll find i’m 50% sperm and 50% pastis!” Roedd y rhan ola’ hynny o’r daith hefyd yn gofiadwy am Pembers a Stumpy yn rhoi gwers beioleg inni wrth wylio un fideo ola’. Cafwyd eglurhad explicit iawn o gyrff menywod!!

Roedd pob taith wedi gwella wrth i’r blynyddoedd fynd heibio. Byddai hyn yn cyrraedd pinacl ar y daith i Leuven, ac wedyn y tymor canlynol nôl yn Llydaw. Roedd Caron Iolo a chysylltiadau yng Ngwlad Belg, a dyna sut y trefnwyd y daith yno. Roedd y ffaith mai Caron oedd yn gyfrifol yn sicrhau y byddai bechgyn Tregaron yn mynychu’r daith ac roedd presenoldeb Archie yn rhan bwysig o lwyddiant y daith. Rhan bwysig arall o drefniant y daith oedd bod Grundy wedi derbyn cyfrifoldeb casglu’r arian, ac felly erbyn mis Medi roedd rhyw 25 ohonom ni wedi dechrau talu. Wrth gwrs, roedd techneg Martin o gasglu arian ychydig allan o’r cyffredin. Yn hytrach na’r “if you remember, could you bring some money next week as a deposit for the end of season tour” oedd i’w glywed fel arfer, be glywyd oedd, “John, how much money have you got in your pocket now…give it to me”. Roedd hyn yn ffordd effeithiol iawn, gan nad oedd gan unrhyw un yr hyder i wrthod.

‘Dwi ddim yn cofio gadael y Cameo’r noson honno, ond rwy’n cofio’n bod ni wedi treulio amser yno cyn cychwyn ar ein ffordd. Roedd hi’n angenrheidiol felly fod ty-bach gyda ni ar y bws, ac fel arfer, doedd y ciwbicl hynny ddim yn le pleserus wedi chydig o amser – yn ddrewllyd iawn, a llawer o hylif ar y llawr. Roedd gwraig Caron wedi derbyn cynnig lifft ar y bws ar y ffordd draw, ac rwy’n cofio teimlo mor flin drosti yng nghanol y nos wrth inni deithio. Roedd y rhan fwyaf o’r bechgyn yn cysgu, ac roedd fideo mlaen(eto), ac roedd y ty-bach yn ffiaidd yn barod. Mae’n rhaid ei bod hi wedi ceisio am oriau i beidio gorfod mynd, a galla’i ond dychmygu ei theimladau hi wrth fynd lawr y grisiau i dy-bach tywyll a brwnt.
Mae’n drueni bod pob taith ar y fferi yn debyg iawn i’w gilydd ac mae’n anodd ceisio cofio un o’r llall.

Erbyn taith Leuven, yn sicr doedd dim Wheel of Fortune, ond ai dyma’r daith pan aeth cleddyf y consirwr ar goll, ac a ailymddangosodd rywsut ar ein taith nôl i Loegr? Neu ai hwn oedd y daith pan fu Gareth Hall yn chwarae Song for Guy, ac wedyn eto, ac wedyn unwaith eto gan nad oedd yn gwybod sut i chwarae unrhyw beth arall? Gareth oedd wedi sefydlu safon o ryw fath ar gyfer taith. Yn ei farn e, roedd unrhyw daith dda yn mynd i gynnwys trip ar fferi, ac i raddau, roedd e’n iawn. Roedd y pump neu chwe awr yng nghwmni ein gilydd yn gosod sail ar gyfer y penwythnos, ac roedd y canu a’r gemau yn rhan bwysig o osod y sail honno. Sgwn i, ai hwn oedd y daith pan gollwyd Angus wrth inni ddod oddi ar y fferi, a gorfod aros am ryw awr hyd nes dod o hyd iddo?

Wedi cyrraedd Leuven, fe sylweddolo’n ni ein bod ni wedi cyrraedd rhyw baradwys fach. Do’n i ddim yn gwybod ar y pryd fod Stella Artois yn cael ei bragu yn Leuven. Doedd dim opsiwn at beth i’w yfed, felly. Roedd Stella ym mhobman ac wrth gwrs roedd y Stella’n dda iawn. Fe sefydlo’n ni’n hunain y noson honno ym mhrif sgwâr y dre. Er bod yna ryw atgofion o ffieidd-dra rai o fechgyn Tregaron, yr un cliria’ yw hynny o Stumpy’n ceisio peidio â mynd i gysgu. Roedd e’n eistedd ar gadair, a phob nawr ac yn y man, bydda’i ben yn dechrau syrthio lawr o’i flaen a’i lygaid ar gau. Yna, byddai’n dihuno a chodi ei ben yn sydyn. Wrth wylio hyn, dechreuwyd gwaedd o “whoaaa…..” ac yn wrth i’w ben godi eto “….hehhhhhh” gyda phawb yn clapio. Doedd gan Andy’r un syniad ein bod ni yn ei wylio fe, ac wrth iddo godi’i ben, byddai fe hefyd yn clapio ac edrych o gwmpas i weld pwy oedd yn gyfrifol am yr holl firi, heb sylweddoli mai tuag ato fe ro’n ni gyd yn edrych. You had to be there…

Roedd hi’n ddechrau addawol i’r daith felly, ond fe fyddai’n gwella a phob dydd. Y bore wedyn, roedd trip i fragdy Stella Artois wedi’i drefnu, ac er ei fod yn rhywfaint o “busman’s holiday” imi, roedd gweld maint yr adeiladau yno yn gofiadwy. Beth oedd yn fwy trawiadol oedd y croeso a gynigwyd gan y bobl yno. Efallai ei bod nhw wedi sylweddoli ein bod ni’n debyg o wario digon o arian ar gwrw dros y diwrnodau nesa’ ac mai croeso da oedd y peth lleia’ y gallent ei gynnig. Daeth poteli neu cans o gwrw i bob un ohonom, ac wedyn, chydig yn llai disgwyliedig efallai, sawl cerdyn post(gyda photel o Stella ar eu blaen, wrth gwrs) inni ei hysgrifennu iddyn nhw gael postio nôl adre inni. Fe aeth pawb ati felly yn ddigon synhwyrol i ‘sgrifennu carden i’w ddanfon adre a gwerthfawrogi’r cyfle i awgrymu ein bod ni wedi meddwl am ein teuluoedd tra’i ffwrdd. Ond wrth gwrs, cafodd rywun y syniad o ddanfon cerdyn yr un at rywun oedd wedi methu â dod ar y daith. Dw’i ddim yn cofio at bwy y danfonwyd y cardiau – Tony Vobe efallai- ond fe fyddwn ni wedi talu i weld ei wyneb wrth i ryw 25 cerdyn ddod trwy ei ddrws a phob un a photel o Stella ar y blaen.

Wedi’r daith rownd y bragdy, bu’n rhaid chwarae gem o rygbi. Roedd y tywydd yn braf, ac yn ein siwtio ni, a doedd hi ddim yn syndod inni ennill y gêm yn reit gyfforddus. Roedd rhai o’r bechgyn wedi bod wrthi yn y bar trwy gydol y gêm, ac fe ymunodd y gweddill ohono’ ni yn syth wedi’r chwiban ola’. Eto, roedd hon i fod yn un o’r nosweithiau lle fyddai Archie ar ei orau. Fe ddechreuodd pethau’n reit synhwyrol. Yna, am ryw reswm, dyma Archie’n sefyll ar ei draed ac egluro’i fod yn dwym iawn, a gofyn a fyddai pawb mor garedig ag ymuno gyda fe a thynnu’i ‘sgidiau a sanne bant. Dim problem, a bant a nhw. ‘Chydig yn ddiweddarach, cododd ar ei draed eto a gofyn a fyddai pawb yn fodlon tynnu’u crysau bant hefyd. Erbyn hyn, roedd hi’n amlwg bod rhywbeth ar y gweill. Wrth gwrs, cyn pen dim, daith y cwestiwn nesa’, “A fyddai pawb yn tynnu’u trywsus gyda fe”. Eto, doedd hyn ddim yn broblem – wel doedd hi ddim yn broblem i’r rhan fwyaf ohono’ ni. Mae’n rhaid bod Archie wedi sylweddoli nad oedd Kev wedi gwisgo dim byd dan ei drywsus wedi’r gêm, ac wedi tynnu ei drywsus, roedd e’n eistedd yno a’i wyneb yn goch, a gwen mawr ar ei wyneb. Fe aeth pethau mlaen yn yr un modd am ryw awr fach, gyda gem neu ddwy yn cael ei chwarae. Roedd hi’n ddigon diogel inni fwynhau yno gan fod y bar wrth ochr y cae, a doedd neb arall o’n cwmpas.

Sut ddechreuodd y gamp nesa’, dwi ddim yn siwr, ond yn sydyn, dyma Pembers a Dai Morris yn codi ar eu traed a chytuno i gael sumo wrestle wrth ymyl y bar. Diflannodd dillad y ddau, heblaw am bâr o bants yr un, a dynnwyd yn dynn ac yn uchel ar eu cyrff. Gallai’r chwarter awr nesa’ fod wedi dod o ryw ffilm du a gwyn o’r 30au, wrth iddynt strytio o gwmpas, yn taflu tywod ar y llawr o flaen ei gilydd a gwaeddi ar ei gilydd mewn rhyw acen Siapaneaidd. Roedd hi’n foment gofiadwy iawn, a ro’n ni’n falch mod i wedi dod â chamera ‘da fi i gael tynnu lluniau cofiadwy. Ond eto, ar y daith honno, roedd yna fwy o firi cofiadwy i ddod.

Roedd y noson eto’n gofiadwy, gyda’r rhan helaeth o’r bois yn cwrdd ym mhlas Leuven, a chyn diwedd y nos, dau o’r bechgyn yn cael eu harestio am ail greu’r Sumo yng nghanol y plas agored.

Rhywsut, roedd diwrnod sbâr i’w gael cyn ail gêm y daith, ac fe benderfynwyd i deithio i Frwsel am y diwrnod. Am ryw reswm, fe aethon ni ar y trên yn hytrach na’r bws, efallai er mwyn rhoi cyfle i’r gyrrwr ymuno â’r sbri. Pwy a ŵyr beth aeth trwy’i feddwl wrth wylio ni trwy’r prynhawn hwnnw. Fe ddechreuodd pethau’n ddigon tawel. Ar y trên, dim ond Stumpy gafodd rhywle i eistedd, a hynny mae’n siwr oherwydd bod rhywun wedi meddwl ei fod rhyw ddeng mlynedd yn hun nag yr oedd mewn gwirionedd. Ond wedi eistedd, doedd dim modd stopio Stumpy wrth iddo ddechrau siarad yn ddi-baid a dwy nun am y daith gyfan. Ro’n ni wedi amau na fyddai’n dod oddi ar y trên efo’r gweddill ohono’ ni ym Mrwsel. Ond, wrth inni gyrraedd, roedd Stumpy efo ni wrth inni ddechrau ar brynhawn cofiadwy arall.

Roedd Meurig Phillips yn un o deithwyr selog y Clwb, a ro’n ni gyd yn gallu dibynnu arno i’n diddanu. Ond ychydig wedi inni gyrraedd Brwsel, roedd e wedi rhoi ei ddwylo ar rywbeth fyddai’n dod â gwen i’n wynebau. Dwi ddim yn siwr o le y daith e ( skip neu bin, yn bosib) ond fe ymddangosodd Meurig rownd rhyw gornel yn cario jiráff melyn, tua phum troedfedd o daldra a gwen hurt ar ei wyneb. Mae gen i lun ohono jyst wrth iddo ddod yn agos gyda “Gerald” dan ei fraich a gwen mawr ar ei wyneb. O’i gwmpas mae Dai Morris, Grundy a Scott yn chwerthin yn ddi-reolaidd wrth ei wylio. Fe fyddai’r jiráff hwnnw yn fascot inni am y 24 awr nesa.

Ro’n ni’n digwydd bod yng nghanol ardal golau coch Brwsel ar y pryd, ac anghofia’i fyth gweld Meurig yn cerdded at rai o’r ffenestri yno yn gofyn faint fyddai’n costio i’r jiráff am awr fach gydag un o’r menywod. Roedd yr ymateb yno yn ddigon syn. Wedi chydig o gerdded, deuthum o hyd i far reit yng nghanol y ddinas, gyda digonedd o le i eistedd tu fas. Rwy’n falch imi fynd â chamera ar y daith, gan fod yna ddigon o luniau o’r prynhawn hwnnw, gan gynnwys rhai o’r jiráff a gwelltyn yn ei geg yn ceisio yfed cwrw. Fe waethygodd y tywydd dros yr awr nesa, ac felly mewn a ni i eistedd lan llofft, a chael prynhawn cofiadwy arall dan arweiniaeth Archie. Roedd rhai o’r stalwarts wedi aros tu fas yn y glaw, a doedd hi ddim yn syndod i neb i weld mai Grundy oedd yr ola’ i ddod fewn ar ôl iddo siario’i beint gyda’r jiráff. Mae’n rhaid bod y bar hwnnw wedi gwneud ffortiwn drwy’r prynhawn wrth i bawb fwynhau a chwarae gemau. Erbyn hyn, ro’n ni wedi cwrdd â dau foi o Fiji ac fe benderfynodd y ddau ymuno â ni am y noson a’n dilyn ni nol i Leuven.

Ond fe fyddai gadael y bar chydig yn anoddach. Ro’n ni nawr reit yng nghanol Brwsel, ac wedi bod yn yfed am sawl awr, ac roedd yna rai o’r bois chydig yn waeth na’r arfer. Felly, wrth adael y bar, fe benderfynodd rhywun y byddai’n rhaid codi Chris Coch a’i gario nôl i’r orsaf, fel rhyw funeral procession. Yn sydyn, fe ymddangosodd heddlu’r ddinas, ond i fod yn deg, doedden nhw ddim am wneud dim ond sicrhau ein bod ni’n cyrraedd yr orsaf ac yn gadael y ddinas. Fe glywais sôn ei bod nhw wedi defnyddio’r gwersi a ddysgwyd y diwrnod hwnnw fel rhai o’u paratawiadau tuag at Euro 2000.

Rhywsut, fe gyrhaeddo’n ni nol yn Leuven ac ail ddechrau ar y sbort. Roedd y jiráff yn dal i fod yn ein plith, ond roedd e wedi dechrau dioddef erbyn hyn yn nwylo Pembers, a benderfynodd wneud rhyw rectal lobotomy gan agor ei ben-ôl gyda chyllell. O’r eiliad hwnnw, fe ddechreuodd Gerald golli pwysau’n sydyn iawn, wrth i’w stwffin ddod allan yn raddol o’i ben-ôl. Fe barhaodd y noson yn hapus mewn bar ar bwys y gwesty, gyda’r ddau o Fiji yn dal i fod yn ein plith. Dw’i ddim yn gwybod lle’r arhoso’n nhw’r noson honno, neu sut y llwyddo’n nhw i deithio nôl i Frwsel.

Fe allai hynny wedi bod yn ddigon ar gyfer un daith, ond roedd un gêm yn weddill, yn erbyn Aarendonk. Y sôn oedd na fyddai’n nhw yn rhoi rhyw lawer o gêm inni, a rhaid dweud fod hynny yn beth da. Fe aeth y gêm heibio yn ddigon digyffro, gyda buddugoliaeth arall, a phawb yn cael gem. Fel yr arfer, ro’n ni wedi cyflawni taith yn ddiguro. Chwarae teg i Aarendonk, ro’n nhw wedi paratoi pryd anferth o fwyd wedi’r gêm. Roedd byrddau wedi cael eu lleoli wrth ymyl y cae, ac eto felly, roedd ardal breifat gyda ni i fwynhau. Roedd hynny eto yn beth da, gan fod rhai o’r perfformiadau’r noson honno yn fythgofiadwy – fyddai’n ddiddorol gwybod beth oedd barn Aarendonk am y noson, ond gallai feddwl eu bod nhw wedi’n gwylio ni’n syn.
Am yr ail dro, cefais weld darn o bapur tŷ bach yn cael ei losgi rhwng dau ben ôl gyda Meurig yn arwain y gad os yw’r cof yn iawn. Dwi ddim yn siwr pwy oedd yn cymryd rhan, ond yn sicr rwy’n cofio Archie’n dioddef, a hefyd Steve Lloyd yn cael ei hiwmilieiddo rhywfaint. Diflannodd Chris Coch i ben rhyw ffens oedd yn digwydd bod yno, ac aros rhyw 20 medr yn yr awyr am y rhan fwyaf o’r noson, ac yna’r piece de resistance, Caron yn gwneud rhyw “disappearing act”(fydd pwy bynnag oedd yno’n deall!!) gyda rhyw 50 darn o arian. Gwaeth na hyn oll yw cofio fod pawb wedi hyn wedi gorffen ei diodydd gyda Daf Iolo wedi rhoi un o’r darnau o arian yng ngwydr pob un ohonom. Mae pethau’n teimlo fel sbort ar y pryd, ond wedi aeddfedu, ac wrth edrych nôl ar bethau fel hyn….

Wedi hyn, mae’r atgofion wedi diflannu hyd nes inni gyrraedd Lloegr eto. Wrth inni gyd ddechrau edrych ‘mlaen at fod adre ‘to, fe dorrodd y bws lawr rhywle tua Llundain. Fe ddiflannodd y gyrrwr gydag un o’r bechgyn i ddefnyddio’r ffon, ac fe eisteddodd y gweddill ohono’ ni tu fas i’r bws yn dawel ac yn ddiflas, a phawb wedi blino. Nid am y tro cyntaf ar y daith, daeth Archie i godi’r ysbryd eto. Fe safodd o’n blaenau, gyda phawb yn eistedd fel plant ysgol a’n coesau wedi croesi, yn darllen magazine oedd rhywsut wedi ymddangos ar y bws. Fe ddarllenodd fel athro ysgol, yn araf, ac yn bendant, ac yn dweud pob gair yn araf ac yn eglur iawn. Fe aeth ton ei lais i fyny a lawr wrth iddo ddisgrifio’r stori mor lliwgar ac oedd yn bosib. I unrhyw un oedd yn mynd heibio, mae’n rhaid ei bod hi wedi bod yn olygfa od, gyda rhyw 25 ohono’ ni’n eistedd ac yn gwrando’n astud ar bob gair oedd yn dod o geg yr athro. Roedd hi’n ddiweddglo cofiadwy iawn i daith gofiadwy iawn.

Y daith nesa’ imi fyddai’r daith ola’ hefyd. Roedd hi’n gofiadwy am resymau gwahanol, gan nad oedd cymaint o gymeriadau yno, ond roedd tîm cryf iawn, ac am unwaith, daith y tîm yn agosach at ei gilydd wedi chwarae, a bod yn fuddugol, yn y gêm gyntaf. Roedd y croeso ym Mrest yn arbennig, ond dwi ddim yn meddwl y byddai rhyw lawer o groeso eto yn yr ail dref y buon ni. Ro’n nhw’n ddigon hapus i gael ein gwared ni.
Am unwaith, roedd y vets wedi ymuno â’r clwb ar y daith. Roedd tîm digon cryf efo nhw, ond yn anffodus, oherwydd prinder lle ar y fferi, bu’n rhaid i rai ohonynt deithio diwrnod yn gynnar, ac fe aeth pob gobaith o ennill ei gem allan trwy’r ffenest wedi’r diwrnod ychwanegol hwnnw. Wrth inni gyrraedd Brest, roedd yn amlwg fod yr advanced party wedi bod wrthi drwy’r dydd, ac fe gadarnhawyd hynny wedi iddynt fynd allan i’r cae. I fod yn deg, roedd tîm vets Brest yn gryf ac fe gollodd ein vets ni yn drwm. Roedd hyn wrth gwrs yn sbardun mawr inni oedd yn chwarae yn erbyn tîm cynta’ Brest. Wrth inni newid, roedd ein hagwedd tuag at y gêm wedi newid yn gyfan gwbl. Yn sydyn, roedd hi’n bwysig iawn ein bod ni’n ennill y gêm, ac yn hytrach na phenderfynu taflu’r bel o gwmpas i fwynhau, fe benderfynwyd chwarae’n fwy pwrpasol nag erioed o’r blaen ar daith.

Allan ar y cae, lle’r oedd sgarmesu a thaclo’n ddibwys fel arfer ar daith, fe daclodd pawb fel petai’i bywydau’n dibynnu arni. Doedd dim un achlysur yn y gorffennol lle bu’n rhaid i’r Clwb chwarae cystal ar daith. Ar hanner amser, doedd dim sgôr, ond ychydig fewn i’r ail hanner, bylchodd Llyr Roberts a sgorio cais a’i droswyd. Wedi rhyw ugain munud arall o daclo ac amddiffyn, daith y gêm i ben a’r sgôr yn 7-0 i ni. Dyna pryd y dechreuodd y daith o ddifri i’r rhan fwyaf ohono’ ni. Cafwyd noson dda gyda chwaraewyr Brest y noson honno, cyn teithio i dref arall ar gyfer ein hail gêm. Fe aeth yr ail gêm hynny’n ddigon tawel, gyda buddugoliaeth gyfforddus inni. Yr unig beth cofiadwy oedd y bws yn methu symud allan o’r cae gwlyb ar ôl y gêm.

Roedd y noson yn gofiadwy diolch i Rhidian, Grundy a Llyr Williams. Dechreuodd Llyr drwy egluro ei fod yn gallu gwaeddi “Red Army” trwy gydol gem wrth wylio Wrecsam yn chwarae. Er na ofynnwyd iddo, fe benderfynodd brofi’r pwynt a dechrau. “Red Army…Red Army…Red Army…” Ro’n ni gyd wedi cael digon wedi munud neu ddwy, ond ymlaen a fe “…Red Army…” . Roedd rhyw chwaraeon yn cael ei ddangos ar sgrin fawr, a phenderfynodd Grundy a Rhidian perfformio yn erbyn y sgrin. Roedd Grundy’n arbennig. Roedd paffio ar y sgrin, a safodd Martin ar ei draed a dechrau paffio yn erbyn un o’r dynion ar y teledu-shadow boxing o ryw fath. Wrth i un o’r bocswyr daflu dwrn, byddai Martin yn plygu, ac yna codi ‘to a thaflu jab neu ddwy. I’r rhai hynny ohono’ ni oedd yno, roedd hi’n gyfraniad cofiadwy arall. Wrth gwrs, drwy hyn oll, roedd un llais cryf yn y cefndir “…Red Army…Red Army…” Fe aeth Llyr ‘mlaen am ryw awr, er nad oedd neb yn gwrando arno.

Roedd y diwrnod ola’ yn un sbâr, gyda’r fferi yn gadael yn hwyr y noson honno. Cafwyd diwrnod bach anghyffredin yn chwarae pool mewn bar, ac yna gwylio Rhys Angell ac Angus yn cael eu perswadio i fynd i nofio mewn afon leol. Fe’n perswadiwyd i adael am y fferi yn reit gynnar, a gan ein bod ni wedi ennill amser da, fe lwyddo’n ni berswadio gyrrwr y bws i aros mewn bar bach arall i gael Guinness ddiwetha’ cyn cyrraedd y fferi. Roedd amser ar gyfer un sefyllfa od arall cyn inni gyrraedd y fferi, pan stopiodd y gyrrwr i godi dwy ferch oedd yn ceisio cyrraedd y porthladd. Pwy a ŵyr beth oedd ar eu meddyliau nhw wrth sefyll ar flaen y bws, o dan y sgrin deledu, gyda sŵn fideo addysgol reit uwch eu pennau.

Am unwaith roedd ‘stafelloedd gyda ni, ac fe glôdd un neu ddau ohonom ni’r drws i gael noson dda o gwsg. Roedd ‘stafelloedd wedi bod gyda ni unwaith yn y gorffennol, ond wrth gwrs fe glowyd rhai o’r drysau cyn bod y stafelloedd yn llawn, ac fel canlyniad, bu’n rhaid i rai o’r bois gysgu lan lofft. Dyna’r flwyddyn pan fu Pembers yn chwilio’n hir am ‘stafell, pan ddaeth ar draws un lle’r oedd Steve Lloyd ar ei ben ei hun. Diolchodd Dave ei lwc wrth orwedd lawr yn gysurus i gysgu. Ond awr neu ddwy yn ddiweddarach, fe ddihunodd yn sydyn, gyda swn fyddarol yn ei glustiau. “I thought i must have fallen asleep in the engine room” oedd ei atgof, cyn iddo sylweddoli ei fod yn gwrando ar Steve yn chwyrnu! Pan gyrhaeddo’n ni nol ym Mhrydain, roedd pawb yn awyddus i gyrraedd adre, pawb heblaw am un. Rwy’n cofio’n glir gwylio Rhys Angell yn cerdded trwy customs gyda chan o lager cryf yn ei law a gwen mawr ar ei wyneb.