Share Button

Hyd nes i’r cynghreiriau ddechrau, dim ond y ddau gwpan a rhai cystadlaethau 7 pob ochr oedd yn creu unrhyw gemau cystadleuol i ni. Roedd pwysigrwydd y gemau hyn yn fawr felly, ac er nad oedd neb o ddifri yn meddwl y gallem ennill y Brewers, er enghraifft, roedd hi yn rhoi targed i ni anelu tuag at – efallai rhywbeth syml fel sicrhau ein bod ni’n dal i gystadlu yn y cwpan erbyn y Nadolig. Roedd hyn hefyd yn help i gadw diddordeb y chwaraewyr cadw ei ymroddiad tuag at ymarfer. Nol ym 1988, fe gollo’n ni yn rownd gyntaf y Mallett a’r rownd cyn-gyntaf(preliminary) yn y Brewers, ac felly roedd y diddordeb wedi mynd cyn diwedd mis Medi. Ac felly y bu trwy gydol fy ngyrfa. Gobeithio am gêm adre, yn erbyn tîm gwan, gan obeithio llwyddo mynd trwy’r grŵp a chael gem yn erbyn tîm oedd wedi trechu mewn grŵp gwan. Roedden ni wastad mewn grŵp efo Fairwater neu’r Buns, ac roedd felly yn anodd iawn i barhau.

Nol yn fy nhymor cyntaf, 1983-4, ro’n ni’n chwarae dros yr ail dîm pan gollodd y tîm ym Medlinog o 13-7. Roedd hi’n gêm agos yn ôl pob sôn, ac fe aeth Bedlinog ‘mlaen i gyrraedd y rownd gynderfynol. Byddai hyn( colli i un o’r timoedd llwyddiannus) yn digwydd yn gyson dros y blynyddoedd i ddod.
Blwyddyn yn ddiweddarach, ro’n i’n rhan o’r tîm cyntaf, wrth inni ddechrau’n cwest efo gem oddi-cartref yn y Tyllgoed. Heddiw, fe fyddai’n amhosib ennill yno, ond ar y pryd, doedden nhw ddim cystal, ac fe deithio’n ni i’r cae ar bwys y ganolfan hamdden fel ffefrynnau. Roedd hi’n ddiwrnod gwlyb nad oedd yn siwtio’n dull ni o chwarae, ond wrth agosáu at funudau ola’r gêm, ro’n ni rhyw ddeg pwynt ar y blaen yn amddiffyn am ein bywydau. Mae’r atgof yn glir o weld cefnwyr y Tyllgoed yn lledu’r bel yn ein dwy-ar-hugain, ag Eryl yn rhyng-gipio ac yn mynd fel trên( cymhariaeth dda wrth ystyried ei swydd nawr!!) i groesi dan eu pyst. Rhyw 6 tymor yn ddiweddarach, byddai Llyr Roberts yn cael cyfle tebyg, ond gyda diweddglo gwahanol…

Felly rownd cynta’ buddugol, a chael ein tynnu mas o’r het i deithio i Glyncorrwg am yr ail rownd. Roedd pethau’n ddigon difrifol y dyddiau hynny, ac fe aeth DH i’w gweld yn chwarae ymlaen llaw. I fod yn deg iddo fe, roedd e flynyddoedd o flaen ei amser. Fe sylweddolodd fod gan Glyncorrwg bac mawr, a chefais orchymyn ganddo i gymryd unrhyw gic cosb yn gyflym-tap and run-er mwyn eu troi nhw a’i blino. Erbyn y nawdegau, byddai pawb yn defnyddio’r dacteg hyn i gyflymu gêm.

Yr unig beth arall oedd i wybod am Glyncorrwg oedd bod un ffordd yn mynd fewn i’r pentre’, ac mai hwnnw oedd yr unig ffordd allan hefyd. Ond doedd neb wedi egluro wrth yrrwr y bws pa mor anodd byddai cyrraedd yno, ac wrth i’r bws fethu â chroesi pont fach ar y ffordd fewn, gwnaed y penderfyniad o newid yn y bws. Wrth gofio hyn, does dim syndod na llwyddo’n ni godi’n gem a’i hennill. Fel oedd hi, fe chwaraeon ni’n dda a sgorio cais, Emyr Jones dwi’n meddwl, yn ystod yr hanner cyntaf. Fe fethais i a chic gosb o flaen y pyst yn yr ail hanner, ac rwy’n cofio bod yn ddiolchgar iawn i Ieu Walters wrth iddo gicio cic adlam munudau’n ddiweddarach. Roedd hi’n dal i fod yn dyn ar y diwedd, ond ro’n nhw ‘chydig yn rhy gryf ymysg y blaenwyr, ac fe gollo’n ni o 20-12. Roedd hi’n drueni, ond cafwyd croeso arbennig yn eu clwb nhw wedyn a noson i’w gofio. Roedd Vodka’n cael ei ddosbarthu’n rhad iawn yno, ac rwy’n cofio teimlo fel oedolyn wrth siario rownd efo Huw Bristol a’i wraig Helen oedd wedi bod yn athrawon imi ryw flwyddyn ynghynt. Ond roedd breuddwydion y cwpan wedi mynd am dymor arall, ac wrth gwrs, fe aeth Glyncorrwg ‘mlaen i godi’r cwpan.

Y tymor canlynol, fe dynnwyd Llanrumney o’r het i’n chwarae ni ar gaeau Llandaf. Eto, pryd hynny, doedden nhw ddim cystal tîm ag maen nhw dyddiau hyn, ond roedden nhw yn dechrau datblygu. Fel yr oedd hi, y flwyddyn honno roedden ni wedi eu croesawu nhw i Landaf ar gyfer gêm yng nghwpan y Mallett rhyw bythefnos ynghynt. Roedd hwnnw wedi bod yn gêm glos iawn, gyda ni ar y blaen am y rhan fwyaf o’r gêm gydag Archie, Huw Hall a Iants yn sgorio, Iants yn croesi wedi iddo ryng-gipio ar hanner ffordd. Ond roedd pethau’n dal i fod yn dynn, ac roedden ni dal yn colli wrth i’r diwedd nesáu. Roedd y dyfarnwr yn digwydd siarad Cymraeg, a phan gawsom dair cic gosb yn y munudau ola’, roedd digon o swn yn dod o ymyl y cae. Aeth y ddwy gic cosb cynta’ heibio’r pyst, ond reit ar ddiwedd y gêm, aeth y trydydd trwy’r canol, ac enillwyd y gêm o 32-31.

Doedd chwaraewyr Llanrumney ddim yn hapus o gwbl, yn enwedig pan aeth darn i’r Echo ar y nos Fercher canlynol yn sôn am y gic fuddugol “in the face of vociferous barracking”! Felly pan ddaeth gem y Brewers, roedd ganddyn nhw ddigon i’w brofi, ac roedden ni falle’n meddwl na allwn ni chwarae mor sâl eto. Fel y trodd hi allan, roedd Llanrumney yn haeddiannol o’u buddugoliaeth wrth inni golli o 21-9 a chafwyd digonedd o eiriau caredig oddi wrth ei chwaraewyr wrth inni ddychwelyd i’r Gyfnewidfa Lo y pnawn hwnnw.

Erbyn y tymor canlynol, roedd y tîm wedi cryfhau rhywfaint, a’r gobaith oedd i gael ‘chydig o lwc yn y gemau cwpan. Cafwyd gem adre yn y rownd gyntaf yn erbyn Crughywel, tîm nad oedd neb yn gwybod rhyw lawer am, er bod Frankie’n byw yn yr ardal. Dydy’r gêm ddim yn gofiadwy iawn, er imi gofio’i bod hi’n sych ac yn siwtio’n ffordd ni o chwarae, ac fe fuon ni’n fuddugol o 52-0. Roedd hynny wedi bod yn reit gyffyrddus, o’n fe dynnwyd ein henw mas o’r het i deithio i Gwm Rhymni yn yr ail rownd i gwrdd â Phontlottyn. Y disgwyl oedd y byddai unrhyw glwb o’r cymoedd yn debyg i fod yn gryf, yn enwedig ar eu tir ei hunain. Fe ohiriwyd y gêm ar y Sadwrn oedd wedi ei benodi ar ei gyfer, ac fe’i chwaraewyd hi yn y pen draw bythefnos yn ddiweddarach. Fe roddodd hyn ongl ‘chydig yn ychwanegol i’r gêm, gan inni dynnu Tregaron yn y rownd nesa’. Roedd cysylltiad mawr efo’r Clwb a Thregaron ar y pryd, ac fe ddaeth hi’n amlwg imi fod y gêm yn erbyn Pontlottyn yn un oedd yn rhaid ei ennill.

Roedd y tywydd wedi bod yn gas, a doedd y cae ddim yn ein siwtio ni o gwbl. Roedd hi’n wlyb, ac roedd niwl isel dros y cae. Yr atgof arall oedd lliw tywyll y tir. Ro’n ni yn ardal y glo, ac roedd y pridd yn ddu. Ond roedd hi un o’r diwrnodau hynny pan chwaraeodd y clwb yn gryf iawn. Roedd y daith i Dregaron yn un deniadol iawn ac fe ddangosodd hynny yn ein chwarae. Sgoriwyd cais cynnar, ac wedi hynny roedd y canlyniad yn ein dwylo ni ein hunain, ac fe aethom ni ‘mlaen i sgorio pum cais arall, ac ennill o 24-0. Troswyd ddim yr un o’r ceisiau, ac felly rwy’n siwr ei bod hi wedi bod yn ddiwrnod anodd iawn i bwy bynnag oedd yn cicio’r adeg hynny!!

Unwaith eto, cafwyd noson a chroeso da yno. Roedd Wilkins wedi ei magu yn yr ardal, ac roedd hi’n amlwg ei fod e’n mynd i ennill yr “yard of ale”. Roedd hynny’n ddigon teg wrth gwrs, ond roedd yn anffodus braidd i Gareth gan ei fod wedi ei ddal yng nghlwb Whitchurch yr wythnos flaenorol. Roedd hi’n syndod faint o’r tîm adawodd Whitchurch yn gyflym wedi’r gêm y diwrnod hwnnw, nes mai dim ond Iants, Gareth a fi oedd yn weddill. Daith un o’u chwaraewyr nhw draw efo’r “yard”. Cododd Iants allweddu ei gar yn reit sydyn, ac rhywffordd, fe ddewiswyd rhwng Gareth a fi. Yn ffodus imi, “enillodd” Gareth. Felly, ro’n ni yn teimlo drosto ‘chydig wrth iddo gael yr ail un lan ym Mhontlottyn, ond dim ond ‘chydig. O leia’ roedd e’n gallu yfed ei gwrw, a’i chadw lawr, ddim fel Rhys Bala yn y Clwb hwnnw wrth City Rd, pan ddiflannodd ei “yard” ac yna ail-ddangos, ac wedyn diflannu eto. Ond roedd hynny’n stori arall. Ac felly mlaen a ni i Dregaron ar Ragfyr 20fed 1986.

Ro’n i ar y pwyllgor dewis ar y pryd, ac rwy’n cofio pa mor anodd oedd dewis tîm cyfan ar gyfer y gêm. Roedd y rhan fwyaf yn ddigon syml. Roedd y rheng flaen o Frankie, Brian a Wyn yn dewis ei hunain, ac roedd Dafydd Idris a Pembers yn gwneud cyfuniad da yn yr ail reng. Roedd Butchie heb ei ail fel mewnwr, ac roedd Huw Jones yn dod â’r elfen greadigol y tu fas iddo. Eto, roedd cyfuniad da yn y canol rhwng Beuno a Wyn Thomas, ac roedd Wyn yn cyfrannu efo’i droed dde hefyd. Ar y ddwy asgell roedd Tudor Young ac Emyr Jones, y naill yn gryf a phwerus, a’r llall yn gyflym ac yn dwyllodrus. Y tu cefn inni gyd, roedd Llyr Roberts, ar y pryd yn ifanc, cyflym ac yn gryf o dan y bel uchel. Roedd hi’n dîm da, doedd dim dwywaith am hynny, ond roedd angen digon o drafod cyn inni gytuno ar y rheng ôl.

Ro’n ni’n ymarfer ar y pryd ar, neu yn llythrennol, o dan Barc yr Arfau. Roedd digon o le i’r cefnwyr taflu’r bel o gwmpas, ac roedd pit tywod i ni’r blaenwyr ymarfer sgrymio cymaint ag oedd yn bosib.

Roedd caniatâd inni ddefnyddio’r trac rhedeg hefyd, ac er nad oedd hi’n berffaith, roedd hi’n deimlad da i fod yno. Felly, ar ôl ymarfer, y lle doethaf i gwrdd a dewis tîm oedd Clwb Ifor. Rwy’n cofio eistedd yno gyda Huw Jones ac un neu ddau o’r chwaraewyr eraill-Huw Hall a Wyn Lewis mwy na thebyg. Roedd Huw Hall yn mynd i fod yn un o’r blaenasgellwyr, a ro’n i’n gobeithio fod yn Wythwr. Roedd hi’n ddewis syml felly am y safle ola’ rhwng Wilkins a Dai Lewis. Fe fuon ni’n pendrymu am amser hir, a dw’i ddim yn siwr ein bod ni wedi cytuno, ond erbyn y diwedd roedd rhaid dewis un o’r ddau, ac felly at Gareth y tro’n ni, gan obeithio am gêm gyflym agored i fanteisio ar ei ieuengctud i gymharu â Dai. Wrth edrych nôl, fe drodd hi allan i fod yn un o’r gemau hynny fyddai wedi siwtio Dai i’r dim.

Mae’r diwrnod ei hunan wedi diflannu rhywfaint o’r cof. Fe arhoso’n ni ym Mhont Abram ar y ffordd lawr, ond er hynny, roedden ni dal yno mewn amser da. Doedd hyn ddim yn beth da, gan iddi roi fwy o amser i sylweddoli pwysigrwydd y gêm ac i sylweddoli bod camerâu BBC yn mynd i fod yn gwylio. Doedd hi ddim i fod yn brynhawn cyffredin. Wedi cyrraedd y cae, fe amlygodd hi na fyddai chwarae gem agored gyflym yn debyg iawn, gan fod y cae mor drwm. Roedd hi’n ddigon sych, ond roedd hi’n un o’r diwrnodau hynny lle fyddai rhedeg yn gyflym yn anodd. Wrth gwrs, byddai hyn yn siwtio Tregaron oedd a phac mawr, ac fe fyddai wedi siwtio Dai Lews i’r dim hefyd, fel un oedd yn mwynhau’r ymosodiadau tyn. Ond dyna fel oedd hi. Roedden ni wedi dewis ein tîm a doedd dim modd ei newid hi nawr. Erbyn heddiw, fe fyddai wedi bod yn haws gyda’r opsiwn o newid y tîm ar yr hanner.

Ac felly, fe gollwyd y gêm gan inni fethu â dal ein tir ymysg y blaenwyr. Cafwyd un eiliad i’w gofio, wrth i Butchie dorri lawr yr ochr dde, yn debyg i Matt Dawson yn Ne Affrica, a sgorio cais unigol cofiadwy. Ond roedd Tregaron yn rhy gryf ac fe’n trechwyd o 12-4. Cafwyd noson go dda lawr yn y Gorllewin, ond eto roedd y siom yn gryf, ac efallai bod hyn wedi effeithio ar fwynhad y noson.

Unwaith yn rhagor, fe gurwyd Tregaron gan y CIACS, a fyddai’n mynd ‘mlaen i ennill y cwpan y flwyddyn honno.

Am ryw reswm, mae tymor 87-88 wedi mynd o’r cof yn gyfan gwbl. Mae hanes yn dweud ein bod ni wedi colli gem adre yn erbyn Cwmbran Saracens o 24-6, ond does gen i’r un atgof o’r gêm o gwbl. Mae’n rhaid ei bod hi wedi bod yn gêm dda!

Erbyn 88-89, ro’n ni wedi derbyn capteiniaeth y Clwb. Hwn oedd y tymor lle fydden ni allan o’r ddau gwpan pwysig cyn diwedd mis Medi, ac roedd hynny’n beth anodd iawn i’w dderbyn. Byddai chwarae 8 mis o gemau cyfeillgar yn ddigon anodd, ond roedd bod yn gapten yn ei gwneud hi’n anoddach fyth.

Yn y Brewers, doedd dim esgus. Roedden ni wedi bod yn ddigon anffodus i gael ein tynnu i chwarae gem yn y rownd ragarweiniol ond o leia’ roedd y gêm i fod adre ac yn erbyn Howardians. Roedd hynny’n ddigon agos at fod yn Bye. Fe ddigwyddodd rhywbeth y diwrnod hwnnw na fyddai’n digwydd eto ar ddiwrnod tebyg am sbel. Fe chwaraeodd yr ail dîm. Fel arfer ar ddiwrnod gem gwpan, byddai’r ail dîm yn osgoi chwarae er mwyn sicrhau sgwad gryf. Ond y diwrnod hwn, efallai gan ystyried safon ein gwrthwynebwyr, fe aeth yr ail dîm lan i Drelai ar gyfer gem, gan adael pymtheg ohono ni yn y Cameo i chwarae yn Llandaf. Wel, nid pymtheg, on pedwar ar ddeg. Pan aeth yr ail dîm, doedd dim golwg o Wyn Thomas, ond gan ei fod wedi bod yn aelod selog a ffyddlon am ddau neu dri thymor, doedd dim rheswm i feddwl na fyddai’n ymddangos.

Felly draw a ni i’r cae, a hyd yn oed yn yr ystafelloedd newid, ro’n ni’n dal i ddisgwyl iddo ymddangos wrth y drws. Dim ond wrth inni redeg i’r cae, fe benderfynodd rhywun y byddai’n ddoeth danfon rhywun i Drelai i nôl Nigel Harrington. Ymddangosodd Nige ddim nes bo wedi hanner amser, ac erbyn hynny, roedden ni ar ei hol hi, ac yn isel, ac roedd ei hysbryd nhw wedi codi. Hyd yn oed â phymtheg dyn, roedd hi’n rhy hwyr i achub y gêm ac fe gollo’n ni o 18-15. Roedd bai arnom ni fel chwaraewyr ac fel pwyllgor ac fe fyddem yn difaru am weddill y tymor, yn enwedig wedi i’r Howardians golli yn y rownd nesa’ i Cardiff Civil Service, tîm na fyddem wedi disgwyl i guro’n ail dim ni.

Y sôn oedd bod Wyn wedi cael cynnig gem nôl lawr yn y Gorllewin ac wedi penderfynu mynd ar y funud ola’. Efallai nad yw hynny’n wir, ond ni chafwyd y cyfle i ofyn gan iddo ddiflannu o’r diwrnod hynny ‘mlaen. Efallai ei fod wedi bod yn ddoeth. Ro’n ni’n grac ar y pryd, ac roedd yna rai yn y clwb oedd yn llai elusengar na fi, gydag enw Brian yn dod yn syth i’r meddwl!!

Os oedd y tymor hwnnw i fod yn un o’r mwya’ siomedig a byr o safbwynt y cwpan, byddai’r nesa’ yn siomedig am resymau gwahanol. Er na wyddwn i ar y pryd, ro’n ni wedi tynnu at ein gilydd un o’r timau cryfa’ y byddai gyda ni fel clwb trwy gydol fy amser i yno. Roedd rheng flaen cryf, rheng ôl cystal ag unrhyw dim arall o’r un safon a ni, a chefnwyr oedd yn gallu trafod y bel, ymosod ac amddiffyn, ac roedd ysbryd da i’w gael hefyd. Byddai’r cwpan y tymor hwnnw yn un o’r mwyaf cofiadwy imi.

Y peth cyntaf i’n ffafrio ni oedd inni dynnu Brackla o’r het yn y rownd gyntaf yn Llandaf. Y gobaith oedd i beidio gadael ein hunain lawr fel yr oedden ni flwyddyn ynghynt. Wrth baratoi at y gêm, roedd pawb ar gael heblaw am Brian Sullivan. Roedd Brian yn un o’r rhai mwyaf cyson yn y Clwb, a rhaid bod ganddo esgus da dros beidio â bod yno. Roedd bachwr yn mynd i fod yn safle anodd i ddod o hyd i eilydd, gan ein bod yn fyr o chwaraewyr yno. Felly gwnaed y penderfyniad o ofyn i fab rheolwyr yr Halfway ar y pryd, Richard, a oedd a chysylltiadau gyda Ffynnon Taf, os fyddai’n fodlon chwarae un gêm drosto’ ni. Fe gytunodd e, er bod ganddo wendid yn ei wddf, a allai fod yn broblem wrth ystyried ein bod ni’n gofyn iddo chwarae yn y rheng flaen. Ac felly, rwy’n cofio eistedd yn y Cameo gyda Rich Halfway ar fy mwys i yn disgwyl i bawb gyrraedd cyn cerdded i Landaf i chwarae yn erbyn Brackla, o Benybont. Eisteddodd Rich yno’n anghyfforddus iawn wrth i’r drws agor bob tro, wrth iddo ddisgwyl am brop deche i gyrraedd. Byddai’n gofyn y cwestiwn bob tro-“Is this one of the props?”. “No, Rich” oedd yr ateb bob tro er rhyddhad mawr iddo fe wrth iddo weld un arall o’r cefnwyr yn cyrraedd. Wedi ‘chydig, roedd 13 o’r tîm wedi cyrraedd y Cameo, a dim ond y ddau brop oedd yn weddill. Roedd Rich ar bigau drain yn disgwyl. Roedd e’n ddigon cyfarwydd â’r clwb i wybod ei bod hi’n ddigon posib y byddai gennym ni ddau brop ysgafn a gwan, nad oedd wedi chwarae yn y rheng flaen o’r blaen. O’r diwedd, agorodd y drws eto a dyma’r ddau ddoctor, Colin Dent ac Andy Long yn cerdded trwy’r drws. Yn sydyn iawn, fe ddiflannodd holl bryderon Rich wrth i’r ddau gawr eistedd lawr.

Ac felly draw at Landaf ar gyfer gem y dylid fod wedi ei hennill yn reit gyfforddus mae’n siwr. Fel yr oedd hi, am ryw reswm yn chwarae ar hen gae Llandaf nesa’ at y pàth i’r stafelloedd newid, roedd pethau’n dyn iawn, ond erbyn y diwedd, ni oedd yn fuddugol, o 13-7. Yr unig eiliad cofiadwy o’r gêm oedd Andy Long yn cael galwad ar ei “pager” oedd yn cael ei ddal gan rywun ar y ffin, ac yn gorfod rhedeg i wneud galwad o’r ffôn oedd yn arfer bod ar bwys tŷ y gofalwr.

Wedi cael gem adre gymharol hawdd, fe fydden ni wedi disgwyl gem anoddach yn yr ail rownd. Ond, ar bapur, fe fuon ni’n ffodus iawn yn tynnu St. Julians, Casnewydd, er bod hynny oddi cartref. Roedd y tîm yn llawn hyder, ac rwy’n cofio’n bod ni nol a phawb ar gael wrth i’r paratawiadau fynd yn dda yn ystod yr wythnos. Ond fe aeth pethau chydig bach yn anghysurus i mi ar y pnawn Sadwrn hwnnw. Ro’n ni wedi bod yn gweithio’r bore hwnnw, ac fe ddaeth hi’n amlwg erbyn tua hanner dydd nad oeddwn i’n mynd i gyrraedd y Cameo erbyn hanner awr wedi. Erbyn 1.00, ro’n ni’n dechrau poeni’n fawr, yn enwedig gan fod y gêm i’w ddechrau am 2.00. Daeth y lori ddiwethaf nôl fewn i’r gwaith i’m rhyddhau erbyn tua 1.30, a rhywffordd, fe lwyddais gyrraedd canol Casnewydd â rhyw bum munud yn weddill. Efallai bod hyn wedi effeithio arnai yn bersonol, ac efallai rhywfaint ar y tîm wrth inni dreulio ar yr hanner o 6-0, a ro’n ni wedi chwarae’n sâl iawn. Ond fe ddechreuo’ ni’r ail hanner yn well, ac fe groesodd Llyr Roberts am gais na’i throswyd. Ychydig yn ddiweddarach, enillwyd cig gosb allan ar yr ochr dde, a llwyddodd Dafydd Emyr a’r triphwynt. Wedi hynny, roedd hi’n fater o ddal ein tir, ac fe lwyddo’n ni wneud hynny yn reit gyfforddus heb sgorio rhagor o bwyntiau. Ond doedd hynny ddim yn bwysig. Enillwyd y gêm o 7-6 ac roedd y drydedd rownd yn ein disgwyl ni.
Roedd dewis Dafydd wedi bod yn fater caled, ychydig yn debyg i’r hynny oedd wedi bod efo ni cyn teithio i Dregaron. Ro’n ni yn ‘nabod Dafydd oddi ar ein dyddiau ysgol, a ro’n ni’n gwybod ei fod yn chwaraewr arbennig. Ond roedd e wedi bod yn chwarae rygbi o safon uwch, ac fe fu ar gael i gynrychioli’r clwb dim ond ar yr achlysuron mawr, fel y gemau cwpan hyn. Steve Lewis oedd wedi bod yn chwarae fel maswr ar bob ‘pnawn Sadwrn arall, ac er nad oedd gan Steve pŵer corfforol Dafydd, ac er nad oedd yn cicio mor bell, roedd e yn dod â’r gorau allan o Llyr a Ianto yn y canol. Wrth edrych nôl, fel penderfyniad moralaidd, rwy’n difaru peidio â dewis Steve ar gyfer y gemau pwysig. Ond roedd Daf yn cynnig ‘chydig yn fwy, ac fe aeth pob teimlad moralaidd allan o’r ffenest wrth inni feddwl am rediad yn y cwpan. Rhaid dweud, fe dderbyniodd Steve y sefyllfa yn arbennig. Chefais i ‘rioed gair o gŵyn oddi wrtho, a byddai’n ddigon hapus mynd nôl i’w le yn y tîm cyntaf unwaith i Dafydd fynd eto.

Erbyn y drydedd rownd, rhyw wythnos cyn y Nadolig, roedden ni wedi derbyn gem adre yn erbyn cyn-enillwyr y cwpan, Caerleon. Eto, wrth baratoi ar gyfer y gêm, roedd pethau’n siapio’n addawol, a chafwyd sesiwn ymarfer arbennig yng Ngerddi Soffia. Roedd tîm cryf gyda ni, a phawb ar gael, ac roedd y tywydd yn edrych fel y byddai’n ein siwtio ni. Erbyn hyn, am ryw reswm, roedden ni wedi trefnu cwrdd yn y clwb trydan. Efallai bod y Cameo ar gau ar y pryd. Oedd, roedd popeth yn ein ffafrio ni, gan gynnwys y tywydd. Roedd hi’n sych dan droed, digon o heulwen a dim gwynt. Byddai dim esgus gyda ni heddiw. Yna, gyrhaeddodd Butchie’r clwb, gyda’r newyddion drwg fod John Hayes yn sâl ac na fyddai yn chwarae.

Fe allai hyn fod wedi bod yn ergyd fawr inni fel tîm a hefyd yn ergyd seicolegol fawr inni fel unigolion. Ond diolch i’r drefn, fe ddewisodd Gareth Hall i gael un o’r diwrnodau hynny lle fyddai’n ymddangos ym mhobman, a gyda rhiw bum munud yn weddill, roedden ni’n dal i fod ar y blaen o 17-16. Gyda Caerleon yn ymosod yn gryf, fe lwyddo’n ni rhyngipio, ac ennill tir yn gyflym o fewn ei 22 nhw, cyn i’r dyfarnwr chwibanu am gic cosb i ni. Roeddwn i yn dal i geisio dal lan a’r chwarae, ac o bell fe ddechreuais waeddi mod i am inni gicio at y pyst. Byddai’n rhaid iddyn nhw sgorio cais i’w hennill hi wedyn. Ond wrth imi waeddi, fe welodd Gareth(a oedd wrth gwrs wedi bod ar flaen y gad wrth inni wrthymosod) gyfle i redeg y gic gosb ac i fynd am gais. Ro’n ni’n dal i waeddi’n wyllt arno wrth weld ei fraich yn ymestyn dros y lein am gais a fyddai, gyda’r trosiad i ddod, yn gwneud y gêm yn ddiogel inni. Am y tro cyntaf, roedden ni wedi croesi’r ffin seicolegol hynny oedd yn meddwl ein bod ni dal yn y Brewers ar ôl y Nadolig. Roedd y noson honno, ac yn wir y Nadolig cyfan imi’n bersonol, yn rhai melys iawn wrth ystyried ein bod ni yn yr 16 ddiwetha’ yn y cwpan, a byddai un fuddugoliaeth arall yn dod â chwpan Schweppes neu Swalec neu beth bynnag oedd hi ar y pryd, a chyfle i ddod ag un o’r clybiau mawr i gaeau Llandaf. Roedd hi’n deimlad da, ac un na fyddwn yn ei theimlo eto tra’n chwarae.

Un o’r ffactorau pwysig ar y pryd oedd y ffaith fod pawb oedd yn gysylltiedig â’r clwb yn benderfynol o fynd allan o’u ffordd i sicrhau’r llwyddiant ro’n ni’n ei fwynhau. Roedd pawb yn ymarfer, ac roedd pawb yn gwneud ymdrech i fod ar gael ar bob Ddydd Sadwrn, yn enwedig doctoriaid y clwb, Colin, Andy a Pembers oedd yn gorfod tynnu pob ffafr bosib er mwyn rhyddhau ei hunain. Roedd yr ymroddiad hwn yn ymestyn, neu efallai yn dechrau, gyda Butchie, fel hyfforddwr. Byddai’r dyletswyddau hyfforddi wedi syrthio i’m hysgwyddau i fel capten yn absenoldeb Butchie, a doedd hynny ddim yn apelio ata’i rhyw lawer. Ond doedd dim angen imi baratoi o gwbl wrth iddo droi lan wythnos ar ôl wythnos. Roedd Butchie’n hyfforddwr am ddau dymor pan o’n ni’n gapten, dwi’n meddwl, ac yn yr amser hynny, dim ond un pythefnos rwy’n cofio iddo fethu ymarfer, ac i fod yn deg, roedd chicken pox neu measles ganddo ar y pryd. Roedd yr ysbryd yn dda. Rwy’n cofio trafod gyda John Hayes yn ddiweddarach ei deimladau ar golli’r gêm yn erbyn Caerleon. Fe gadarnhaodd ei fod wedi bod ar bigau draen, ac roedd balchder mawr ganddo pan glywodd y canlyniad ar Radio Cymru o bobman. Roedd yr ysbryd yn y clwb cyfan.

Ffactor bwysig arall oedd safon y chwaraewyr. Doedden ni ddim yn wan mewn unrhyw safle. Dw’i ddim yn cofio pwy ddaeth fewn i’r tîm yn erbyn Caerleon pan gollwyd John, ond rwy yn cofio na theimlwyd ei absenoldeb gymaint ag y byddwn wedi disgwyl. Roedd y rownd nesa’ i’w chwarae yn y Drenewydd. Roedd hi’n drueni nad oedd y gêm i’w chwarae yng Nghaerdydd, ond ro’n ni’n falch nad oedden ni wedi tynnu tîm o Gaerdydd, neu dîm fydden ni yn ei adnabod, a lle byddai efallai rhyw elfen seicolegol yn ein herbyn ni. Ro’n ni gyd yn gwybod pa mor anodd fyddai chwarae Fairwater, CIACS neu’r Buns, ond roedd y Drenewydd chydig yn wahanol, “an unknown quantity”, efallai ac felly roedd yna rywfaint o hyder. Roedd y tywydd hefyd yn ein siwtio ni. Roedd hi wedi bod yn dda cyn y Nadolig, ac er bod y gêm yn y Drenewydd i’w chwarae ar Ionawr 13eg, llwyddwyd chwarae gem gyfeillgar lawr yn erbyn Sully yr wythnos flaenorol. Roedd hyn yn berffaith. Doedd hi ddim yn debyg o fod yn gêm rhy gorfforol, a doedd dim peryg unrhyw nonsens, ac roedd hi’n gyfle i ymarfer yr holl symudiadau.

Ac felly, daeth y 13eg, a thaith gofiadwy i’r Drenewydd. Codi Dafydd Emyr wrth North Road, stopio i gael paned ar y ffordd, a ro’n ni’n dal i fod yno mewn amser da. Fel yn y rownd ddiwetha’, ar bapur roedden ni mor gryf ag oedd yn bosib. Andy Long, Brian Sullivan a Colin Dent yn creu rheng flaen a digon o bwysau, ond a digon o gyflymder. Pembers a finnau yn yr ail reng. Dim cweit cymaint o bwysau, ond yn cynnig digon o waith rownd y cau, ac yn hyderus o ennill ein pêl yn y leiniau. Rheng ôl o John a Gareth, gyda chryfder a phrofiad Wilkins rhyngddynt. Cyflymder, ac yn arbennig, cyflymder pàs Gwydion Lewis a phŵer a chic Dafydd Emyr y tu fas iddo. Yn y canol, “thou shallt not pass” Ianto a Llyr Roberts, gyda thwyll a chyflymder Sion Clwyd a Richard Williams ar y ddwy asgell. Fel cefnwr, Meurig Phillips, yn cynnig maint a chryfder dan y bel uchel, ac wrth gwrs yn cynnig troed dde cystal â neb. Roedd hyd yn oed y fainc yn gryf. Fel blaenwyr, Illtyd James a Gary Davies(Gonc), ac ymysg y cefnwyr, Butchie a Steve Lewis, ac yna Dyfrig Parri a Geraint Jenkin(AKA Henry Ramsey ar y pryd). Roedd hi’n sgwad gref, er na allai weithio mas erbyn hyn pwy fyddai wedi dod ‘mlaen petai un o’r ail reng neu’r rheng ôl wedi dod bant. Efallai byddai Dyfrig wedi ymuno â’r blaenwyr rhai tymhorau ‘ynghynt nag y bu.

Cafwyd digon o amser i dwymo ar y cae, a pharatoi yn yr ystafell newid, ac fe weithiodd hyn o’n plaid ni wrth i’r gêm ddechrau, gyda’r Clwb ar dan. Am y chwarter awr gyntaf, enillwyd pob lein, ac enillwyd digonedd o dir gyda Dafydd yn cicio’n hir. Mae’n siwr y byddai’r chwarae hyn yn cael ei ystyried gyda’r sbel gorau y gallai’i gofio, ond fe fetho’n ni a sgorio. Wedi tua chwarter awr, fe newidiodd y gêm ar ei phen. Ro’n ni ar lein y Drenewydd ac roeddwn i yn aros am sgrym neu dafliad. Dywedodd rhywun bod anaf ar un o’n chwaraewyr ni, ond roedd fy meddwl ar bethau eraill, a gwnes i ddim sylweddoli rhyw lawer ar Gwydion yn gadael y cae, a Butchie’n dod ‘mlaen. Wyddwn i ddim ar y pryd faint fyddai hyn yn newid y gêm. Roedd Butchie’n chwaraewr da, ond i fod yn deg, doedd e ddim o safon Gwydion, ac yn naturiol, fe gollwyd yr egni cynnar oedd wedi datblygu.

Fe fûm i am amser hir yn teimlo’n euog iawn tuag at Gwydion. Ar y cae, do’n i ddim wedi sylweddoli cymaint o golled y byddai inni, ond yn fwy na hynny, chefais i fyth gyfle i wneud yn siwr ei fod yn iawn y diwrnod hwnnw. Dyna lle’r oedden ni, yng Nghanolbarth Cymru, ac roedd chwaraewr ifanc wedi torri ei ên, neu’i foch, ac ar ei ffordd i’r ysbyty ymhell oddi cartref, a’r noson honno, fel capten y clwb, yr unig beth oedd ar fy meddwl i oedd y rygbi a mwynhau’r noson. Fe ddaeth y teimlad o euogrwydd yn gryfach rhyw ddegawd yn ddiweddarach pan dorrais i ‘moch, ac yn eistedd yn ddigon trist yn yr ysbyty, yn reit siwr bod fy ‘ngyrfa rygbi ar ben hefyd. Ro’n i’n fwy ffodus ‘mod i yng Nghaerdydd, gyda’r teulu yn agos, ac fe ddaeth Rhidian Lloyd, fel capten y Clwb i sicrhau fod popeth yn iawn, ac i gynnig ei help. Roedd Gwydion ymhell o’i gartref, ac yn sicr, ni welodd ei gapten y noson honno. Rwy’n gobeithio bod rhywrai eraill ar y pwyllgor bryd hynny wedi cynnig eu help iddo.

Ac felly roedd y rhediad yn y cwpan yn mynd i ddod i ben. Roedd hi’n ddigon agos, a ro’n ni ar ei hol hi ar yr hanner dim ond o ryw 3-0. Fe lwyddodd Meurig a chic gosb yn ystod yr ail hanner, ond caewyd y drws arnom pan sgoriodd y Drenewydd gais ar ôl sgrym yn agos i’n lein ni. Collwyd y gêm o 12-3. Er nad oedd ganddynt gawodydd twym, llwyddwyd i fwynhau’r noson yno, yn ei Clwb nhw ac yna yn un o dafarndai’r dre. Roedd hi’n drip hir adre, gyda’r canlyniad a’r siom yn dechrau suddo fewn, a doedd ddim hyd yn oed Cyrri yn Whitchurch Rd yn ddigon i godi’r ysbryd. Y bore wedyn ac am rai wythnosau diweddarach, byddai’r canlyniad yn un ddigon anodd ei dderbyn. Fe allai hi fod wedi bod yn dymor gwbl gofiadwy. Ond fel yr oedd, ro’n ni nol at chwarae timoedd Caerdydd, ac roedd y freuddwyd ar ben eto. Ac wrth gwrs, doedd hi ddim yn llawer o help i weld y Drenewydd yn curo’r CIACS yn y rownd nesa’ ac yn mynd mlaen i gyrraedd y rownd derfynol.

Byddai’r tymhorau nesa’ yn rhai digon siomedig o safbwynt y cwpan. Roedd y tîm wedi newid rhywfaint, ac fe gollwyd y tri aelod o’r rheng flaen. Roedd hyn yn golled mawr. Roedden ni hefyd wastad mewn grŵp cystadleuol iawn. Weithiau fydden ni’n ddigon ffodus i gael gem weddol hawdd yn y rownd gyntaf, ond roedd hi’n reit debygol y bydden ni’n tynnu un o’r heavyweights yn y rownd nesa. Ro’n i wastad yn genfigennus o rai o’r grwpiau, a fyddai wedi bod lot yn haws i gael mynd trwyddo i’r drydedd rownd. Yn y tymor 1990-1, cafwyd rownd gyntaf reit gyfforddus yn erbyn Aberbeeg, a’r gobaith eto oedd am gêm adre yn yr ail rownd. Ond fe’n tynnwyd ni i deithio lan i’r Tyllgoed, lle’r roedd Fairwater yn gryfach nag y buon nhw ar unrhyw adeg cyn hyn ac efallai ers hynny hefyd.

Roedd dau neu dri chwaraewr yn sefyll mas, ond yr un sy’n dod i’r cof oedd Wayne Peckham, blaenasgellwr cryf, oedd yn rhedeg yn isel i’r ddaear ac felly’n anodd iawn i dynnu lawr. Dw’i ddim yn gwybod sawl gwaith iddo fe ai gydchwaraewyr yn y rheng ôl yn rhedeg ato’ ni ac yn cadw’r gêm mor dyn. I fod yn deg, doedd dim hyder ‘da ni’n mynd fewn i’r gêm – ro’n ni gyd yn gwybod ein bod ni’n mynd i golli, ac roedd hi’n fater o falchder i gadw’r sgôr terfynol lawr at 27-3. Ro’n ni wedi cadw pethau’n eitha’ tyn yn yr hanner cynta, ond yn bennaf oherwydd bod y gwynt yn ein ffafrio. Ar ddechrau’r ail hanner, a ninne’n colli o ryw un sgôr, fe ryng-gipiodd Llyr Roberts yn ein hanner ni, ac ar ddiwrnod sych fe fyddwn i wedi’i cefni i sgorio. Ond roedd hi’n wlyb a’r tir yn drwm, a chafodd Llyr ei ddal yn gyfforddus ymhell o’i lein nhw. Hwnnw oedd ein cyfle diwetha’, a gwariwyd y rhan fwyaf o’r ail hanner yn amddiffyn yn ddwfn yn ein 22 ein hunain. Wrth gwrs, fe aeth Fairwater ‘mlaen i gipio’r cwpan eto’r tymor hwnnw.

Erbyn 1991-2, roedd y lwc yn ein herbyn ni yn gyfan gwbl. Fe’n tynnwyd ni o’r het am gêm oddi cartref yn erbyn Cwmtillery. Mae Cwmtillery i’w ganfod chydig ymhellach nag Abertillery, ac fel Glyncorrwg sawl tymor ynghynt, roedd un ffordd fewn a’r un ffordd allan eto. Fel y gêm yn erbyn Y Tyllgoed y flwyddyn cynt, fe deithio’n ni yno heb fawr o obaith ennill y gêm. Roedden ni’n gwybod fod pac cryf ‘da nhw, ac yn y rheng flaen roedd ganddyn nhw gwr o’r enw Brandon Cripps, oedd wedi chwarae rygbi o safon uwch i bob clwb dosbarth cynta’ yng Ngwent. Roedd Rob Thomas a Kevin yn y rheng flaen, a minne a Pembers yn yr ail reng yn gwybod y byddai’n cymryd gwyrth inni ddal ein tir ymysg y blaenwyr. Gwnaeth y wyrth ddim digwydd.

Wrth inni agosâi at Gwmtillery, fe waethygodd y tywydd yn ofnadwy arnom ni. Fel ym mlynyddoedd cynt, ein hunig obaith oedd chwarae ar ddiwrnod sych, heb unrhyw fath o wynt. Unwaith inni fynd allan i’r cae, roedd y glaw a’r gwynt cynddrwg a ro’n ni erioed wedi gweld neu chwarae ynddi ar gae rygbi. Roedd y gwynt mor gryf, roedd hi fel bod y glaw ddim yn dod lawr o gwbl, yn hytrach roedd hi’n mynd ar draws. Anghofia fyth gweld Archie yn sefyll mewn rhyw fath o gysgod ar ochr y cae yn ceisio cuddio rhag y tywydd. Galla’i ond dychmygu beth oedd ar feddwl yr eilyddion wrth iddynt cynsidro gorfod dod ‘mlaen i’r cae. Roedd pethau wedi edrych yn dywyll unwaith inni gyrraedd yr ystafelloedd newid(yn hwyr, wedi mynd ar goll eto), wrth sylweddoli nad oedd tebygrwydd cael cawod dda gan nad oedd dwr twym, a doedd hi ddim yn rhyw lawer o lawenydd i glywed fod yna un tap dwr twym oedd yn gweithio. Nid dyna beth oedd i’w obeithio am ar ddiwrnod fel yr oedd hi, yn enwedig gyda noson mas wedi’i drefnu.

Fe enillodd ein capten(Phil James dwi’n meddwl) y toss, ac fe chwaraeon ni efo’r gwynt yn ystod yr hanner cyntaf. Yr unig obaith erbyn hyn oedd sgorio unwaith neu ddwy, ac wedyn gobeithio am ryw Zulu siege defence yn yr ail hanner i ddiogelu’r fantais. Ond fel oedd hi, fe fetho’n ni a sgorio gyda’r gwynt, ac fe sgorio’n nhw ddwy gais. Gallai ddychmygu fod Phil wedi ennill ei arian y diwrnod hwnnw wrth drafod dros hanner amser. Dyna lle’r oedden ni yn rownd agoriadol y cwpan, yn ei dymor cyntaf fel capten, yn chwarae mewn monsŵn, ac wedi llwyddo gwastraffu ein cyfleoedd yn ystod yr hanner cyntaf. Dyna lle’r oedden ni fel lambs to the slaughter yn mynd fewn i’r ail hanner, ac er nad wyf yn cofio’n iawn, mae’n siwr fod Phil wedi dod allan a rhai o’r geiriau positif hynny, “we’re still in it, boys” a “C’mon, next score will be important” ac yn y blaen. Dyna bwrpas capten, mae’n siwr, ond yr unig beth ar ein meddyliau ni oedd pa mor fuan fyddai’r chwiban ola’n dod.

Roedd ein pryderon efo Cripps wedi cael eu cadarnhau. Fe allai fod wedi gwrthsefyll grym ein pac ni ar ei ben ei hun, ac mae’n siwr fod Kev a Rob wedi cael mwy nag un “aerial view of the Gwent valleys”. Cafwyd un sgrym ar ein lein ni, ac rwy’n cofio edrych ar Rob yn gwybod ei bod nhw yn mynd i’n gyrru ni dros y lein. Hanner munud wedyn, roedd ein pac ni mewn rhyw crumpled heap tu ôl i’n lein ni, ac roedd eu pac nhw yn struttio nol wedi profi pwynt unwaith yn rhagor. Fe chwaraewyd rhyw hanner awr o’r ail hanner hwnnw, cyn i’r dyfarnwr cymryd piti arnom a chloi’r gêm, a cholled o 36-0. Roedd hi’n drueni am y tywydd gan na chawsom ni gyfle i ddangos ein sgiliau. Er colli, byddai’r Clwb yn dangos gwell esiampl rhyw ddau dymor yn ddiweddarach yn erbyn yr un gwrthwynebwyr.

Er colli’n drwm, ac er y gawod siomedig, cafwyd croeso a noson arbennig y noson honno. Roedd Archie ar ei orau, ac roedd y canu’n gofiadwy. Fe fues i’n gweithio yn ardal Cwmtillery flwyddyn neu ddau yn ddiweddarach, ac roedd atgofion y diwrnod hwnnw, er gwaetha’r grasfa ar y cae, yn rhai melys iawn.
Byddai’r tymor canlynol, 1992-3, yn un cofiadwy am bob math o resymau, yn bennaf oherwydd i’r Clwb gyrraedd tudalennau chwaraeon yr Western Mail a Steve Lloyd yn cael ei ffonio i gyfrannu dyfyniadau iddynt. Fe ddylai hi wedi bod yn gêm ddigon cyffredin rhwng dau o glybiau ardal Caerdydd. Roedd hi’n gêm bwysig inni hefyd i brofi’n hunain yn yr ardal. Roedd yr Cardiff and District League wedi dechrau tua’r adeg hynny, ac rwy’n cofio’r siom inni gael ein rhoi yn y drydedd adran. Roedd yr adrannau ar y cyfan yn ddigon teg, gyda Fairwater a’r Buns ac yn y blaen yn yr adran gyntaf a rhai timoedd da yn yr ail. Ond roedd Caerau Ely hefyd wedi cael ei lleoli yn yr ail adran, a do’n i ddim cweit yn deall y rhesymeg tu cefn i hynny. Ond ar y cae oedd y cyfle i brofi ein pwynt.

Fe ddilynodd y gêm yr un patrwm a’r rhan fwyaf o’n gemau ni – y blaenwyr dan bwysau i ddal eu tir, ac yn dibynnu ar ddewiniaeth y cefnwyr i’n cadw ni yn y gêm. Roedd y gêm yn gofiadwy am ddau o geisiadau orau’r Clwb, y ddau yn gwbl wahanol ei math. Yn gyntaf, cododd John Hayes y bel o gefn sgrym ar hanner ffordd, a thorri i’r ochr dywyll. Gyda neb yn gymorth, fe aeth ar ei ben ei hun a chroesi heb i neb rhoi bys ar ei gefn. Yna ‘chydig yn hwyrach, fe lwyddo’n ni ennill bel rhydd dan ein pyst ein hunain. Y peth doeth fyddai i glirio’r bel, ond fe benderfynodd rhywun i redeg, ac fe aeth y bel ar hyd y lein. Fe enillodd Dafydd Iolo chydig o dir cyn dod o hyd i gymorth y tu fewn iddo, ac yna, ail gasglodd y bel ar linell deng medr Caerau a chroesi dan y pyst. Roedd y ddau ohonynt yn geisiau cofiadwy ac yn gwbl typical o’r math o chwarae sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r clwb erioed. Doedd ddim un tîm arall yn y brifddinas fyddai wedi mentro rhedeg y bel dan ein pyst ein hunain cyn sgorio’r ail gais hwnnw.

Ond er gwaetha’r ddau gais cofiadwy, erbyn i’r dyfarnwr chwythu’r chwiban am y tro ola'(y diwrnod hwnnw o leia’) roedd pethau’n gwbl gyfartal yn 20 pwynt yr un. A dyna pryd yr aeth pethau o le. Fe benderfynodd y dyfarnwr fod Caerau yn fuddugol oherwydd ei bod nhw yn chwarae oddi cartref. Roedd chwaraewyr Caerau’n ddigon hapus a hyn a doedd dim gair o gŵyn ganddynt. Ond fe es i a Meurig a Butchie i ddadle gyda’r dyfarnwr a cheisio egluro mai amser ychwanegol oedd y peth lleiaf y gallwn ni fod wedi disgwyl. Ond na, wedi rhyw bum munud, a gyda bechgyn Caerau yn y cawodydd, roedd e’n benderfynol o hyd o’r canlyniad. Rhyw bythefnos wedyn, fe fyddai’n difaru’n fawr.

Y dydd Llun canlynol, bu Steve Lloyd mewn cysylltiad efo’r District, ac wrth iddynt dynnu’r enwau o’r het ar gyfer yr ail rownd, fe gytunodd pwyllgor y cwpan y byddai’n rhaid ail chwarae…yr amser ychwanegol. Dyma pryd aeth pethau i’r wasg. Fe ddyfynnwyd Steve yn poeni ar ba bryd y byddai’n bosib chwarae’r ugain munud oherwydd ein gemau cynghrair. Wedi chydig o drafod rhwng y ddau glwb, fe gytunwyd chwarae ar y dydd Sul, pymtheg diwrnod wedi’r 80 munud cyntaf. Er mawr oedd pwysigrwydd y gêm, roedden ni gyd yn gydwybodol y byddai’r enillwyr yn chwarae St. Albans, deiliaid y cwpan, yn y rownd nesa’ a byddai hynny’n siwr o ddod â’n gobeithion i ben am dymor arall. Ond roedd y busnes gyda Caerau wedi’n cythruddo ni, a ro’n ni gyd yn benderfynol o brofi pwynt ar y bore Sul hwnnw.

A dyna fel yr oedd hi. Wedi cael gem ar y pnawn Sadwrn fe gwrddo’n ni eto’r diwrnod wedyn, i wynebu Caerau. Roedd y tîm yn union fel y bu bythefnos ynghynt, heblaw bod Kevin i ffwrdd, a daeth Ryan fewn yn ei le. Trodd y dyfarnwr fyny munudau cyn y gêm, ac fe ddiflannodd yn syth wedi iddo chwythu am ddiwedd y gêm, wedi derbyn llond ceg oddi wrth bawb ar ymyl y cae. Sgoriodd Meurig gic gosb ychydig fewn i’r deng munud cyntaf, ac yna ciciodd un arall yn ystod yr ail. Wedi ugain munud o’r rygbi mwya’ rhyfedd posib, ro’n ni’n fuddugol o 26-20, ond efo pawb yn mynd nôl i’r gwaith y diwrnod canlynol, cafwyd mawr o ddathlu. Ond o leia’ roedd proffil y Clwb wedi ei godi eto gydag ymddangosiad yn y papur.

Wythnos neu ddwy yn ddiweddarach, daith y gêm yn erbyn St.Albans. Roedd y gêm i’w chwarae yn Llandaf, ac felly roedd rhywfaint o hyder, ond doedd dim cwestiwn nad ni oedd y ffefrynnau. Y gobaith oedd na fyddai’r Buns yn ein cymryd o ddifri, ac y bydden ni yn cael 80 munud ysbrydoledig. Wel, fe ddigwyddodd hynny i radde, wrth inni chwarae ar ein gorau am y rhan fwyaf o’r gêm. Roedden ni’n chwarae tuag at cow corner yn yr hanner cyntaf, a byddai cais wedi bod yn fuddiol. Ond wrth droi, dim ond un gic gosb gan Meurig oedd wedi’i sgorio, ond o leia’ ro’n ni ar y blaen. Yn anffodus, fe gododd St Albans ei gem ychydig yn ystod yr ail hanner, a sgorio cais a chic gosb, i fynd ar y blaen o 10-3. Am unwaith fe arhosodd ein pennau’n uchel, ac roedd gobaith hyd yn oed yn yr eiliadau ola’ y gallwn ni ryng-gipio a sgorio i ddod â’r gêm yn gyfartal. Ond reit yn yr eiliad ola, gyda symudiad ddiwetha’r gêm, fe groesodd un o’u chwaraewyr am ail gais. Roedd hi’n sefyllfa od, gydag un o’u chwaraewyr nhw yn cael ei ddanfon o’r cae am gicio wrth i’r cais gael ei sgorio, ond heb iddo golli dim o’r gêm gan iddi orffen wedi’r trosiad llwyddiannus. Roedd hi’n siomedig. Ro’n ni wedi bod yn y gêm lan at y symudiad ola’, ond mae’n siwr fod 17-3 wedi edrych fel buddugoliaeth gyffyrddus i unrhyw un fyddai’n darllen y canlyniadau ym mhapurau dydd Llun. Byddai 10-3 wedi bod yn fwy teg. Y flwyddyn honno, wrth gwrs, fe aeth y Buns at y 4 ola’ cyn iddyn nhw golli.
Byddai’r cwpan y flwyddyn ganlynol, 1993-4, eto yn un cofiadwy imi, ac eto fe fyddai’r hanes yn cyrraedd tudalennau’r Western Mail, ond am y rhesymau anghywir y tymor hwn. Roedd y clwb wedi tynnu gem cartref eto, y tro hwn yn erbyn Blaenafon Quins o ‘Ogledd Gwent. Doedd dim hanes rhwng y ddau glwb hyd y gwyddwn i. Nol ar ddechrau’r wythdegau, roedd y clwb wedi teithio i chwarae yn erbyn Blaenafon Forgeside i golli gem oedd yn gofiadwy imi oherwydd sgiliau godidog Huw Jones, maswr nad oedd gwŷr Gwent wedi gweld ‘rioed o’r blaen, ac oherwydd inni gael ein cosbi ar un adeg o leia’ 50 llath oherwydd backchat yn erbyn y dyfarnwr, gyda doctoriaid y rheng flaen, Frankie a Brian yn benna’ gyfrifol. Ond roedd y Quins yn dîm gwbl wahanol, ac fe benderfynwyd chwarae’r gêm ar hen gae Canton, oherwydd ei fod ‘chydig yn fwy llydan. Y bwriad fel arfer yn erbyn tîm o Went oedd i drafod y bel am 80 munud. Roedd y tywydd yn berffaith.

Roedd y tîm yn reit gryf, gyda Rob Thomas yn eilio ar un o’i Sadyrnau diwethaf cyn dychwelid i’r Gorllewin. Ro’n ni’n ffodus fod gyda ni digon o brofiad ar y fainc. Roedd hi hefyd yn noson stag Meurig Phillips, ac felly roedd mwy nag un rheswm i gael buddugoliaeth dda er mwyn codi’r hwyliau ar gyfer y noson. Yn anffodus, byddai dau ohonom yn methu ar y noson.

Roedd y ‘sgrifen ar y wal yn gynnar, gyda Dave Jones yn derbyn gwaelod bŵt yn ei gefn, ac wedyn, derbyniodd Gareth Hall ergyd, a wnaeth i John Hayes, o bawb, i golli’i dymer yn llwyr wrth iddo amddiffyn ei gyd-athro. Wedi rhyw chwarter awr, ro’n i ar fy ffordd i’r ‘sbyty yng nghar Sion Clwyd, wedi derbyn bŵt i ngwyneb, a heb sylweddoli nes inni gyrraedd y car cynddrwg oedd yr anaf. Cefais gwmni Sion wrth aros am ddoctor ac am yr x-rays, ac yn y blaen. Roedd hi’n sefyllfa gwbl surreal yn eistedd tu fas i ystafell x-ray, pan ddaeth un o’r doctoriaid ata’i gan ddweud, “You’ll never believe this mate, but there’s another of your guys upstairs”. Feddyliais i ei fod wedi gwneud camgymeriad. Rhaid bod dwsinau o chwaraewyr rygbi yn ymddangos yn CRI ar bnawn Sadwrn, a rhaid bod nifer o’r rhai hynny yn gwisgo crysau coch. Doedd hi ddim yn bosib bod un arall ohonom wedi cael niwed. “No, definitely, mate, ‘e’s in the same shirt as you”. Wrth imi fynd lan lofft eto, daeth Sion a’r newyddion fod John Hayes wedi dod i gadw cwmni imi, a’i goes wedi torri. Roedd y teimlad yn un od – mewn ffordd, ro’n i’n teimlo ‘mod i wedi bod yn lwcus. O leia’ fe fyddwn i yn mynd adre’r noson honno, ac o leia’ fyddwn i’n gallu mynd i’r gwaith ar ddydd Llun.

Wrth i’r doctor orffen pwytho ngwyneb, dros awr yn ddiweddarach, fe ddechreuodd rhai o’r chwaraewyr droi lan i’n gweld ni. Rwy’n cofio Gareth Hall yn cyrraedd, a’r golwg trist yn ymddangos ar ei wyneb wrth iddo sylweddoli natur yr anafiadau. Cefais air byr efo John, a chydymdeimlo gydag e cyn cael lifft nôl i’r Cameo efo Sion.
Roedd y Clwb wedi bod yn fuddugol y diwrnod hwnnw, ac er yr anafiadau, roedd yna, wrth reswm, digon o hwyliau da yno. Chefais i ddim gwybod pwy oedd wedi sgorio, ond roedd y canlyniad yn un da wrth gofio beth oedd wedi digwydd yn ystod y prynhawn. Roedd John wedi’i anafu mewn chwarae agored, ac nid o ganlyniad chwarae brwnt, ond roedd pawb yn gwybod y byddwn ni yn gweld ei golled am weddill y tymor, neu yn fwy. Gallai torri ei goes am yr ail dro wedi dod â’i yrfa i ben, a byddai hynny wedi bod yn golled anferth inni. Fe ddywedais wrth Meurig y byddwn i yn ystyried gorffen chwarae wedi’r prynhawn hwnnw. Fedrwn i ddim gweld pwrpas chwarae ar lefel o rygbi lle’r oedd pethau fel hyn yn digwydd. I fod yn deg iddo, fe fynnodd ‘mod i’n pwyllo cyn gwneud penderfyniad cadarn. Mae’n amlwg ei fod yn fy ‘nabod i’n well nag o’n i’n sylweddoli. Ro’n i nôl yn chwarae erbyn dechrau mis Rhagfyr. Y tymor nesa’, wrth gwrs, fe fyddai John nôl yn ein plith ni hefyd. Wrth edrych ‘nol ar y prynhawn hwnnw yn erbyn Blaenavon Quins, mae un peth sy’n fy ngwneud yn reit ddiolchgar, a hynny yw nad Meurig oedd wedi derbyn anaf cas wythnos cyn ei briodas. Ond wedi ystyried ‘chydig ymhellach, gan nad wyf yn cofio Meurig byth yn ymddangos ar waelod sgarmes, roedd y posibilrwydd o anaf iddo’n annhebyg iawn!

Erbyn ail rownd y cwpan y flwyddyn honno, roedd pethau’n anodd iawn i’r tîm. Roedd John a finne’n dal i fod yn absennol, ac roedd Grundy wedi derbyn cwt cas iawn i’w dalcen wrth chwarae’n erbyn Gogledd Llandaf. Roedd y pac felly wedi’i gwanhau, ac roedd Meurig wrth gwrs yn dal i fod i ffwrdd. Nid dyna’r ffordd orau i baratoi i chwarae gem yn erbyn Cwmtillery, ond o leia’, yn groes i’n gem flwyddyn neu ddwy ynghynt, roedd y gêm i’w chwarae yn Llandaf. Yn anffodus, doedd hynny ddim i fod yn ddigon inni ennill y gêm. Er nad oedd Cwmtillery mor bwrpasol â’r gêm cynt, roedden nhw’n dal i fod lot yn rhy gryf ymysg y blaenwyr. Er hyn, y Clwb aeth ar y blaen, gyda Llyr Williams yn sgorio cais na fyddai neb wedi disgwyl. Fe dorrodd lawr yr ochr dywyll ar lein ddwy-ar-hugain y gwrthwynebwyr, cyn cicio’r bel heibio i’w cefnwr, ac yna ennill y ras at y bel i’w dirio. ‘Dw’i ddim yn siwr pwy gafodd y sioc fwyaf, Llyr neu ni oedd yn gwylio. Ond dyma oedd uchel bwynt y gêm inni, ac fe gollwyd y gêm yn reit gyfforddus o 19-5.

Roedd tymor 1994-5 yn un siomedig arall inni. Roedd ein grŵp yn gryf pob tymor, ond y flwyddyn honno, ein cymdogion oedd Hartridge, Deri, Canton, New Tredegar, Cefn Forest, Girling, Rogerstone a Wick. Doedd yr un o’r timoedd hynny yn apelio ataf – naill ai Canton neu drip i Went oedd o’n blaenau, yn enwedig gan i Wick gael gem rydd yn gyntaf. Roedd hi’n rheswm i fod yn ddiolchgar felly pan daith trip i Rogerstone allan o’r het. ‘Sbosib mai dyna oedd y gêm hawsa’ y gallwn fod wedi ei ddisgwyl.

A dyna fel y bu. Roedd tîm cryf efo ni, ac ar ddiwrnod sych, twym, erbyn diwedd y gêm ro’n ni wedi rhedeg y tîm cartref oddi ar y cae. Roedd un cais tua diwedd y gêm yn gofiadwy iawn, gyda’r bel yn cael ei drafod gan sawl unigolyn hyd y cae, cyn i’r bel symud ar hyd y lein at yr asgell chwith ar gyfer cais arbennig, i Angus am wn i. Roedd y canlyniad o 40-17 yn un boddhaol iawn, ac fe aeth ein meddyliau tuag at bwy fyddai’n ein disgwyl ni yn yr ail rownd. Y gobaith oedd, wedi ystyried y timoedd eraill yn y grŵp, y gallwn groesawu Wick i Landaf.

Daeth hanner ein gobeithion yn wir. Wick oedd o’n blaenau, ond oddi cartref. Doedd hynny ddim yn peri llawer o ofid. Pentre’ bach yn y fro oedd Wick. Doedden nhw ddim yn debygol o fod yn gryf, ac roedd ein cefnwyr ni ar dan, a do’n i ddim yn disgwyl i neb ei rhwystro nhw. Roedd yr ymarfer yn Morganstown yn mynd yn dda, ac roedden ni wedi dechrau codi yn y leiniau – byddai hyn yn sicr yn caniatáu inni ennill ein pêl ein hunain.

Cafodd y gêm ei ganslo ar y Sadwrn penodol, ac erbyn inni deithio lawr yna bythefnos yn hwyrach, roedd hi’n amlwg na fyddai’n backs ni yn cael unrhyw effaith ar y gêm. Roedd y gwynt yr un pa mor gryf, os nad yn gryfach nad oedd hi wedi bod lan yng Nghwmtillery, er nad oedd y glaw cynddrwg. Roedd hyn yn ddigon i wneud pob lein yn lottery, ac felly fe aeth ein hymarfer diwyd i wastraff. Yn ogystal, fe ddaeth hi’n amlwg iawn fod blaenwyr Wick yn fechgyn cryf iawn. Ro’n i wedi bod yn yr ysgol ag un ohonynt, a ro’n i’n gwybod ei fod wedi bod ar y fainc i Benybont yn rownd derfynol cwpan Schweppes ar Barc yr Arfau ar ddechrau’r degawd. Roedd e’n debyg i fod yn brop cryf felly.

Roedd y ‘sgrifen ar y wal yn gynnar. Cafodd Garmon ei gosbi a’i rybuddio yn y funud cynta’ ac fe roliodd Wick hyd y cae. Yn ystod yr hanner cynta’ hyn, roedden nhw’n chwarae gyda’r gwynt wrth eu cefnau, a ro’n ni’n gwybod pa mor bwysig oedd hi i’w cadw o fewn cysylltiad. Roedd pawb yn ddigon hapus felly i gyrraedd yr hanner rhyw 12 pwynt ar ei hol hi. Byddai’n rhaid parcio’n hunain yn eu dwy-ar-hugain am yr ail hanner cyfan. Ond wrth inni wrando ar Meurig ar yr hanner, fe ddigwyddodd rhywbeth rhyfeddol. Fe ostegodd y gwynt. Bron a bod yn gyfan gwbl. Yn wir, yr unig dro i’r gwynt godi eto oedd pan oedd Meurig yn ystyried cicio at y pyst o ongl fach anodd. Mewn rhyw ddeg tymor o chwarae gyda Meurig, hon oedd yr unig dro iddo fod yn fyr o hyder wrth anelu at y pyst. Rwy’n cofio dweud wrtho i anelu rhyw ddeg llath at ochr y pyst, a disgwyl i’r gwynt ei dynnu drosto, a dyna beth ddigwyddodd. Ond heblaw am hynny, roedd y gwynt wedi mynd, a bu Wick yn ein hanner ni cymaint ag y buon ni yn ei hanner nhw. Mae’r sgôr terfynol yn dangos ein bod ni wedi colli o 18-9, er mod i’n siwr mod i’n cofio Rhodri yn sgorio cais inni. Ta beth, roedd hi’n ddiwedd siomedig yn y cwpan inni eto. Er nad o’n i yno, mae’n debyg y cafwyd noson arbennig, a rhad yng nghwmni chwaraewyr Wick yn rhai o dafarnau’r fro.

Daeth y flwyddyn ganlynol a chystal lwc a’r flwyddyn flaenorol o safbwynt ein gwrthwynebwyr. Yn y rownd gyntaf, derbyniwyd taith i Went eto, i chwarae yn erbyn Pontyfelin. Doedd dim hanes cystadlu rhwng y ddau glwb, ac felly doedd neb yn gwybod yn union beth i’w ddisgwyl. Ond yn ogystal â hyn, roedden ni gyd yn ymwybodol o’r ffaith fod yna sawl tîm yn yr ardal, ac yng Ngwent yn arbennig, lle fyddai’n gobeithion lawer llai nad oedden nhw ym Mhontyfelin. Roedd y gêm, i’r cof, yn ddigon cystadleuol, ond eto does dim llawer yn aros yn y cof. Roedd criw da o’r ail dîm wedi teithio gyda ni, ac fe dystio’n nhw fuddugoliaeth o 24-10. Doeddwn i ddim yn gallu aros gyda’r bois y noson honno, ac rwy’n cofio gadael clwb Pontyfelin gyda Rhidian ar ei draed yn canu Lleucu Llwyd. Roedd noson dda arall ar y gweill, roedd hynny’n sicr.

Beth oedd ei angen nawr oedd gem gyfforddus yn yr ail rownd, neu o leia’ gem adre. Cafwyd dim gem yn Llandaf, ond gallwn ni ddim bod wedi gofyn am wrthwynebwyr gwell o safbwynt ein gobeithion o symud ‘mlaen. Roedd Nash fel arfer yn chwarae yn erbyn ein hail dim, ac felly roedd y gobeithion yn uchel iawn wrth deithio ar y bws i Gasnewydd. Fe drodd y gobeithion hynny i fod yn rhai teg inni, wrth i’r Clwb ennill o 29-3. Roedd hi’n reit gyfforddus, a dim ond ein or-hyder ni oedd yn debyg o’n baglu ni. Eto, dydy’r gêm ei hunan ddim yn aros yn y cof rhyw lawer, heblaw am y ffaith fod Llyr Williams, a oedd i fod yn deg, dan bwysau yn y rheng ôl oherwydd safon ein chwaraewyr yno, wedi cael un o’r diwrnodau hynny pan fyddai’r bel yn ei ddilyn fel magned. Dim ots pwy fyddai’n cymryd y bel fewn i sgarmes, Llyr oedd a’i ddwylo ar y bel wrth iddi ddod allan eto.

Roedd bywyd cymdeithasol y clwb ar ei orau ar y pryd, a chafwyd peint neu ddwy yn Nash, cyn i’r bws stopio yn un o dafarnau St. Mellons ar y ffordd adre a chafwyd awr neu ddwy arall i’w gofio dan arweiniaeth Neil Cole. Roedd hi’n noson i’w fwynhau. Dim ond am y trydydd tro mewn 12 tymor imi, ro’n ni wedi llwyddo mynd heibio’n grŵp ac i mewn i ran agored y gystadleuaeth. Eto’r noson honno, bu digon o drafod ynglŷn â phwy fyddai’n gwrthwynebwyr perffaith, a’r canlyniad oedd, naill ai gem adre lle byddai gobaith mynd trwyddo, neu os gem oddi-cartref, taith i’r Gogledd i gael noson lawn ohoni. Y gwrthwynebwyr gwaetha’! Fairwater oddi-cartref, neu rywbeth tebyg. Wedi diwrnod neu ddau o ddisgwyl, daeth y canlyniad. Taith i Borthmadog. Perffaith. Trip hir, aros dros nos, ond eto nid un o dimoedd cryfa’r Gogledd ac felly gobaith o lwyddiant.
O safbwynt personol, byddai’r daith yn un siomedig iawn. Fe fuon ni’n ddigon anffodus i chwarae gem gynghrair lawr yn erbyn Barry Plastics yr wythnos cyn y gêm fawr, a derbyniais ergyd i ‘nghefn wedi i’r chwiban fynd, a fyddai’n ddigon i wneud imi golli’r gêm gwpan. Roedd y gemau cwpan hyn yn bwysig iawn imi, ac roedd colli’r gêm fawr hon, yn fater o rwystredigaeth fawr imi. Ond fe ymunais i a’r gweddill y tu fas i’r Cameo ar y Sadwrn hwnnw am y daith hir i Borthmadog gyda Gareth Hall yn gyrru’r bws mini. Roedd Rhidian yn y Gogledd yn barod, ac fe yrrodd Dyfrig i fyny hefyd. Heblaw am hynny, roedd tua 14 ohono’ ni yn y bws – y sgwad gyfan. Fe ddaeth y daith a rhai atgofion wrth inni aros am frecwast yn yr un lle y buon ni ar ein ffordd i’r Drenewydd, ac rwy’n cofio Gareth a John yn codi atgofion o bwy oedd yn chwarae’r diwrnod hwnnw. Fe gyrhaeddo’n ni mewn amser da, ac ymhen dim, sylweddolodd pawb y byddai’n gem debyg i’r hynny yn Wick neu yng Nghwmtillery cyn hynny, gyda’r gwynt yn chwythu’n gryf ar hyd y cae. Roedd Steve Lloyd wedi teithio i fyny hefyd, ac roedd un eilydd wedi ymddangos – Rob D-J dwi’n meddwl – ond roedd rhaid gobeithio na fyddem yn cael anafiadau.

Fe chwaraeodd y Clwb gyda’r gwynt yn yr hanner cyntaf, a defnyddio hynny i symud rhyw ddau sgôr ar y blaen. Ond wrth i’r ail hanner ddatblygu, ro’n ni dan bwysau, hyd nes i un o’r cefnwyr gymryd tafliad cyflym, ac aeth y bel ar hyd y lein, fel arfer, drwy sawl pâr o ddwylo, a sgoriodd rywun, Eryl neu Angus efallai, i roi ‘chydig o oleuni rhwng y ddau dîm. Ac roedd hynny’n ddigon. Ar ddiwedd y gêm, y Clwb oedd yn fuddugol o 24-14. Cafwyd dathliad byr yng Nghlwb Porthmadog, cyn teithio lawr i Aberystwyth am y noson.
Roedd Gareth wedi trefnu gwesty am y noson, a chafwyd amser reit synhwyrol, ond mwynhaol yna. Er nad oeddwn wedi bod ar y cae yn ystod y prynhawn, roedd hi eto’n deimlad braf llwyddo parhau yn y cwpan hyd nes bod wedi’r Nadolig. Fe orffennwyd y noson a chyrri a subsadeiddiwyd gan y clwb, ac fe aeth y partio ‘mlaen tan yr oriau mân yn y gwesty. Roedd hi’n braf cael darllen y canlyniad yn Wales on Sunday, cyn i Gareth roi ei het gyrrwr nôl ‘mlaen ar gyfer y daith adre’. Cyn diwedd y nos Sul hynny, roedd Steve Lloyd ar y ffôn i ddweud fod gynno’ ni gem adre yn y rownd nesa’, a hynny yn erbyn Hollybush, pentre bach tuag at Dredegar.

Yn anffodus, bu’r tywydd yn ein herbyn yn arwain at y gêm. Doedd neb yn gwybod cweit beth oedd i’w ddisgwyl, ond wrth ystyried timoedd Gwent, roedd hi’n ddisgwyliedig y bydden nhw yn gryf ymysg ei blaenwyr. Roedd gemau fel hyn yn apelio ata’i gymaint, a ro’n i’n rhwystredig iawn pan gafodd y gêm ei ohirio ar fwy nag un achlysur, yn enwedig unwaith ar fore’r gêm. Gyda’r amser yn mynd heibio, bu’n rhaid cytuno chwarae ar fore gem ryngwladol. Doedd hyn ddim yn fy ‘mhlesio llawer, ond doedd dim optiwn arall. Fel y digwyddodd hi, fe ddenodd y gêm lawer mwy o’n dilynwyr ni nag y byddai’r disgwyl, a hynny’n bennaf oherwydd ei bod nhw â bore rhydd cyn mynd i wylio’r gêm yn y prynhawn. Y bore hwnnw, gallai neb ymysg y chwaraewyr fod wedi cwyno am y niferoedd oedd yn gwylio’r gêm. Roedd hi, ac yn wir mae hi’n dal i fod, yn drueni bod cyn lleied o gyn-chwaraewyr a dilynwyr yn troi fyny i estyn cymorth ar b’nawn Sadwrn, ond mae hynny’n fater arall.

Yn ystod y gêm, fe chwaraeon ni cystal ag y gellid fod wedi disgwyl, ond fe gollo’n ni i dîm oedd yn amlwg yn gryfach na ni. Doedd hi ddim fel colli yn y Drenewydd, pan oedd pethau’n reit clos. Y diwrnod hwn, doedd dim cwestiwn mai Hollybush oedd yn haeddu ennill. Ein prif obaith oedd i agor y bel a gobeithio y gallai’r cefnwyr greu ddigon o gyfleoedd inni. Roedd Gareth yn chwarae yn y canol erbyn hyn, ac roedd yn chwarae ar ei orau. Pwrpas y blaenwyr oedd ceisio ennill digon o feddiant iddo redeg atynt. Ond roedd hi fel petai Hollybush wedi’n gwylio ni’n chwarae ymlaen llaw, ac wedi sylwi mae Gareth oedd ein prif arf. Fe’i targedwyd reit o’r eiliad cyntaf, ac fe’i taclwyd yn gyson ac yn galed cyn iddo fedru ennill tir. Ein cyfle gorau oedd cic letraws gan Gareth a fu bron i lanio yn nwylo Sion neu Angus, ond dim cweit, a dim ond ciciau cosb, a gôl adlam gan naill ai Meurig neu Rhidian oedd yn llwyddiannus inni. Sgoriodd Hollybush dau gais, y ddau ohonynt o sgrym neu sgarmes agos wrth i’w pac cryf ennill y dydd. Roedd hi’n siomedig, ond roedd hi wedi bod yn rhediad arall i’w gofio.

Un cyfle arall gefais i am lwyddiant yn y Brewers, ac roedd hwnnw wedi gorffen cyn gynted iddi ddechrau. Derbyniwyd gem adre yn erbyn y Wîg, ac fe welwyd hyn yn gyfle i ddial am ein colled blwyddyn neu ddwy ynghynt. Ond fe berfformio’n ni’n siomedig ac fe gollwyd y gêm yn reit hawdd. Ro’n ni wedi bod ynddi ar yr hanner wrth i Dyfrig hedfan yn gyson i ddal pêl glan â dwy law o’r leiniau. Ond erbyn yr ail hanner, fe ddechreuodd y Wîg sbwylio pob lein heb gael eu cosbi, ac fe ddiflannodd ein ffordd daclusaf o ennill pêl dda.

Fel canlyniad, fe ddiflannodd fy ‘nghyfle diwethaf i o lwyddiant yn y cwpan. Doedd hi ddim yn record dda iawn ar y cyfan, wedi llwyddo lan at Nadolig dim ond dwywaith, a do’n i ddim yn chwarae ar un achlysur. Ond rhaid cofio’r anfanteision hynny o fod mewn pŵl yn Ne-ddwyrain Cymru lle’r oedd y clybiau, ar y cyfan, ‘chydig yn gryfach na’r rhai hynny yn y Gogledd er enghraifft. Wedi dweud hyn, wrth imi geisio cadw cysylltiad â’r Clwb, mi fydd balchder mawr imi pan fydd y Clwb o’r diwedd yn mwynhau llwyddiant mawr yn y naill gwpan neu’r llall, ac wrth ystyried safon bresennol y Clwb, mi fydd hyn yn digwydd o fewn tymor neu ddwy. Rwy’n siwr o hynny.