Share Button

Fy ngobaith mawr wrth chwarae oedd y gallwn fod wedi llwyddo yn un o’r ddau gwpan mawr, naill ai’r Mallett, neu well fyth, y Bragwyr. Ar y cyfan, do’n ni fyth cweit yn ddigon cryf, yn enwedig ymhlith y blaenwyr, i ddal ein tir yn y rowndiau ola’. Fyddwn yn awgrymu mai’r tîm a deithiodd i’r Drenewydd oedd y tîm cryfa’ y bu efo ni ar un adeg dros y tymhorau diweddar, ond sgwn i ba fath o lwyddiant y gallwn fod wedi ei fwynhau petawn wedi tynnu chwaraewyr o unrhyw flwyddyn dros yr ugain ddiwethaf at eu gilydd i greu un tîm cryf am dymor. Wrth feddwl am hyn, rwyf wedi ystyried dim ond chwaraewyr a’u perfformiadau tra roeddwn i yn chwarae gyda nhw. Mae’n amlwg fod un neu ddau chwaraewr o safon wedi bod yn chwarae rygbi da cyn imi ymuno â’r clwb, a dim ond yn ystod eu tymhorau diwethaf y cefais gyfle i’w gweld yn chwarae. Yn yr un modd roedd yna rai yn dechrau ei gyrfaoedd pan orffennais i, ac sydd wedi blodeuo oddi ar imi roi’r gorau iddi.
Felly, mater o farn yw’r tîm sy’n dilyn. Rwy’n credu imi chwarae efo rhyw 150 o chwaraewyr dros y 12 tymor, ac felly mae dewis 15 o’r rhai hynny yn ddigon anodd. Lle mai dechrau rhywbeth fel hyn? Wel ymhlith y blaenwyr wrth gwrs, a lle gwell i ddechrau na’r rheng flaen.
Pan ddechreuais i nôl yn yr wythdegau cynnar, roedd y rheng flaen yn rhyw closed siop fach. Yn anaml iawn fyddai rhywun arall yno heblaw am Wyn, Brian a Frank Williams. Roedd Frank yn un arall o’r chwaraewyr hynny, ac mae sawl un wedi bod, oedd yn chwarae a gwen mawr ar ei wyneb. Dim ond ar un adeg rwy’n ei gofio’n colli ei dymer ar y cae, a hynny wedi i Beuno geisio pàs y tu ôl i’w gefn wrth chwarae yn erbyn yr Eglwys Newydd, a’r bêl yn gorffen yn ‘nwylo’r gwrthwynebwyr. Roedd Frankie yn ei dridegau canol pan ymunais i a’r Clwb, ond er hynny, roedd yn dal i fod yn ffit – galla’i ddychmygu y byddai wedi bod yn brop gwerthfawr heddiw fel un oedd yn mwynhau trafod y bêl a symud o gwmpas y cae.
Mae’n rhyfedd nad ar y cae mae’n atgof mwyaf o Frankie. Roedd barbecue wedi cael ei drefnu ar y traeth ym Mhorthkerry, ac roedd pawb wedi cael gorchmynion i ddod â’i bwyd eu hunain. Roedd y rhan helaeth wedi dod â selsig neu burgers, ond trodd Frankie lan a hanner mochyn i roi ar y tan. Yn fwy na hynny, roedd y cig wedi rhewi’n galed. Bu’n sefyll wrth y barbecue am oriau maith yn gwylio pawb yn bwyta cyn iddo gael unrhyw gyfle i fwyta’i fwyd. Yn wir dw’i ddim yn berffaith siwr iddo fwyta o gwbl y prynhawn hwnnw. Un peth arall sy’n aros yn y cof yw ei ymroddiad i’r Clwb. Roedd e’n byw yn Llangattog ar y pryd, ond er hyn, byddai’n ymarfer yng Nglantaf yn gyson, ac roedd ar gael i chwarae bron bob ddydd Sadwrn. Roedd e’n esiampl arbennig i unrhyw un oedd yn gysylltiedig â’r clwb ar y pryd.
Yn gwario’r rhan fwyaf o’i amser yn yr ail dîm yn ystod yr adeg hon oedd Keith Thomas. Doedd Keith ddim yn edrych fel prop cyffredin, a doedd e ddim yn cario cymaint o bwysau a phrop cyffredin. Ond gwau unrhyw un oedd yn disgwyl gem hawdd yn ei erbyn. Roedd e gyda’r props cryfa’ galla’i ddychmygu ac er ei faint, yn anaml iawn fyddai unrhyw wrthwynebydd yn cael y gorau ohono. Roedd e’n anffodus ei fod o gwmpas yn adeg Wyn a Frankie, a dim ond pob nawr ac yn y man byddai’n cael cyfle yn y tîm cynta’, weithiau er mwyn bachu, lle fyddai’n mynnu bachu efo’i droed chwith am ryw reswm. Eto, mae atgofion ohono fel un oedd yn fodlon helpu mas. Pan gyrhaeddodd y tîm cynta’, pan fyddwn i yn ei ffonio’n wythnosol i gadarnhau ei fod ar gael, byddai’n ddi-os yn cynnig helpu gyda’r galwadau ffôn – symbol arall, efallai, ei fod wedi bod yn gapten ar yr ail dîm am dymor, ac felly’n gwbl ymwybodol o’r problemau o wario nos iau ar y ffon yn ceisio codi tîm.

Wedi i Wyn a Frankie orffen chwarae, fe ddaeth dod o hyd i flaenwyr yn dasg anoddach, yn enwedig rhai i’r rheng flaen. Gwnaethpwyd mwy a mwy o ddefnydd o ddoctoriaid, ac ymhlith rhain fe gyrhaeddodd Colin Dent y clwb. Roedd Colin yn gweithio gyda Pembers, ac yn un arall o’r chwaraewyr hynny fyddai’n chwarae a gwên ar ei wyneb. Roedd Colin yn brop o’r hen fath, byth yn un oedd yn debyg i fod yn rhedeg o gwmpas y cae a’r bel dan ei fraich. I’r gwrthwyneb, roedd e’n un oedd yn mwynhau sgrym ar un ochr y cae, cyn symud draw, heb ruthro, at ochr arall y cae i ddilyn y bel. Roedd e’n cario digon o bwysau, ac felly roedd ei gyfraniad nôl yn nyddiau rygbi statig yr wythdegau, yn fawr iawn inni. Ond er ei gyfraniad ar y cae, mae ei atgof yn bennaf imi oddi ar y cae, fel un efo hiwmor sych a phendant. Roedd e’n siarad (yn Saesneg) yn araf, ac roedd hi’n anodd gweithio mas os oedd yn siarad yn eironig neu beidio. Rwy’n cofio un Sadwrn, ro’n ni wedi erfyn arno i chwarae, er ei fod yn gweithio’r diwrnod hwnnw. Fe gytunodd y byddai yno, ac y byddai ‘mond yn ffonio os na fyddai’n gallu chwarae. Wrth gwrs, fe gyrhaeddodd 12.30, a ro’n i ar fin gadael y tŷ i fynd i’r Clwb pan ganodd y ffôn. “Hello John, it’s Colin Dent here” daith y llais araf. “Hi Colin” medde fi, yn barod yn dechrau meddwl am ryw contingency plan i’r rheng flaen, a fyddai mwy na thebyg yn meddwl y byddwn i yn propio. “Just ringing to let you know that I’m OK for this afternoon, and I’ll see you in the club in half an hour”

Mae’n anodd egluro’r panic, ac wedyn y rhyddhad y cefais i mewn rhyw 3 neu 4 eiliad ar y ffôn, a galla’i ddychmygu’r wên fyddai ar ei wyneb e wrth sylweddoli ei fod wedi’n weindio fi fyny mor hawdd.
Wedi ymadawiad Colin tua 1990, fe allai’r sefyllfa gyda’r props fod wedi mynd yn anodd iawn. Roedd gweld unrhyw un o’r siâp iawn yn troi lan yn fater pleserus iawn. Roedd hi’n ddiwrnod i’w gofio felly pan ymunodd Kevin Evans a’r Clwb. Rwy’n cofio ymarfer yn Llandaf yn ystod Mis Awst, a Mogs yn troi lan efo Kevin wrth ei ymyl. Manna from heaven. Nid jyst prop, ond prop oedd yn amlwg wedi chwarae rygbi o safon, a gwell fyth, cymeriad da a fyddai’n cyfrannu’n hael at ysbryd y clwb dros y pump neu chwe thymor nesaf. Ro’n i wastad yn teimlo braidd yn flin dros Kevin fel chwaraewr.

Roedd Dafydd Idris wedi gorffen chwarae rhai tymhorau ynghynt, ac roedd Dafydd yn ail reng na fyddai fyth yn cymryd cam yn ôl. Roedd hyn wrth gwrs yn fuddiol iawn i rai fel Brian a Wyn, oedd yn ddigon hapus i weld Dafydd yn ymladd eu cornel pan fyddai’r galw’n dod. Ond Kevin druan? Tu ôl iddo fe dros y blynyddoedd oedd Pembers a finne, neu Matt Trewella, neu Huw Phillips, neu Martin Powell. Fydden ni’n hoffi meddwl ein bod ni gyd wedi cyfrannu rhywfaint, ond mae’n rhaid bod yn onest, doedd yr un ohono’ ni’n Olivier Merle neu Colin Meads, ac unwaith fyddai’r nonsens yn dechrau yn y rheng flaen, fyddai ni’n fwy tebyg o ddweud “ there goes the ball over there I’d better chase it as fast as I can” ac yna wrth edrych nôl “Christ, Kev’s taken a right pasting. Still I was the first second row to the loose ball…”
Efallai bod hyn yn eglurhad am un atgof sy’ gen i am Kevin wrth chwarae. Ro’n ni yn Nhrefforest yn chwarae’r Poli, ac roedd Rupert Moon yn dyfarnu. Am y tro cyntaf erioed, yn chwarae yn erbyn grŵp o fyfyrwyr ifanc, ni oedd yn arwain yr ymladd. Rwy’n cofio codi o un sgrym, a dyna lle’r oedd Kevin o ‘mlaen i, gyda bachgen deunaw oed a’i ben dan fraich Kevin(mewn headlock) ac roedd Kev yn rhoi yffarn o wers iddo. Ro’n i bron a bod yn gallu ei glywed wrth i bob dwrn fynd mewn. “This one’s for the one I got against The Buns, this one’s for BP, this one’s for Caerau…”
Doedd Kevin ddim yn un o’r sgorwyr ceisiau mwya’ ‘rioed. I fod yn onest, dw’i ddim yn cofio un cais, ond rwy’n cofio’n glir yr un a fethodd. Ro’n ni wedi teithio ym Mis Medi i ganol Gwent i chwarae Abersychan, a’r disgwyl oedd y byddai’n gem galed yn erbyn pac cryf. Pan gyrhaeddo’n ni’r cae, roedd popeth fel y disgwylid – defaid yn yr ystafell newid, y cae ar ochr mynydd ac yn y blaen. Ond unwaith inni fynd allan i’r cae, fe newidiodd pethau, ac fe chwaraeon ni gem berffaith. Roedd asgellwr de yn chwarae jyst a bod ei unig gêm cyn mynd i’r coleg yn Southampton, ac erbyn hanner amser, roedd e wedi croesi am bedwar cais. Roedd trafod y tîm yn arbennig, a’r blaenwyr a’r cefnwyr yn cyd-chwarae mewn ffordd gofiadwy iawn. Erbyn yr ail hanner, ro’n ni’n rhedeg popeth, yn llythrennol yn dal y bel o’r ail-ddechrau, trafod y bel ymysg y blaenwyr, cyn agor hi i’r cefnwyr dorri trwyddo. Roedd hi’n agos iawn at fod yn rygbi perffaith yn steil traddodiadol y clwb, a buon ni’n fuddugol erbyn y diwedd o 93-0, ac roedd hyn yn y dyddiau pan oedd cais werth 4 pwynt.
Ychydig fewn i’r ail hanner, roedden ni wedi ennill tir trwy basio ymysg ein gilydd, a chyn pen dim, roedd y bel wedi cyrraedd dwylo Kevin. Do’n i ddim ymhell iawn oddi wrtho ar y pryd ac roedd hi’n amlwg nad oedd un gwrthwynebwr yn agos iddo, wrth iddo agosáu at ddwy-ar-hugain Abersychan. Roedd cais yn sicr o ddilyn. Yn sydyn daith llais Mogs, “Kev, watch out… man-on”. Mewn panic, a heb edrych, fe daflodd Kevin y bel i ddwylo Mogs ar ei bwys e, ac fe aeth Huw dan y pyst i sgorio. Roedd wyneb Kev yn bictiwr wrth iddo sylweddoli nad oedd neb yn agos iddo, a’i fod wedi cael ei dwyllo gan ei ffrind agos. Dw’i ddim yn ei gofio’n dod mor agos eto. Er mwyn gwneud pethau’n waith, yr unig atgof arall o’r diwrnod llwyddiannus hwnnw oedd Kevin yn yfed cocktail o bob math o ddiodydd – peint o Guinness gyda’r rhan fwyaf o’r top-shelf wedi cael ei roi ynddi.
Roedden ni’n fryn o brops o ddiwedd yr wythdegau ‘mlaen, ond i fod yn deg, fe allai pethau fod wedi bod yn waith fyth. Roedd Rob Thomas wedi ymuno â’r Clwb fel chwaraewr ail reng a rheng ôl. I fod yn deg, fe fyddai wedi bod yn gyson yn y tîm cyntaf mewn sawl clwb, ond efo ni, roedd y rheng ôl yn rhy gryf, ac felly, roedd ei gyfleoedd yn y tîm cynta’n brin iawn. Ond wedi tymor llwyddiannus yn gapten ar yr ail dîm, fe daflodd Rob ei het fewn i fywyd y rheng flaen er mwyn cael cyfle i fwynhau’r tîm cynta’. Roedd ei siâp yn iawn i’r safle, ac roedd e’n gweithio’n gyson ar ei gryfder, ond roedd ei wddf yn rhoi problemau iddo, ac roedd y teimlad o hyd bod anaf cas rownd y cornel iddo. Ond er hyn, cafodd ddau neu dri thymor o brofi’i hun fel un o gymeriadau pwysicaf a mwyaf poblogaidd y clwb.
Yn dechnegol, doedd e ddim cystal â nifer o’i wrthwynebwyr, ond doedd gan yr un ohonynt galon o’r fath. Byddai’n dal ei dir oherwydd ei fod yn benderfynol o beidio cymryd cam yn ôl. Roedd ganddo’r mentality iawn i fod yn y rheng flaen hefyd. Rwy’n cofio gem yn Raglan, lle’r roedden ni ymhell ar y blaen ac roedd popeth yn gyfforddus. Yn sydyn, o gornel fy llygad, rwy’n cofio gweld Rob yn taflu dau neu dri haymaker oherwydd bod rhywun wedi amharu arno – doedd ddim am i ddim byd sefyll yn ei ffordd. Doedd e ddim gyda’r sgorwyr mwyaf cyson chwaith, ond rwy’n cofio un prynhawn lawr yn Ninas Powis pan dderbyniodd y bel a charlamu hanner hyd y cae er mwyn sgorio.
Dydy Rob ddim yn llwyddo cyrraedd y tîm hwn, ond petawn i’n dewis sgwad o chwaraewyr, does dim dwywaith y byddai yno. Byddai’i bersonoliaeth yn angenrheidiol i ysbryd y clwb. Ei ymadawiad e oedd catalydd newid mawr ymysg y clwb. Fe oedd y cynta’ i orffen, ac o fewn tymor neu ddwy, roedd sawl aelod aeddfed(Meurig, Llyr R,Stumpy, Pembers, John Hayes, Sion Clwyd a finne) wedi gorffen chwarae am ryw reswm neu’i gilydd. Unwaith yn rhagor, roedd hi’n amser ail-adeiladu’r Clwb.
Erbyn hyn, roedd dau brop newydd, ifanc wedi ymuno â’r Clwb. Oni bai am anafiadau, fe allai Robin Ogwen a Dai Owen fod wedi propio dros y Clwb hyd heddiw. Roedd Robin yn llai ond yn gryf, gyda choesau trwchus. Fe gyrhaeddodd y clwb wedi sbel yn chwarae dros Glwb Rygbi Ifor Bach, ac rwy’n cofio’r diwrnod yn glir wrth iddo fe a Phil James, Scott, Grundy a Daf Levi gerdded dros gaeau Llandaf at ein sesiwn ymarfer. Roedd hi’n ddiwrnod pwysig arall inni, wrth i sawl aelod newydd ymuno mewn un diwrnod, a byddai eu cyfraniad nhw dros y blynyddoedd i ddod yn anferth. O’r rhain, Robin oedd y pwysicaf oherwydd ei safle. Er hyn, rwy’n cofio gorfod eistedd gydag e i egluro pam nad oedd yn chwarae i’r tîm cyntaf oherwydd bod dau neu dri hen ben ar gael. Oherwydd hyn, chafodd fawr o gyfle i brofi’i hunan yn y tîm cyntaf.
Yn wir, mae’r ddau atgof sy’ gen i ohono ar y cae yn gysylltiedig ag anafiadau. Roedd y cyntaf mas ar daith yn Llydaw, pan gafodd gwt cas i’w lygad o fewn munudau i’r dechrau, a byddai’r ail yn dod â diwedd i’w yrfa. Ro’n ni’n ymarfer ym Mis Awst yn Llandaf, ac am ryw reswm yn rhedeg hyd y cae. Doedd Robin ddim ymhell ohonof i, pan gamodd ar bêl a throi’i ben-glin. Roedd y sefyllfa’n debyg iawn i’r hynny oedd wedi digwydd i Dyfrig flwyddyn neu ddwy cyn hynny. Ond i Robin, roedd yr anaf yn fwy difrifol, ac fe ddaeth ei yrfa i ben yn sydyn iawn. Bron i ddegawd yn ddiweddarach, fe glywais ei fod wedi ail gydio yn y gêm yn cynrychioli Tongwylais, o bawb, sy’n dangos yn fwy byth y golled i’r clwb. Fe allai fod wedi bod yn y rheng flaen am gyfnod hir inni.
Ar ei bwys drwy’r adeg hyn mae’n siwr fyddai Dai Owen. Rwy’n cofio Dai yn cyrraedd y Clwb fel blaenwr swil ac yn fyr o hyder. Erbyn hyn, mae’r sefyllfa hynny wedi newid rhywfaint. Roedd ei araith cinio wedi tymor o fod yn gapten yng Ngwesty’r Park yn un cofiadwy iawn. Ar y cae, fe aeddfedodd yn gyflym iawn, yn enwedig wedi’r gêm gofiadwy yn erbyn Barry Plastics ac fe ddatblygodd yn aelod pwysig a dibynadwy. Ond dim ond ar ôl imi orffen chwarae y cefais syniad o’i wir ymroddiad i’r clwb.
Nol ar ddechrau’r nawdegau, roedd gemau yn erbyn Barry Plastics, ymhlith eraill, wedi bod yn frwydrau cas, ac wedi llawer o drafod, fe benderfynwyd tynnu allan o gynghrair Caerdydd. Roedd hi’n benderfyniad pwysig, yn ein gadael ni i chwarae gemau cyfeillgar trwy gydol y tymor yn hytrach na pheryglu cyrff ein chwaraewyr. Gyda chwaraewyr y Clwb yn newid yn gyson, pan dynnwyd y Clwb o’r het i chwarae lawr yn erbyn Barry Plastics ar ddiwedd y ganrif, dim ond rhyw un neu ddau o’r chwaraewyr, Neil, Dyfrig a Dai oedd wedi bod yno o’r blaen ac oedd yn gwybod beth oedd i’w ddisgwyl.

Fe fyddai wedi bod yn hawdd i Dai esgusodi ei hun a thynnu allan o’r gêm, ond i’r gwrthwyneb, roedd e yno ac ar flaen y gad. Yr hen hanes, efallai, oedd yn gyfrifol am y wên fawr oedd ar ei wyneb ar ddiwedd y gêm, wedi buddugoliaeth i’r clwb nad oedd wedi edrych yn debygol ar yr hanner. Ond wrth chwarae at eu cryfder, y cefnwyr, fe drodd y gêm rownd, ac roedd y fuddugoliaeth yn felys iawn. O safbwynt Dai Owen, roedd hi’n deimlad o edmygedd i’w wylio yn mynd nôl fewn i ffau’r llewod.
Bu sawl un arall yn gwisgo’r rhif 1 neu 3 dros y blynyddoedd, fel Sean Clarke, Bubba i bawb, prop mawr fyddai’n gwylio’n ofalus ar ôl pob gem i weld canlyniad Blaina. Un arall oedd Ryan Davies, ffrind mawr i Kevin, ac o’r cof, y prop mwyaf bodlon i gynrychioli’r ail dîm yn hapus, ond oedd eto’n ddigon da i lenwi bwlch yn y tîm cyntaf – daeth ei foment pwysica’ inni yn y gêm gwpan 20 munud yn erbyn Caerau. Bu un tymor inni yng nghwmni Morgan Hopkin, cyn iddo ddiflannu i freichiau Cath ar Bobol y Cwm ac un neu ddwy gydag Illtyd James yn ein plith.

Ac wrth gwrs, roedd yna rai a ddaeth yn brops oherwydd ein bod ni mor fyr trwy’r amser. Ymhlith rhain oedd Andy Beale, un oedd wedi gobeithio chwarae fel bachwr ond oedd yn ddigon cryf i lwyddo fel prop, a Bleddyn Rhys. Fe drodd Bleddyn lan yn y Cameo yn ddiniwed ryw ddydd Sadwrn yn egluro’i fod wedi clywed fod y Clwb yn cwrdd yno. Cafodd groeso gan Meurig a finne, a gofynnodd Meurig iddo ba safle’r oedd yn chwarae. “Rheng ôl yn benna’” medde Bleddyn, “ond dw’i wedi chwarae ‘chydig yn y rheng flaen”. Dwi’n cofio llygaid Meurig a finne’n cwrdd, yn amlwg fod y ddau ohonom yn meddwl yn union yr un peth, “Chances of this person playing back row = nil”.
Ac wedi edrych ar rai o’r props mwyaf ifanc, fel Robin a Dai, beth am air bach am y prop hynna’. ‘Dwi ddim yn siwr, ond mae’n rhaid bod Bryn Evans yn ei bedwardegau canol pan atebodd alwad i chwarae yn erbyn ail dim Glamorgan Wanderers. Yn anffodus, roedd hi’n ddiwrnod ym mis Mai pan oedd y Wanderers yn chwilio am fuddugoliaeth i ddyrchafu i’r adran nesa’, ac felly ro’n nhw ar eu cryfa’. Er hyn, ac er inni golli’n drwm, roedd hi’n berfformiad calonogol gan fois y Clwb, ac er ei oedran, roedd techneg a ffitrwydd Bryn yn ddigon iddo ddal ei dir trwy’r gêm gyfan.
Ond os am ddewis rheng flaen i chwarae dros dim select y clwb, mae yna ddau chwaraewr gwbl wahanol ei steil yn dod i’r meddwl. Mae un yn amlwg, y llall ‘chydig yn llai amlwg. Rwy’ wedi trafod rhinweddau Wyn Lewis yn barod. Roedd yn gymeriad ac yn chwaraewr poblogaidd iawn, ac imi fel ail reng ifanc y tu ôl iddo, roedd yn athro arbennig ar y gêm.
Roedd e’n chwarae’r gêm mewn amser pan oedd pwysigrwydd y rheng flaen yn gwbl wahanol i sut y mai’r dyddiau hyn. Doedd dim yn bwysicach i Wyn na’n bod ni’n dal ein tir yn y sgrymiau, ac yn llwyddo ennill ein pêl ni, a sbwylio pêl y gwrthwynebwyr yn y leiniau. Roedd hi’n jôc gyffredin i bawb y byddai, ar yr adegau anaml hynny pan fyddai’r bel yn gorffen yn ei ddwylo rhywsut, yn mynnu ffurfio sgarmes. Dyna beth oedd props yn gwneud adeg hynny, nid rhedeg o gwmpas a’r bel dan fraich. Er ei fod rhywfaint yn llai na’r rhan fwyaf o chwaraewyr yn ei erbyn, roedd y dechneg, a ddysgwyd yn chwarae safon neu ddwy yn uwch na’r clwb, ganddo i ddal ei dir . Byddai neb yn cael diwrnod cyfforddus yn ei erbyn. Yn fwy na hyn oll, efallai, oedd y ffaith fod y Clwb yn meddwl cymaint iddo.

Erbyn heddiw, os oes rhywun yn gapten ar y Clwb am ddau dymor, maen nhw’n gorfod dangos ymroddiad mawr er mwyn cwblhau’r niferoedd o swyddi sydd o’u blaen. Fe ddylwn i wybod, wedi gwneud 3 tymor hir a chaled. Ond fe gwblhaodd Wyn 4 tymor o gapteiniaeth cyn cyfrannu rhyw dri neu bedwar tymor arall fel chwaraewyr, hyfforddwr rhan amser, ac yna fel cadeirydd. Ond er yr holl gyfraniadau eraill, fel chwaraewr y mae’n sefyll mas fwya’ imi, a dyna sut y byddwn i yn ei ddewis yn y tîm arbennig hwn. Mae pethau bach yn dal i ddod i’r cof, fel y sŵn oedd yn dod wrth iddo glirio’i wddf cyn gem, a’r ffaith ei fod yn golchi’i wallt ar ôl gem drwy rwbio sebon trwy’i wallt!
From one extreme to the other, efallai, gyda’r prop arall. Efallai nad Andy Long oedd y prop orau a fu, dw’i ddim yn gwybod, ond pan oedd yno, roedd ei gyfraniad lawer yn fwy eang na rhywun fel Wyn. Roedd Andy yn brop o’r oes fodern, i’r gwrthwyneb i Wyn. Dim ond am ddau neu dri thymor y bu gyda ni, ac eto yn groes i Wyn, doedd e ddim yn un o’r rhai hyn fyddai ar gael bob p’nawn Sadwrn. Roedd hyn yn bennaf oherwydd ei swydd fel doctor, ond i fod yn deg, pan ddaeth y gemau pwysig, fe fyddai yno. Roedd e’n ddyn mawr, ond eto’n athletwr. Roedd y cais a sgoriodd lawr yn Sully yr wythnos cyn inni deithio i’r Drenewydd yn fythgofiadwy, wrth iddo dderbyn y bel yn ei hanner ei hun, cyn ymestyn ei goesau hyd y cae, a sgorio yn y cornel. Fyddai’n hawdd dweud mai yn erbyn Sully ‘roedd e, a’i bod nhw’n wan, ond i fod yn deg, doedd dim gobaith gan ein chwaraewyr ni i gadw fyny gydag e.
Does gen i ddim rhyw lawer o syniad am ei dechneg e, ond rwy’n gwybod y byddai’n cyfrannu’n hael at ein tîm ni, ac fe fyddai fe a Wyn yn creu contrast da yn y rheng flaen – un prop cadarn a thechneg dda, ac un cyflym a rhydd, ond efo mwy o bwysau. Y cwestiwn nesa’ yw pwy i roi rhyngddynt yn y rheng blaen. A two horse race, dwi’n meddwl.

Roedd cyfraniad Tony Vobe yn y Nawdegau yn anferth. Roedd e wedi cyrraedd gyda chriw Clwb Ifor dwi’n meddwl, a chyn bo hir, roedd e wedi derbyn safle’r bachwr, a fyddai’n dal mlaen at y safle hyd nes iddo adael y clwb. Roedd ei ymadawiad yn ergyd fawr inni. Fe adawodd dros un haf, yr un pryd a Rhidian Lloyd. Roedd colli Rhidian yn ergyd, gan ei fod wedi cynrychioli Cymru ar y lefel hon, ond o leia’ roedd cefnwyr yn ymuno’n reit gyson. Ond roedd colli Tony yn ergyd fwy oherwydd y prinder bachwyr. Hyd yn oed heddiw, rhyw 4 neu 5 tymor wedi iddo adael, does neb wedi llwyddo llenwi ei ‘sgidiau. Y peth mwyaf trist ar y pryd oedd ei ddewis clwb(ac yn wir Rhidian). Doedd Pentyrch ar y pryd yn fawr o dîm llwyddiannus, ac er ei bod wedi ennill yn gyson eleni, dy’n nhw ddim yn debyg i fod yn glwb mawr yn yr ardal hon. Roedden ni gyd yn siomedig iawn i’w weld e’n mynd.
Ar y cae, roedd gan Tony bopeth oedd angen i fod yn fachwr da. I ddechrau, roedd ei siâp yn berffaith. Roedd e’n ddigon mawr a chryf i ddal ei dir yn y sgrymiau, ond eto roedd e’n symud o gwmpas y cae yn gyflym ac yn mwynhau cael y bel yn ei ddwylo. Fe ddangosodd hefyd ei fod yn ddigon hapus i wrando a dysgu. Pan ymunodd a ni, roedd ei daflu fewn yn weddol, gyda gwallau o bryd i’w gilydd. Ond ar ddechrau un tymor, fe ymddangosodd ei fod wedi bod yn ymarfer taflu fewn i’r leiniau â dwy law, yn debyg i Sean Fitzpatrick. Yn sydyn iawn, roedd yr un man gwan yn ei gem wedi gwella cymaint iddi ddatblygu’n rhan gref o’i gem. Ond efo’r bel yn ei ddwylo fyddai’n cofio Tony’n bennaf. Rwy’n cofio un diwrnod lan yng Ngogledd Llandaf, pan o’n i eto’n gwylio o’r ochr. Rhywsut neu’i gilydd, fe gyrhaeddodd y bel ddwylo Tony wrth yr ystlys, reit o ‘mlaen i a sawl un o gefnogwyr Llandaf. Yn agosáu ato, roedd un o flaenwyr mawr Llandaf. Os bu erioed ar gae rygbi sefyllfa o’r irresistible force meeting immovable object, dyma oedd hi. Fe aeth Tony yn syth tuag ato’n isel a bu ergyd anferth rhwng y ddau. Er mawr syndod i wylwyr Llandaf, fe syrthiodd ei blaenwr nhw ar ei ben ôl, ac fe aeth Tony ‘mlaen ar ei ffordd, wedi codi ysbryd ei gydchwaraewyr mewn eiliad fer. Mewn ambell safle, byddai rhywun o’r safon hon wedi llwyddo cael ei ddewis i’r tîm hwn, ond yn anffodus iddo fe, bydd rhaid iddo fodloni a safle ar y fainc.
Ymhlith y rhai eraill fu yno yng nghanol y rheng flaen, roedd yna gymeriadau amlwg, fel Huw Morgan. Pan ymunodd Huw a’r Clwb, roedd e wedi’i anafu, a bu fel ‘na am ei yrfa gyfan. Ond trwy gydol hyn, roedd e’n gymeriad cofiadwy, ac yn deithiwr hanfodol. Bu neb yn fwy amlwg ar y fferi yn canu ac yn arwain yr yfed. Ond fyddai ddim yn hir nes inni weld ei lygaid yn dechrau cau, a thra byddai pawb yn symud fewn i’r ail gêr, byddai Huw yn debygol o syrthio i gysgu mewn cornel.
Efallai bod hyn yn rhan o natur Huw. Os bu’r dywediad “work hard, play hard” yn perthyn i unrhyw un, roedd yn gywir i Huw. Roedd e’n gweithio oriau hir yn yr wythnos, ac erbyn y penwythnos, byddai’n mwynhau gem ac yna awr neu ddwy yn yr Halfway ac yna i’r Cameo. Sawl gwaith,’sgwn i, syrthiodd Huw i gysgu yn y Cam? Er hyn, roedd e’n ffyddlon iawn i’r Clwb, ac yn un o’r rhai hynny byddai’n gwneud ymdrech ddifrifol i ymarfer yn gyson. Ar sawl achlysur, rwy’n ei gofio’n cyrraedd Glantaf tua chwarter wedi saith tra’n bo’ ni’n dechrau ymlacio cyn gorffen. Byddai felly’n diflannu i redeg am ryw hanner awr cyn mynd adre. Ar y cae, roedd e’n bachu’n dda ac yn taflu fewn yn…wel hit and miss efallai. Ond fyddai byth yn cyfrannu llai na cant-y-cant. Ond fel cymeriad cymdeithasol fydd Huw yn sefyll mas, yn enwedig imi, ar daith.
A phwy arall bu a’r rhif dau ar eu cefnau dros y blynyddoedd? Nol yn yr wythdegau, roedd Huw Atlantic ac Eifion Rees, dau a fyddai wedi bod yn cystadlu i’r tîm cyntaf oni bai am bresenoldeb Brian, neu Gareth Harries, sy’n aros yn y cof nid yn unig am ei chwarae rygbi, ond am ei drefniant gemau. Fel ysgrifennydd gemau, rwy’n cofio trafod gydag e, a chlywed ei fod wedi trefnu gemau am ryw dri neu bedwar tymor i ddod. Mewn blynyddoedd i ddod, fe fydden ni wedi bod yn ffodus i gael gemau wedi eu trefnu am dri neu bedwar wythnos i ddod. Erbyn diwedd yr wythdegau, roedd Gary Davies(dwi’n meddwl), neu Gonc i bawb wedi cyrraedd y Clwb. Fe fu’n anffodus braidd fod gennym bac gwan ar y pryd, a chafodd fawr o gyfle i brofi’i hunan o fewn tîm da. Yn ogystal, fe gytunodd ar un adeg i bropio mewn gem, ac wrth gwrs fe ddaeth hynny’n fwy cyson wrth i amser fynd heibio. Rwy’n cofio perswadio fe i bropio ar fore Sadwrn ym Mryncethin, ac wedi cytuno’n anfodlon braidd, derbyniodd ergyd i’w lygad yn y munudau cyntaf, ac roedd ei gem ar ben yn sydyn iawn.
Yn fwy diweddar, daeth Emyr Morgan a Hefin Jones, ac Andrew Scott(Scott i bawb) i’n plith. Erbyn iddo adael y Clwb, roedd Emyr wedi cyrraedd rhyw “cult status” ymysg ei gydchwaraewyr, wedi derbyn cerdyn melyn cynta’r Clwb am ddyrnu Tommy o’r Plastics. Doedd ganddo ddim cymaint o faint a sawl bachwr arall, ond roedd ei galon yn fawr, ac roedd e’n ddigon bodlon sefyll ei dir yn erbyn unrhyw un, a hynny’n cynnwys chwarae fel prop lle’r oedd angen. Roedd ei daflu fewn yn destun sbort, ond i fod yn deg, fe fyddai’n derbyn popeth â gwen ar ei wyneb. Yn sgil hyn, roedd ei ymadawiad yn 2000 yn golled i bawb.
Doedd Hefin ddim yn fachwr naturiol. Rwy’n cofio fe’n chwarae gem i’r ail dîm, yn taflu fewn un funud, ac yna’r funud nesa’ fe ymddangosodd rhyw ugain metr y tu ôl i’n cefnwr ni i dderbyn cic trwyddo. Roedd e’n fachwr, efallai, yn y ffordd fwyaf modern posib. Roedd hi’n fwy siomedig fyth felly, iddo fe, fel un oedd yn chwarae’r gêm am fwynhad, a dim byd arall, gael ei anafu mor ddifrifol gan esgid un o’i wrthwynebwyr yn erbyn Trelai. Roedd e’n un o’r chwaraewyr hynny na fyddai byth wedi gwneud niwed i unrhyw un arall ar gae rygbi, a doedd anaf fel hynny ddim yn deg arno. Yn ogystal â hyn oll, roedd gen i ddigon o amser i Hefin, gan mai fe oedd yr unig berson i’m dewis i yn ei dim ffantasi nôl yn y nawdegau cynnar!
Problem fwyaf Scott oedd chwarae’n gyson mewn un safle. Roedd e’n un arall o’r rhai hynny byddai yn y rheng flaen i’r tîm cyntaf un wythnos, ac yna’n chwarae fel mewnwr i’r ail dîm yr wythnos ganlynol. Roedd e’n Jack of all trades, ac yn un da ymhob safle hefyd.
Ond mae dewis bachwr i gynrychioli’r tîm hwn yn ddigon hawdd. Efallai mai enw Brian Sullivan fyddai’r cyntaf ar bapur, cymaint oedd ei effaith ar y tîm. Nid dim ond fel chwaraewr roedd yn cael effaith, ond fel un oedd yn gallu ysbrydoli ei gydchwaraewyr, a hyn yn bennaf oherwydd eu hedmygedd tuag ato. Roedd Brian yn gallu gwneud popeth ar y cae. Er nad oedd gyda’r bachwyr mwya’, roedd ei dechneg yn dda, ac anaml iawn fydden ni yn colli’n pêl ein hunain yn y sgrymiau oherwydd hyn. O gwmpas y cae, roedd yn ffit ac yn gyflym, ac yn trafod y bel yn gyfforddus. Ond ei daflu fewn sy’n gofiadwy am ryw reswm. Yn fy nhymor cynta’, ein prif arf yn y leiniau oedd Ieuan Lloyd yn y cefn. Roedd defnyddio Ieuan felly’n dibynnu ar rywun oedd yn gallu taflu’n syth, a gyda Brian, roedd rhywun dibynnol yno i sicrhau hyn.
Fel cystadleuydd, roedd e heb ei ail, ac roedd e’n un o’r rhai hynny oedd yn disgwyl i bawb roi cant y cant yn yr un modd. Roedd yn disgwyl i bawb fod yn gallu cyflawni eu tasgiau’n gywir, boed nhw’n chwaraewyr neu’n ddyfarnwyr. Fe gymerodd amser imi brofi’n hunan yn ei lygaid e, ond rwy’n gobeithio imi lwyddo wedi ‘chydig. Un na lwyddodd hyn oedd ein dyfarnwr rywdro lawr ym Maglan. Roedd yn amlwg nad oedd y gŵr hwn yn gyfarwydd â’r rheolau, a thra bo’r gweddill ohono’ ni’n anwybyddu hyn, roedd Brian yn mynd yn benwan. Erbyn y diwedd, cafodd Brian ei hel o’r cae, ond rwy’n dal i gofio’i wyneb wrth iddo adael y cae, yn dal i waeddi ar y dyfarnwr. Wedi inni gyrraedd yr ystafelloedd newid, fe ddechreuodd y trafod o faint o amser fyddai Brian yn cael ei wahardd. Ond nôl yng nghlwb Baglan, fe amlygodd hi nad dyfarnwr iawn mohono, ac felly ni fyddai’r cerdyn coch yn cael ei gyfathrebu i’r district. Roedd hynny mewn ffordd yn gwneud i ymddygiad Brian ar y cae’i ymddangos yn deg – roedd hi’n debyg nad oedd y dyfarnwr yn gwybod ei stwff wedi’r cyfan!
Roedd diwedd gyrfa Brian yn siomedig. Roedden ni wedi cael tymor da, wedi cyrraedd 16 ola’r Brewers yn y Drenewydd, ac roedd y tymor yn tawelu’n braf. Wedi i fis Ebrill gyrraedd, yn draddodiadol byddai safon y tîm yn codi wrth drafod y bel yn yr heulwen ac ar dir sych. Rwy’n cofio gem ddiwetha’ Brian, lawr yn erbyn Newport Saracens(dwi’n meddwl – y clwb nesa at Barc Tredegar). Roedd hi’n sych ac yn braf, a ro’n ni wedi benthyg dau neu dri o chwaraewyr y Medics am y diwrnod. Gallai ddychmygu sut deimlad oedd hi i’r Saracens wrth inni redeg popeth am awr a hanner, mewn perfformiad cofiadwy iawn. Efallai’i bod hi’n beth da i yrfa Brian orffen yn y ffordd hon. Ro’n ni ar y ffôn efo Butchie yn ystod yr wythnos ganlynol yn trafod tîm ar gyfer y Sadwrn, pan eglurodd imi fod disc wedi mynd yng nghefn Brian a’i fod yn mynd i fod ar ei gefn am rai wythnosau. Un peth oedd yn sicr oedd na fyddai’n chwarae rygbi ‘to.
Felly mae’r rheng flaen yn ei le. Cryfder a thechneg Wyn Lewis, maint a chyflymder Andy Long, a sgiliau di-ri Brian Sullivan. Beth am y “powerhouse” y tu ôl iddynt?
I fod yn onest, prin iawn yw’r powerhouses sy’ wedi bod yn yr ail reng – roedd y rhan fwyaf ohono’ ni fel lighthouses. Yn y dyddiau cynnar, fy mhartner i oedd Dafydd Idris, un o’r rhai hynny y byddai’n deg i’w ddisgrifio’n powerhouse. Fe ddysgais lot oddiwrth Dafydd ynglŷn ag ennill pêl yn y leiniau. Doedd Dafydd ddim gyda’r tala’ o neidwyr, ac felly roedd e a Brian wedi datblygu system i lwyddo ennill y bel. Yn syml, y system oedd taflu pêl “fflat” i’r lein. Yn wir, fyddai’r bel fel arfer mor fflat y byddai dim ond yn mynd uwchben Frankie ymlaen y lein. Byddai Dafydd yn neidio ‘mlaen cymaint ag i fyny, ac yn dal y bel o gwmpas ei stumog uwchben Frank. Roedd hi’n dechneg a weithiodd am dymhorau maith, gyda Dafydd ac yn hwyrach i mi . Roedd Dafydd hefyd yn cynnig cadernid i’r tîm. Roedd e’n un o’r chwaraewyr hynny na fyddai’n cymryd cam yn ôl. Roedd rhywbeth yn perthyn i fechgyn y Gogledd, fel Llyr Williams a Rhys Lloyd yn ddiweddarach, oedd yn gwneud iddynt amddiffyn eu hunain yn gadarn iawn. Byddai Dafydd o un tymor i’r nesa’n mwynhau brwydr bersonol flynyddol â rhyw foi pengoch o Canton, ond daeth y frwydr fwyaf cofiadwy yn y gêm honno yn erbyn Baglan pan gafodd Brian ei anfon o’r cae. ‘Dwi ddim yn gwybod be’ ddechreuodd yr ymladd, ond daeth un ail-ddechrau, pan anwybyddodd pob un o flaenwyr Baglan y bel, er mwyn ymosod ar Dafydd. Yn ôl ei arfer, fe ddalodd Dafydd ei dir, ac mae’n siwr gen i iddo lanio ergyd neu ddwy tra’i fod wrthi.
Fy mhartner yn yr ail reng am amser hir oedd Dave Pemberton. Mewn ffordd, ro’n ni’n reit debyg, y ddau ohonom â gobeithion o chwarae yn y rheng ôl, a’r ddau ohonom yn meddwl ein bod ni’n John Eales, yn mwynhau cicio. Ond yn y leiniau, Dave oedd y brenin. ‘Dwi ddim yn meddwl fod sawl un o’r cefnwyr yn gwerthfawrogi cymaint o waith fyddai Dave yn gwneud yng nghanol y lein, ac rwy’n cofio clywed rhai ohonynt yn gofyn iddo gyfrannu’n fwy yn yr elfen glos, yn hytrach na’i fod yn chwarae’n rhydd. Ond dyna sut oedd Dave yn chwarae. Wedi ennill y bel yn y lein, ei fwriad nesa’ oedd i redeg â’r bel yng nghanol y cae, nid cael ei dynnu fewn i sgarmes. Yn y leiniau, Dave oedd y neidiwr gorau imi weld yn cynrychioli’r clwb yng nghanol y lein. Roedd hyn wrth gwrs yn y dyddiau cyn codi chwaraewyr, ac felly roedd techneg gymaint yn fwy pwysig. Mae gen i lun o Dave yn ennill pêl mewn lein lawr yn Nhregaron, ac mae ei dechneg yn berffaith – dwy lygad ar y bel, dwy law yn ymestyn i fyny, a’i gorff, heb unrhyw gymorth, ymhell oddi ar y llawr. Y ffordd gorau o’i ddisgrifio erbyn heddiw, efallai, yw dweud ei fod yn debyg i Chris Wyatt, er nad yw hyn efallai’n deg ar Dave.
Oddi ar y cae, roedd Dave yn gymeriad hoffus, ac mae cymaint o atgofion da sy’n gysylltiedig da fe. Fel doctor, roedd e’n aelod pwysig wedi pob gem hefyd wrth edrych ar ôl y cleifion, neu’i brysio nhw heibio pawb arall yn CRI. Os nad oedd amser i fynd i CRI, wedyn roedd yr optiwn o drin pobl rhywle arall. Rwy’n cofio pwythau’n cael rhoi fewn yn Cardiff Sports(Penarth Rd) ac yn y Cameo. Roedd hi lawer yn fwy cyfleus na mynd i’r ‘sbyty. Dave fyddai hefyd yn gyfrifol am lenwi’r bag meddygol yn gyson, hyd yn oed amser hir wedi iddo orffen chwarae, er erbyn hynny, nad oedd unrhyw ddoctor yno fyddai’n gallu defnyddio’r nwyddau’n gywir. Rwy’n cofio trafod y Clwb efo Dave unwaith, ac yntau’n dweud, er nad yn un oedd yn siarad Cymraeg, pa mor bwysig oedd y Clwb iddo, a chymaint y byddai’n dymuno roi yn ôl i’r Clwb er mwyn diolch am yr amseroedd da ‘roedd wedi mwynhau yno. A dyna sy’ wedi digwydd dros y blynyddoedd. Er yn ddyn prysur, mae e’n dal i fod yn Llywydd ar y Clwb ac yn dal i gynrychioli’r vets yn reit gyson.Mae’i gysylltiad â’r Clwb, felly yn hirach na’r rhan fwyaf ohono’ ni.
Ymhlith y rhai eraill a fu yn yr ail reng oedd yr enwog Arnold James, neu Archie i bawb. Fe’i croesawyd i’r Clwb fel rhyw fab afradlon, ac roedd mawr disgwyl wedi inni glywed ei fod yn symud i’r brifddinas. Rwy’n meddwl inni gyd ddechrau cymryd yn ganiataol na fydden ni fyth yn colli lein eto, cymaint oedd ei maint a’i brofiad yn yr ail reng. Dan yr amgylchiadau hynny, roedd pethau wastad yn mynd i fod yn anodd iddo, a dwi ddim yn credu inni weld y gorau ohono ar y cae. Mae gen i atgof ohono’n anafu yn gynnar yn ystod ei yrfa gyda’r Clwb, a ‘dw’i ddim yn meddwl iddo lwyddo dod dros yr anaf yn gyfan gwbl.
Daith prif gyfraniad Archie i’r Clwb oddi ar y cae. Rwy’n cofio trafod y posibilrwydd ohono’n cymryd drosodd fel hyfforddwr, ac yn cynsidro na fyddai ganddo ryw lawer o ddiddordeb. Ond ar y pryd, roedd cnewyllyn bach o aelodau o Dregaron wedi ymuno â’r Clwb, ac efallai bod hyn wedi cael effaith ar ei benderfyniad. Fel yr oedd hi, roedd y ddau neu dri thymor y bu’n gyfrifol am hyfforddi yn rai o’r rhai mwyaf llwyddiannus, trefnus a mwynhaol o safbwynt ymarfer. Roedd e’n ffodus, efallai, mai’r adeg hyn oedd pan oeddem yn ymarfer yn Llys Talybont, lle’r oedden ni’n ymarfer am 7.30 ar nos Fercher, ar gae sych(dim ots beth oedd y tywydd) gyda chyfleusterau da, a chyda cawodydd twym i olchi. I fod yn deg, doedd dim esgus i beidio ymarfer, ond roedd sesiynau ac ymroddiad Archie ar y pryd yn helpu hyn. Roedd e hefyd wrth gwrs yn un da i fynd ar daith. Roedd ei gyfraniadau ar y cyfandir, a hefyd ar ein trip i Gwmtillery yn rhai cofiadwy iawn. Efallai na fyddai’n ennill ei ffordd i mewn i’r tîm hwn, ond yn sicr fe fyddai lle iddo ar y tîm hyfforddi, ac yn gyffredinol oddi ar y cae.
Ac mae rhai eraill wedi bod. Ymhlith y rhai fu’ chwarae gydag e, pwy fyddai’n gallu anghofio ffrind Stumpy, Tudor, neu Scud fel y cafodd ei alw, wedi gem yn erbyn Cathays, lle y bu’n brwsio chwaraewyr i’r naill ochr neu’r llall fel petaent yn blant bach. Doedd e ddim gyda’r tala’ o chwaraewyr, ond roedd ei gryfder yn ei faint, ac roedd e’n arf bwysig inni fel rhedwr. Roedd hi’n anffodus na lwyddo’n ni ei berswadio i aros yn hirach efo’r Clwb, ond roedd ei safon ‘chydig yn uwch na ni, ac roedd hi’n deg felly i’w weld yn symud i safon yn uwch.
Efallai mai’r bartneriaeth fwyaf effeithiol bu efo ni dros yr amser yn yr ail reng oedd honno o Matt Trewella, a Martin Powell. Martin, mae’n siwr oedd un o’r chwaraewyr talaf i gynrychioli’r Clwb, ac fe fyddwn i’n synnu os bu chwaraewr mwy poblogaidd chwaith. Fe oedd Gentle Giant y Clwb, os bu un erioed, ac efallai nad oedd hyn yn ei ffafrio ymysg chwaraewyr dwl y brifddinas. Prif gamp Martin oedd criced, ac rwy’n credu iddo sylweddoli nad oedd chwarae dros y Clwb yn debyg o wneud unrhyw les iddo. A phwy, wedi ei weld yn chwarae criced dros dîm criced y clwb, allai roi bai arno? Roedd un batiad gwbl gofiadwy, pan oedd y Clwb yn batio’n ail mewn gem o 18 pelawd, ac yn ceisio am ryw 160-170 i ennill. Gydag un belawd i fynd, roedd angen rhyw 20 arall i ennill, ac roedd Martin wedi sgorio tua 110. Wedi sgorio ryw 15 oddi ar y 5 pêl gyntaf, roedd angen un 6 arall i gipio’r gêm. Fe fethodd, ond roedd hi’n fatiad anghredadwy, wedi sgorio tua 130 allan o’r cyfanswm. Ar gae rygbi, doedd e ddim cweit mor ddinistriol, ond roedd ei gyfraniad yn y leiniau yn arbennig yn bwysig iawn.

Ro’n i wedi anafu pan daith sôn fod Matt yn trafod ymuno â’r Clwb. Roedd e’n ffrind da gydag Andy Edwards, ac roedd pawb wedi clywed fod pedigree da gydag e, a’r sôn oedd ei fod wedi chwarae dros Gaerfaddon ar ryw lefel. Mae’n anodd credu felly ein bod ni wedi ei ddewis yn gyntaf i chwarae dros yr ail dîm, a bu yno am rai wythnosau. Dwi’n meddwl i Andy, fel Capten yr ail dîm ar y pryd, gadw pethau’n dawel er mwyn sicrhau iddo gynrychioli’r ail dîm am sbel. Fe ddaeth ei gyfle o’r diwedd yn y tîm cyntaf, mewn gem yn erbyn Cardiff Harlequins. Roedd e’n dal i ddweud ei fod a’i lygaid ar agor rownd y ddinas cyn dewis tîm llawn amser, ac felly roedd taith i’r Quins yn peri digon o bryder. Do’n ni ddim yn chwarae’n arbennig ar y pryd, a’r ofn oedd y byddai Matt yn gweld y cyfleusterau yno, ac y bydden ni yn cael crasfa, felly’n creu argraff sâl o’r Clwb. Byddai hyn yn rhoi esgus da iddo ddiflannu i ymuno â nhw. Ond fel y byddai’n digwydd yn aml, fe gododd y Clwb ei gêm pan oedd ei angen. Nid y cefnwyr yn unig oedd i’w ddiolch y diwrnod hwnnw, ond y tîm cyfan, yn amddiffyn a thaclo o’r eiliad cyntaf. Roedd hi’n deimlad arbennig yn dod oddi ar y cae – roedd curo’r Quins wastad yn bleserus – a dwi’n meddwl fod Matt wedi sylweddoli cymaint o gamp oedd hi. O’r diwrnod hynny ‘mlaen, doedd dim dwywaith mai dros y Clwb y byddai Matt yn chwarae tra yng Nghaerdydd.
Ar y cae, fe ddatblygodd yn chwaraewr ag ymroddiad, byddai yno bob Sadwrn. Roedd e’n gryf yn y leiniau, ac roedd hyn yn ei wneud yn darged hawdd i’w wrthwynebwyr yn y Brifddinas. Ond dim ots faint o brofocio, byddai’n cadw mlaen i neidio a dwyn pêl a chyfrannu rownd y cae. Roedd Matt yn enghraifft o un a allai fod wedi chwarae safon uwch, o ystyried ei sgiliau yn y lein, ond a arhosodd i fwynhau bywyd cymdeithasol a rygbi agored y Clwb. Oddi ar y cae hefyd, roedd e’n gymeriad poblogaidd ac yn deithiwr da, ac roedd e’n golled mawr inni ym mhob ffordd pan ddiflannodd i weithio yn Nhenerife.
Dros y blynyddoedd, fe fu rai eraill hefyd. Roedd sawl un yn chwaraewr reng ôl a ddrafftiwyd i’r ail reng oherwydd bod rhaid. Yn y dyddiau cynnar, roedd y meddyg Dai Gutsy, a chwaraeodd ar daith yn Luxembourg er ei fod yn diodde’ o gout ar y pryd. Roedd e’n athro da ar y cae. Roedd e’n un arall oedd yn dilyn y “Dafydd Idris/Clwb rygbi flat ball to the front”, ond roedd e hefyd wedi datblygu rhywbeth arall. Os fyddai’n dal ei fraich allan pan oedd Brian ar fin taflu mewn, roedd hyn yn meddwl ei fod eisiau “lobbed ball”. Imi, roedd hyn yn rhywbeth ymhell o flaen ei amser er na fyddwn i’n dweud ei fod wedi gwella’n neidio rhyw lawer chwaith. Pwy all anghofio Nef Lloyd, ail reng frwdfrydig yr ail dîm nôl ar ddechrau’r wythdegau? Roedd Nef yn gweld ei hun yn dipyn o Allan Martin, ond does gen i fawr o atgofion o gicio llwyddiannus. A beth am Huw Phillips, brawd hun Meurig a ddaeth a maint a phrofiad i’r ail reng, neu hyd yn oed Jon Green, un o ryw chwe throedfedd a phump, oedd yn pwyso tua deg stôn? Chafodd Jon fawr o amser i brofi’i hun cyn iddo dorri neu ddatgymalu ei ysgwydd un Sadwrn yn Llandaf. Gwelwyd mohono eto, na’r crys ‘roedd e’n gwisgo ar y pryd, os dwi’n cofio’n iawn! Yn fwy diweddar, cafwyd cyfraniadau gan Chris Jones, ac yn fwy byth, gan Rhys Lloyd, a dderbyniodd gyfrifoldeb capteiniaeth yr ail dim am ddau dymor. Byddai Rhys yn un arall fyddai’n estyn ei gyfraniad at fod yn gyfrifol am y tîm criced am dymhorau maith.
Ond wrth feddwl am lenwi’r ail reng yn y tîm dychmygol hwn, mae un gŵr yn sefyll mas, ac un arall yn mynd i fod yno oherwydd ein cryfder yn y rheng ôl, a’r ffaith y gallai chwarae mewn unrhyw safle’n llwyddiannus. Pan dderbyniodd Rhidian capteiniaeth y Clwb yn y Nawdegau cynnar, fe aeth ati i geisio rhoi hwb i’r chwaraewyr drwy ddenu aelod newydd i’r Clwb. Fyddwn i byth wedi mynd ati a’r un faint o ymdrech. Ei brif darged ar y pryd oedd Neil Cole, a oedd yn chwarae dros Landaf. Doedd dim rhyw lawer gyda’r Clwb i’w gynnig heblaw am ysbryd da, a dull agored o chwarae’r gêm. Rwy’n cofio ymarfer ar y pryd drwy’r haf yn bendant y byddai Neil yn diflannu nôl i Landaf wrth i fis Medi gyrraedd. Yn wir, wrth chwarae criced dros y Clwb, rwy’n cofio gweld Neil yn ymarfer efo Llandaf, ac felly doedd y gobeithion ddim yn uchel iawn. Ar y pryd, do’n i ddim yn poeni rhyw lawer – os oedd Neil am aros efo Llandaf, doedd hynny ddim yn broblem. Roedd y Clwb yn fwy nag unrhyw unigolyn.
Diolch i’r drefn, fe ludiodd Rhidian at ei dasg, ac fe ymunodd Neil a’r Clwb. Oddi ar hynny, bu neb a mwy o effaith ar y Clwb, ac edmygwyd neb cymaint gan ei gydchwaraewyr. Roedd ei gemau cynta’n reit ddiddorol. Bu gem yn erbyn Llanrumney lan yn Nhrelái, ac, yn llythrennol, munudau fewn i’r gêm, fe syrthiodd un o’u chwaraewyr nhw ar ochr anghywir sgarmes. Tra roedd y gweddill ohonom yn camu’n ofalus rownd y boi, roedd Neil wrthi’n dawnsio ar ei gefn yn dysgu gwers go dda iddo am fod ar yr ochr anghywir. Ddychmyga’i na welodd unrhyw un o chwaraewyr Llanrumney y fath beth yn eu herbyn ni o’r blaen, ond i fod yn deg, er iddo dderbyn llond ceg gan y dyfarnwr, roedd e wedi llwyddo gwneud ei bwynt.
Fel ail reng, ei neidio yn y leiniau fyddai rhywun yn disgwyl i fod yn bwysig. Ond yn y dyddiau o godi yn y lein, doedd e ddim mor effeithiol. Fel dyn mawr, fyddai neb yn mwynhau’i godi fe am brynhawn. Felly fe newidiodd ei gyfrifoldeb i fod yn brif godwr yn y lein, a defnyddiwyd Dyfrig Parri fel neidiwr. Rwy’n siwr fod Dyfrig yn gwerthfawrogi pwysigrwydd a chyfraniad Neil i’w droi’n arwr y leiniau. Yn y sgrymiau hefyd, am y tro cyntaf am sbel, roedd ail reng yn ein plith oedd a’r pwysau yn ogystal â’r dechneg i gyfrannu’n fawr yn yr elfen yma o’r gêm. Dim ond ar ôl imi orffen chwarae y cefais weld cymaint o farc y gallai fod wedi gwneud petai wedi cael cyfle yn y rheng ôl hefyd. Rwy’n cofio gwylio gem yn Nhondu, gyda Neil fel wythwr, ac roedd hi’n ddiddorol gweld pa mor dda’r oedd yn darllen y gêm, a chymaint yr oedd yn amseru ei bas o gefn y sgrym yn berffaith bob tro.
Oddi ar y cae, roedd ei gyfraniad yn anferth hefyd. Roedd e’n un o’r rhai hynny oedd yn mynnu fod pawb, yn enwedig y bois ifanc yn mynychu’r cameo wedi pob gem, ac fe fyddai’n arwain y gemau. Cafwyd un noson gofiadwy mewn tafarn yn St. Mellons wrth ddod nôl o Gasnewydd, lle’r estynnwyd dathliadau’r prynhawn am awr neu ddwy cyn i bawb ddiflannu yn eu cyfeiriadau’i hunain. Roedd e hefyd yn un o’r mwyaf ymroddedig wrth ymarfer. Roedd yn ymarfer yn gyson ar ei ben ei hun, ac yn sicr ar nosweithiau ymarfer y Clwb. Canlyniad hyn oedd lefel o ffitrwydd lawer yn uwch na’i gydchwaraewyr. Wedi tymor neu ddwy, fe dderbyniodd swydd hyfforddi’r Clwb, ac unwaith eto, roedd ei ymroddiad yn ddigon i sicrhau presenoldeb rhai eraill.
Neil yw cymeriad mwyaf pwysig y Clwb dros y saith neu wyth tymor diwethaf, a does dim dwywaith y byddai ei bresenoldeb yn y tîm dychmygol hwn yn werthfawr ar ac oddi ar y cae.
Mae mynd ati i ddewis rheng ôl i’r tîm yn waith ddigon caled fel y mae, ac felly rwy’n caniatáu fy hunan i ddewis Gareth Hall yn yr ail reng yn hytrach nag unrhyw le arall. Y gwirionedd yw y gallai Gareth fod wedi ei ddewis mewn rhyw hanner dwsin o safleoedd gwahanol, naill ai yn y blaenwyr neu’r cefnwyr, ond mae’n haws ei ddewis yn y safle hwn.
Fe gyrhaeddodd Gareth y Clwb yn fachgen ifanc yn dilyn ei frawd i glwb o oedolion. Ro’n i wedi clywed amdano fel un o arwyr tîm ysgol Glantaf a gurodd Llanhari ar ôl imi adael, ond cefais i ddim cyfle i gwrdd ag e nes iddo gael ei ddewis i chwarae mewn gem gwpan yn Nhremorfa yn erbyn St. Albans. Roedd e wedi bod ar daith efo’r Clwb flwyddyn ynghynt, ac wedi creu cryn argraff ar y chwaraewyr hun, ac felly pan ddaeth nôl o’r coleg y Pasg canlynol, fe’i taflwyd yn syth fewn i’r gêm fawr. Mae’n anodd credu nawr ‘mod i wedi siomi gydag e’r noson honno – eto, efallai ‘mod i wedi disgwyl gormod. Dros y deng mlynedd nesa’ byddai Gareth yn profi ei safon canwaith a mwy.
Pan ddaeth yn ôl o’r coleg, fe aeth yn syth fewn i’r rheng ôl, ac fe amlygodd hi fod chwaraewr arbennig yn ein plith. Roedd y cyfuniad rhyngddo fe a John Hayes yn berffaith, a byddai’r ddau yn sbarduno’i gilydd i chwarae’n well. Rwy’n cofio un adeg lle’r oedd rhyw hen ŵr, heb gysylltiad â’r Clwb, yn dod lawr i wylio’n gemau yn gyson ar ddydd Sadwrn oherwydd ei fod yn mwynhau a gwerthfawrogi safon a natur ein chwarae. Gareth a John oedd yn benna’ gyfrifol am hyn. Roedd yr hyder a ddaeth i’r tîm oddiwrth y ddau ohonynt yn anferth. Petai’r gwrthwynebwyr yn cicio’n hir, fe fydden yn disgwyl gweld Gareth yn rhedeg nôl i gynnig help i Eryl, neu pwy bynnag oedd yn gefnwr, a ro’n ni’n gwbl gyfforddus i’w weld yn wrth ymosod o’n dwy ar hugain. Roedden ni’n gwbl hyderus y byddai ei awydd i wrth ymosod yn llwyddiannus. Roedd yr un peth yn digwydd wrth inni dderbyn ail-ddechrau chwarae. Byddai’r blaenwyr tynn yn derbyn y bel, ac os oedd hanner cyfle, byddai Gareth yn mynnu derbyn pêl gyflym yn safle’r maswr er mwyn gwrth ymosod. Ar ddyddiau da, pan oedd y math yma o chwarae yn llwyddiannus, roedd hi’n bleser i fod yn rhan o’r tîm, ac mae’n siwr gen i ei bod hi’n bleser i wylio hefyd.
Wrth ystyried hyn, mae’n anodd credu na enillodd Gareth erioed, i’m cof i, wobr chwaraewr y flwyddyn. Dyna gyd gallai ddychmygu yw ein bod ni wedi dewis chwaraewyr am eu cysondeb yn ystod tymor. Roedd Gareth, bron heb os, yn cael rhyw Sabbatical bob tymor, lle byddai’n colli’r awydd i chwarae, a byddai rhyw anafiadau yn codi o rywle. Ar adegau fel hyn, fe fyddai’n dewis pa gemau ‘roedd am ei chwarae, a pha rai ‘roedd am eu methu. Fe fyddai’n hawdd dweud nad oedd am chwarae rhai gemau oherwydd ofn, ac i raddau fe fyddai hyn yn ddealladwy. Ond y gwirionedd yw mai mewn gemau fel hyn, “when the chips were down” byddai Gareth gan amla’n codi ei gem i safon uwch fyth. Galla’i ‘mond meddwl bod y sabbaticals hyn yn dod oherwydd ei ddiflastod a’r gêm o bryd i’w gilydd.
Yr awydd i gael newid bach, dwi’n meddwl, oedd yn gyfrifol iddo benderfynu newid o fod yn flaenasgellwr i fod yn ganolwr. Er mod i ar y pryd yn meddwl bod hyn yn wastraff arno, ro’n i hefyd yn gwybod fod hyn yn ffordd dda o gadw ei ddiddordeb yn y gêm, ac i roi incentive bach arall iddo – i fod yn onest ro’n i’n falch i’w weld yn chwarae yn unman yn y crys coch. Ac wrth gwrs, does dim angen dweud faint o lwyddiant ‘roedd yno. Cafwyd gem yn gynnar un tymor yn erbyn Llanrumney lan yn Nhrelái, pan oedd Llanrumney ar eu gorau. O fewn rhyw chwarter awr o’r dechrau, roedd Gareth wedi bylchu o leia’ teirgwaith ac wedi creu ceisiadau i Angus ac iddo fe. Roedd ganddo’r ddawn i guro dyn, ac wrth gwrs y cyflymder i fanteisio ar hyn, ond hefyd y weledigaeth i amseru’i bas yn berffaith.

Roedd chwarae gyda Gareth yn bleser, ac fe allwn i sgrifennu amdano’n hir. Fe allai fod wedi ei ddewis yn y tîm hwn mewn unrhyw un o ryw bum safle, ond rwy’n caniatáu fy hun i’w ddewis yn yr ail reng oherwydd bod hyn yn gwneud gweddill y tîm yn haws. Fe chwaraewyd un gêm gwpan yn erbyn Rogerstone, lle’r oedd pethau wedi bod yn dynn trwy gydol y gêm, er bod ein cefnwyr ni lawer cryfach na’i rhai nhw. Rhan o’r rheswm oedd nad oeddem wedi llwyddo sicrhau ein pêl ein hunain yn y leiniau. Wrth agosáu at ddiwedd y gêm, cafwyd lein wrth ymyl ein llinell cais, ac fe symudodd Gareth yn bwrpasol iawn o gefn i ganol y lein, a galw i’r bel gael ei daflu yno. Daeth y bel fewn, ac wrth gwrs, fe hedfanodd Gareth i ddal y bel a dwy law – y daliad gorau’r diwrnod hwnnw, ac un a adawodd inni glirio’r bêl yn llwyddiannus, ac inni sicrhau buddugoliaeth. Mae hyn yn helpu dangos y byddai ei gyfraniad yn yr ail reng cystal â neb.
Felly, gyda’r pum blaen allan o’r ffordd, rhaid mynd ati i edrych ar y rheng ôl. Hwn, efallai yw’r dasg fwyaf anodd wrth ddewis tîm, ac mae’n anodd gwybod lle i ddechrau. Un o gymeriadau mwyaf poblogaidd y tîm nôl yn yr wythdegau oedd Dai Lewis. Roedd gen i lawer i fod yn ddiolchgar i Dai. Wedi cael y “drop” o’r tîm cyntaf, roedd yr ail dîm yn chwarae lan yn erbyn Cardiff HSOB(fel ei galwyd ar y pryd). Roedd gem y tîm cyntaf wedi ei ohirio, ac felly roedd sawl un o’r tîm cyntaf yno’n gwylio, ac roedd hi’n gyfle imi brofi pwynt. Roedd pethau’n ddigon agos, ac roedd sawl ergyd at y pyst wedi mynd yn wastraff wrth i Nef Lloyd lanio’r bel yn agosach i’r Tâf na’r pyst. Fel boi ifanc, doedd gen i ddim yr hyder i ddweud mod i wedi cicio chydig yn yr ysgol, ac felly cefais air byr yng nghlust Dai i awgrymu’i bod hi’n bosib y byddwn i’n fwy llwyddiannus. Pan ddaeth y cyfle nesa’ at y pyst, Dai oedd y cynta’ i’r bel, yn gwaeddi rhywbeth tebyg i “Rhowch gyfle i’r crwt ifanc”. Fe aeth hynny’n llwyddiannus, ac fe lwyddais berswadio rai o’r tîm cyntaf fod gen i rywbeth i’w gynnig i’r tîm.
Fel chwaraewr, roedd Dai yn un o gystadleuwyr mawr y Clwb. Dim ots o sawl pwynt ro’n ni’n colli, byddai Dai wrthi’n rhoi cant y cant lan at y funud ola’. Roedd e wastad yn fy atgoffa i o Ian Kirkpatrick, y ffordd y byddai’n rhedeg a’i gefn yn syth a’i ben i fyny. Bu un gêm gofiadwy inni lan yn erbyn yr Athrofa yng Nghyncoed. Ro’n ni gyd wedi clywed sôn bod seren newydd yn chwarae yn rheng ôl yr Athrofa, Cymro ifanc o’r enw Garmon Emyr. Rhyw ddegawd yn ddiweddarach, byddai Garmon yn cynrychioli’r Clwb, ond ar y pryd roedd e’n ifanc, ac yn ei erbyn, roedd Dai, efo’i yrfa fe yn dechrau agosáu at ei ddiwedd. Efallai bod Dai yn meddwl fod ganddo rywbeth i’w brofi’r diwrnod hwnnw, ond fe chwaraeodd fel dyn gwyllt, yn cyrraedd unrhyw bêl rydd yn gyntaf. Wrth gwrs, rhan o’i fwynhad e oedd profocio Garmon. Wrth i bob sgarmes ffurfio, byddai Dai yn disgwyl am Garmon efo, “Nawr wyt ti’n cyrraedd?…dwi di bod ‘ma ers sbel” a “’o’n i ‘di clywed bo ti’n chwaraewr da, ond dw’i, yn hen ŵr, wedi cyrraedd pob bel rhydd cyn ti…” ac yn y blaen. Roedd hi’n enghraifft berffaith o natur gystadleuol Dai, ond hefyd yr hiwmor oedd yn gysylltiedig â’i gem. Roedd e’n un o’r chwaraewyr hynny ro’n i’n falch i’w gael ar fy ochr i.
Ar yr un pryd, roedd Huw Charles yn rheoli materion ar ochr dywyll y sgrym. Roedd Charlie’n fath gwahanol o chwaraewr, oedd yn annhebyg o gael ei weld a’r bel yn ei ddwylo yn carlamu canllath, ond yn fwy tebyg o’i weld ar waelod sgarmes, neu’n tacluso pêl rydd. Canlyniad hyn oedd cyd-chwarae a balans yn y rheng ôl rhyngddo fe a chwaraewyr fel John Shotton neu Huw Hall. Byddai Butchie’n derbyn digon o bêl wael o’r leiniau beth bynnag yn y dyddiau hynny, a gallai feddwl y byddai wedi gweld digon mwy yn absenoldeb Charlie. Bu’n gapten am ddau dymor, ac roedd ei fodlonrwydd i roi ei gorff ar y lein yn ysbrydoliaeth i’r gweddill ohono’ ni i wneud yr un peth.
Roedd e hefyd yn gyfrifol, i raddau, am helpu imi ymuno ag ochr gymdeithasol y clwb. Wedi un gêm, rwy’n cofio fe’n gofyn pam nad oeddwn i byth yn ymuno â’r bechgyn yn y nosweithu. Doedd dim esgus felly ond ymuno gydag e’r noson honno, ac am sawl Sadwrn wedyn. Mae’n siwr gen i ‘mod i’n dal i ddioddef o’r nosweithiau hynny, lle byddai galwyn ar ôl galwyn o Strongbow yn diflannu.
Y chwaraewr mwyaf tebyg i Charlie dros y blynyddoedd oedd Llyr Williams, un arall oedd yn ddigon hapus i weld y Glory Boys yn derbyn y clod, tra’i fod e’n ennill y bel caled ar y llawr. Anaml iawn byddai Llyr yn ymddangos y tu fas i’r asgellwr i gymryd pàs i sgorio, ond byddai’n ddigon tebyg mai fe oedd yn gyfrifol am sicrhau’r meddiant yn y lle cynta’. Mae dwy gêm yn dod i’r cof lle mae Llyr yn y cwestiwn. Chwaraewyd gem gwpan lawr yn Nash, lle’r oedd Llyr yn y rheng ôl, a’i le dan bwysau. Fel arfer roedd y rheng ôl yn gryf, gyda John, Gareth, Grundy ac yn y blaen. Cafodd Llyr y diwrnod hwnnw, un o’r gemau hynny lle mae popeth yn mynd o’i blaid. Os oedd NASH yn ymosod, byddai John er enghraifft yn hedfan allan i wylio’r asgellwr, ond heb os y diwrnod hwnnw, fe ddaethon nhw nôl fewn a rhedeg fewn i Llyr. Os oedd sgarmes, rhywsut, Llyr ddaeth allan efo’r bel. Er na alla’i fod yn siwr, fyddwn i ddim yn synnu clywed mai fe oedd yn gyfrifol am ennill rhan fwyaf o’r leiniau’r diwrnod hwnnw hefyd! I fod yn deg, dwi’n meddwl fod Llyr yn methu â chredu’i hunan sut aeth pethau’r ‘pnawn yna.

Daith yr ail atgof hefyd yn y cwpan, efallai hyd yn oed yn y rownd nesa’, pan ddaeth Hollybush i gaeau Llandaf. Roedden nhw chydig yn rhy gryf inni, ac roedd hi’n fater o amddiffyn balchder erbyn yr ail hanner. Ychydig fewn i’r ail hanner, fe enillodd Hollybush gic cosb yng nghanol y cae, ac fe benderfyno’ nhw ei rhedeg hi. Fe dderbyniodd un o’u blaenwyr nhw’r bel, ac roedd e’n mynd fel trên wrth imi sylweddoli ei fod yn dod tuag ata’i. Ro’n i jyst yn dechrau meddwl sut y gallwn i osgoi’r cawr hyn, pan ymddangosodd Llyr o mlaen i i’w daclo. Roedd hi’n sefyllfa o “irresistable force meets immovable object” ac roedd y swn wrth i’r ddau daro’u gilydd yn frawychus. Doedd hi ddim yn syndod i Llyr adael y cae, a ro’n i yn meddwl ei fod wedi derbyn anaf cas iawn. Yn ffodus, roedd e nôl ar ei draed ar ddiwedd y gêm, ac fe aeth ati i fwynhau gwylio Cymru’n chwarae’r prynhawn hynny. Fe fûm i’n ddiolchgar iddo am y penwythnos cyfan!

I’r gwrthwyneb i Charlie a Llyr, daith y Nawdegau a dau flaenasgellwr llai o faint i’r Clwb, ond yr un faint mor effeithiol. Roedd Aled Arch yn anffodus ei fod yn chwarae yn y rheng ôl, gyda safon ei gydchwaraewyr yno. Doedd ganddo mo’r maint i fynd i’r ail reng, ac felly bu’n un cyson yn yr ail dîm, ond roedd hi’n fater o gysur bod chwaraewr o’i safon i’w gael i ddod fewn pan fo’r angen. Roedd Rhys Angell yn debyg; un oedd yn gyson i’r ail dîm, ond oedd yn cyfrannu i’r tîm cyntaf pan fo’r galw. Roedd y ddau yn cynnig rhywbeth gwahanol inni, yn chwaraewyr tebycach i Neil Back na Scott Quinnell. Roedd yna rywbeth am y ddau ohonynt oedd yn sicrhau na fydden nhw’n cymryd cam yn ôl yn erbyn unrhyw un, dim ots pa mor fawr ‘on nhw. Efallai mai hyn oedd gwraidd penderfyniad Rhys i fod gyda’r cyntaf i wisgo skullcap ar ei ben tra’n chwarae.
A phwy arall felly bu yno yn y rheng ôl dros y blynyddoedd? Beth am John Shotton, y Jean-Pierre Rives o’i amser yn hedfan o gefn y sgrym? Bu sawl un yn chwarae’r rhan fwyaf o’u hamser yn yr ail dîm oherwydd safon y tîm cyntaf. Fel Aled a Rhys uchod, byddai sawl un wedi chwarae’n fwy i’r tîm cyntaf mewn unrhyw safle arall. Ymysg rhain, roedd Dai Boobier, Leighton James a Panda(Andrew Evans?). Roedd eraill oedd yn rhai cyson yn y tîm cyntaf, ond oedd yn mynd o gwmpas ei gwaith yn dawel ac yn bwrpasol, heb unrhyw beth ffansi. Ymysg y rhai hyn roedd Rhidian John, oedd fel veteran pan ymunais i a’r Clwb, ac roedd yn dal i fynd rhyw ddegawd yn ddiweddarach. Roedd Rhidian yn esiampl inni gyd o rywun oedd yn mynnu cadw’n ffit er mwyn cadw ‘mlaen i chwarae. A beth am Gareth Wilkins, un o’r rhai mwyaf cyson, ond un o’r tawelaf ar y cae? Roedd Gareth yn un o’r rhai fyddai’n amlygu ei hun ar daith gyda’i Wheel of Fortune. Y ffaith nodedig arall am Gareth oedd na fu’n berchennog ar fag chwaraeon trwy gydol ei yrfa a’r clwb. Byddai’n cyrraedd y Clwb â bag Tesco dan ei fraich, a’i fŵts yn syrthio mas o’r top. Os oedd hi’n ddiwrnod arbennig, roedd hi’n bosib ei weld yn cyrraedd a bag M+S, ond doedd hyn ddim yn aml iawn.
Gareth Hall, efallai, oedd y chwaraewr mwyaf creadigol imi weld dros y Clwb, ac efallai mai Richard Jenkins oedd yr un agosaf i steil Gareth. Fe fyddwn i wedi hoffi gweld Richard nôl ar ddiwedd y Saithdegau, a’r sôn oedd ei fod yn arbennig. Erbyn imi chwarae yn ei gwmni, roedd y cyflymder wedi mynd ychydig, ond roedd ei ddealltwriaeth o’r gêm yn berffaith. Yn debyg iawn i Gareth, roedd e’n un o’r rhai oedd yn gwybod beth i’w wneud ar yr adeg iawn – os oedd angen cicio, yna byddai’n cicio, os oedd angen pàs, byddai’n pasio. Yr atgof arall sy’ gen i yw’r ffaith ei fod yn teimio pethau’n dda. Doedd e ddim yn un mawr ac felly roedd e wedi deall fod “pass before contact” yn mynd i wneud mwy o les iddo na gyrru fewn i’r gwrthwynebwyr. Fel canlyniad, mae’r atgof ohono’n rhyddhau’r bel ar yr eiliad perffaith yn glir.

Yn fwy diweddar, bu sawl un arall yn llenwi bylchau’r rheng ôl. Bu Garmon Emyr efo ni am ryw dymor, a phan fo Garmon yn y mwd iawn, doedd neb gwell yn cario’r bel ‘mlaen. Roedd Andy Edwards, un o’r rhai mwyaf ffit, sy’n dal i fod o gwmpas, a Rob Thomas, neu Rob Cathays inni gyd wedi iddo ymuno â’r Clwb o Cathays. Un arall sy’n dal i fod o gwmpas yw Dave Burrows, neu Eifion Green a fu efo ni am dymor cyn diflannu i ganolbarth Cymru. Ac wedyn, roedd Chrissy Boy. Dysgais i rioed ei enw cywir(roedd e’n edrych fel Chris Evans), ond rwy’n cofio amdano gan iddo sgorio’r cais diwethaf imi gyfrannu iddi cyn imi orffen chwarae braidd yn fwy sydyn nag o’n i wedi bwriadu.
Byddai sawl un o’r chwaraewyr uchod wedi dod â rhywbeth i’m tîm dychmygol i, ac roedd eu cyfraniadau dros y blynyddoedd yn angenrheidiol ac yn werthfawr i gadw’r Clwb ar ei draed. Ond wedi ystyried yr holl chwaraewyr hyn, roedd dewis rheng ôl yn ddigon syml.
Rwy’ wedi crynhoi cyfraniad John Hayes yn barod, a does dim rhyw lawer yn fwy i’w ddweud. Fe allai fod wedi chwarae yn unrhyw safle yn y rheng ôl, yn cyfuno gweledigaeth, cryfder a chyflymder i greu blaenasgellwr perffaith. Roedd ganddo’r un peth oedd yn gwneud iddo ddisgleirio’n fwy byth, sef ei awydd i ennill. Doedd John ddim yn un oedd yn derbyn dod yn ail mewn unrhyw beth ac roedd e’n gystadleuol o’r eiliad cyntaf i’r ola’. Roedd hi’n beth cyson i glywed y waedd rwystredig ar yr adegau pryn hynny pan fyddai’n gollwng y bel, neu’n methu tacl. Er hyn, roedd y rhwystredigaeth hon wedi’i anelu tuag ata fe’i hunan – dw’i byth yn ei gofio’n codi’i lais at unrhyw un arall yn y tîm.
Ar ochr arall y sgrym, byddwn yn dewis yr Hall Williams hŷn, sef Huw. Pan ail-ymunodd Huw a’r Clwb, roedd e’n dal i fod yn asgellwr. Rwy’n cofio’i gem gynta nôl, yn erbyn St. Josephs, Casnewydd, ac fe groesodd am o leia’ dwy gais y prynhawn hwnnw. Roedd bechgyn y clwb wedi bod yn disgwyl yn fawr am ailymddangosiad Huw, ac roedd hi’n amlwg wedi’r gêm hyn paham. Dwi ddim yn siwr pwy oedd a’r syniad cyntaf, ond fe benderfynwyd symud Huw o’r asgell i’r rheng ôl, ac o fewn dim, fe brofodd hynny’n syniad perffaith. Fel asgellwr, roedd Huw yn gyflym, ond hefyd yn rhedwr cryf, ond i fod yn deg, roedd yn rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n gallu rhoi’r bel yn ei ddwylo. Fel blaenasgellwr, doedd dim angen i unrhyw un geisio rhoi’r bel yn ei ddwylo – roedd e’n ddigon cyflym, ac roedd ganddo ddigon o ymennydd rygbi i sicrhau ei fod yn y lle iawn er mwyn derbyn y bel yn gyson. Roedd y cyfuniad hwn yn un perffaith i’w galluogi i hedfan o fôn y sgrym i roi cymorth inni ar ein pêl ein hunain, neu i ddwyn pêl y gwrthwynebwyr. Roedd ei gyflymder yn ei ganiatáu i fod yn “flyer” o flaenasgellwr, ond roedd ei faint a’i gryfder yn sicrhau ei fod yn gallu torri tacl hefyd.
Mae’n anodd ceisio cymharu Huw ag unrhyw chwaraewr presennol – efallai mai Colin Charvis yw’r agosa’ sy’n dod i’r meddwl(fel chwaraewr hynny yw) Fe ddatblygodd yn gapten fyddai eto’n arwain trwy esiampl, a ro’n ni siomedig pan adawodd Caerdydd eto ymhen tymor neu ddwy. Byddai wedi gwneud hyfforddwr da wedi i’w ddyddiau chwarae orffen. Yn ogystal â hyn, ac fel sawl un arall ymhlith chwaraewyr y Clwb, roedd e hefyd yn foi neis oedd ag ochr gystadleuol iddo.
Ac felly at wythwr i chwarae rhwng John a Huw. Dewis digon hawdd ar y cyfan, er imi orfod troi nghof nôl sbel i’w gofio’n chwarae. Roedd Ieuan Lloyd yn wythwr yn fy nhymor cyntaf a’r Clwb, a dim ond am un tymor y cefais y pleser o chwarae gydag e, cyn i anaf i’w ysgwydd ddod â diwedd cynnar i’w yrfa. Efallai mai’r peth gwaetha’ am y diweddglo cynnar i’w yrfa oedd y ffaith iddo dderbyn rôl fel hyfforddwr y Clwb. Ar y pryd, heb fod yn ugain oed, ro’n i’n eitha’ ffit, ond ro’n i’n teimlo’n flin dros rai o’r bechgyn hŷn. Doedd hi’n fawr o syndod i Wyn Lewis ei enwi’n Dr. Mengele. Ar gaeau Llandaf, uwchben y cwrs golff tuag at ysgol Howells, mae ‘na riw serth. Ar ddiwedd y sesiynau canol haf, cyn i’r tymor ddechrau, byddai Ieuan yn ein harwain ni yno, ac yn hytrach na gofyn inni redeg lan a lawr y rhiw, byddai’n mynnu’n bod ni’n cario bois ar ein cefnau ni tra’n bod ni wrthi. Byddai’r esgusodion yn llifo cyn cerdded tuag at y rhiw yna.
Ond nid fel hyfforddwr y dylwn ni gofio Ieuan. Fel chwaraewr, welais i neb oedd yn gallu codi o gefn y sgrym a rhedeg trwy bobl yn yr un ffordd. Fel wythwr, byddai John Hayes yn defnyddio’i gyflymdra yn ogystal â’i gryfder i ennill tir. Roedd Ieuan yn fwy direct yn ei steil, ac yn llwyddiannus fel hyn hefyd. Roedd e wedi meistroli rhoi ei ysgwydd yn isel fel nad oedd amddiffynwyr yn gallu ei lorio, ac roedd hi’n bleser godi o sgrym i’w weld yn ennill tir gyda dau neu dri pherson ar ei gefn. O’r safbwynt hyn, efallai y gallwn ei gymharu â Scott Quinnell presennol, er nad oedd Ieuan yn cario’r un faint o bwysau. Un elfen arall lle mae chwarae’r ddau hwn yn wahanol yw ei gyfraniad i’r leiniau. Roedd Ieuan yn feistr wrth gefn y lein, yn y dyddiau pan nad oedd neb yn codi. Roedd e wedi chwarae’n hir i werthfawrogi pa mor fuddiol oedd defnyddio’r inside arm, ac roedd hyn, gyda thaflu Brian yn ffordd dda inni sicrhau ein pêl yn reit gyson.
Os am gymryd y tîm yma o ddifri, byddai un cyfraniad pwysig efo Ieuan, sef “edrych ar ôl” rhai o’i gydchwaraewyr. Gyda rhai o’r pretty boys fyddai’n rhedeg yn bert efo’r bel, byddai presenoldeb Ieuan yn sicrhau na fyddai neb yn cymryd gormod o fantais gorfforol. Roedd e’n un o’r rhai hynny oedd yn benderfynol o sefyll ei dir dim ots beth oedd yn dod tuag ato.
Cyn edrych at y cefnwyr, beth am air bach am yr “all-rounders” sy wedi bod o gwmpas; y chwaraewyr na allai’r Clwb fod wedi cario ‘mlaen hebddynt. Beth am rywun fel Geraint Roberts, neu Skip i bawb? Rwy’n cofio cwrdd â Geraint cyntaf ar bnawn Sadwrn yn gwylio cystadleuaeth 7 bob ochr yn Morganstown. Ro’n i’n hanner meddwl ar y pryd ei fod yn dad i un o’r chwaraewyr newydd. Wyddwn i ddim ar y pryd faint o gyfraniad y byddai’n gwneud fel chwaraewr a threfnwr dros y blynyddoedd i ddod. Bydd y rhan fwyaf yn ei gofio fel trefnydd y Vets am rai tymhorau, neu fel capten yr ail dîm. Fy atgof i ohono yw o un oedd yn fodlon chwarae yn unman os oedd hynny’n caniatáu gem i’w chwarae. Wrth gwrs, efo ni, roedd hynny yn meddwl chwarae prop, a bu wrthi yn gwneud hynny am dymhorau. Hyd yn oed ar ôl imi orffen chwarae, roedd e’n dal i gynnig ei hun i’r ail dîm os oedd prinder.
Ond imi yn bersonol, daith ei sacrifice fwyaf mewn gem yn erbyn Llanrumney. Roedd hi wedi bod yn dymor anodd o safbwynt rheng blaen. Roedd Dai wedi diflannu i Aber am flwyddyn, ac felly roedd hi’n fater o Kevin plus unrhyw un posib. Ond ar y diwrnod hwn, ar ddiwedd tymor yn Nhremorfa, doedd Kevin ddim ar gael a doedd neb arall o gwmpas chwaith. Roedd yr optiwn o ganslo’r gêm, ond roedd hi’n gêm gynghrair, a doedd neb yn siwr be’ fyddai’r gosb. Yn ogystal â hyn, roedd Llanrumney angen buddugoliaeth i symud fyny i’r Glamorgan League. Doedd pethau ddim yn argoeli’n dda.
Felly aed ati i ffonio’r ddau “last resort” props, Geraint, ac un arall o’r “all-rounders” ffyddlon, Clive Waldron. Roedd Clive yn un arall o’r flanker/second row if you’re desperate/prop if it means the game goes ahead, un arall o’r bois poblogaidd na fyddai byth yn ymarfer, ond oedd yn werth galwad ffôn ar y funud ola. Byddai cyfraniad Clive i’r Clwb yn estyn at gyfraniad ariannol yn ddiweddarach, er mwyn noddi’r crysau ag enw Lluniau Lliw. Er mawr syndod, roedd y ddau ar gael a phenderfynwyd chwarae’r gêm yn hytrach na chanslo, er nad oedd rhyw obaith mawr o ennill.
Wrth inni dwymo fyny, cytunwyd bod yn rhaid diogelu ein sgrym cymaint â phosib. Rwy’n cofio cerdded lan a lawr i siarad â phawb fel unigolion, yn mynnu bod dim camgymeriadau mân yn cael ei gwneud. No knock-ons, all lineout throws straight, ac yn y blaen, dyna oedd y bwriad. Fe enillwyd y toss, ac roedd pethau’n edrych yn dda wrth baratoi i ddechrau. Fe chwibanodd y dyfarnwr, ac rwy’n cofio’n glir, Rhidian yn cicio bant, a’r bel yn hedfan allan o’r chwarae ar ei union. “We’ll have a scrum on halfway, Ref” daith y floedd, ac o fewn rhyw 30 eiliad ro’n ni’n sgrymio am y tro cyntaf. Roedd y 79 munud nesa’n rhai hir, ond wrth gwrs, glywais i mo Geraint na Clive yn cwyno unwaith.
Un tebyg iawn i’r ddau yma oedd John Cronin. John, heb os, yw’r prop tala’ imi gofio yn ystod fy ngyrfa, un eto a ddylai fod wedi bod yn ail reng ond a ddatblygodd yn brop cyson wedi cytuno iddi unwaith. Un tebyg eto oedd Paul Thomas, er bod gan Paul mwy o siâp prop efallai. Roedd Paul yn un o’r rhai pryn hynny oedd yn chwarae dros y Clwb pan ddechreuais i chwarae oedd yn dal i fod yno wrth imi orffen. Roedd natur Paul yn un caredig iawn, ac mae’n anodd credu nawr imi’i weld e’n colli ei dymer unwaith sbel yn ôl wrth chwarae i’r ail dîm – dim byd yn ormodol cofiwch, ond yn sicr roedd e wedi gwylltio. Estynnwyd gyrfa Paul rhywfaint wedi iddo benderfynu dyfarnu am dymor. Galla’i ‘mond dychmygu beth oedd yn mynd trwy ei feddwl wrth geisio cadw trefn ar rai o fois Cardiff and District. Doedd hi’n fawr o syndod iddo ail-gydio yn ei fŵts i chwarae eto. Tua’r un adeg roedd Chris Pickles yn chwarae. Dwi ddim yn siwr pa safle ‘roedd Chris fod i chwarae, mewnwr efallai, ond roedd e’n un arall o’r rhai bodlon hynny fyddai’n chwarae yn y rheng ôl neu’r rheng flaen os oedd yn rhaid.
Yn fwy diweddar, daith chwaraewyr amryddawn o safon i’n plith ni. Roedd Martin Grundy wedi ymuno gyda bois Clwb Ifor Bach, ac roedd ei gyfraniad cymaint ag unrhyw un o’r crowd hynny. Roedd e’n flaenasgellwr o’i natur, ond wrth i’r blynyddoedd mynd yn eu blaen, fe ddechreuodd weithio’i ffordd ymhellach fyny’r sgrym. Ro’n i wastad yn teimlo mai un o’m rhinweddau i oedd ‘mod i’n ddigon hapus i roi ‘nghorff ar y lein i’r Clwb – ro’n i’n reit falch o hyn -ond roedd ymroddiad Martin yn fwy byth. Mae’r atgof ohono ar y llawr yn derbyn “shoeing” go dda gan flaenwyr BP yn glir yn y cof. “All in a day’s work” byddai ymateb Martin. Ond fel cyfraniad i’r Clwb, yr atgof mwya’ yw hynny ohono’n eistedd lawr efo fi a chapten y pryd, Meurig efallai, yn cynnig propio am weddill ei yrfa oherwydd ei fod yn sylweddoli fod yr ail reng a’r rheng ôl yn gryf, a bod gwendid yn y rheng flaen. Cafodd gem neu ddwy yno, ac roedd e jyst a bod yn dechrau ymdopi pan symudodd a’i gwaith i America.
Un arall a symudodd, fel Huw Hall, o’r cefnwyr i’r blaenwyr oedd Dyfrig Parri. Roedd Dyfrig wedi bod yn ganolwr da cyn iddo anafu’n gâs tra’n ymarfer ar gaeau Llandaf. Roedd hi’n anaf reit debyg, i’w weld, a hynny ddioddefodd Robin Ogwen. Y sôn oedd bod gyrfa Dyfrig ar ben, a bu allan o’r gêm am flwyddyn neu ddwy. Pan ail ymunodd a’r Clwb, rywsut neu’i gilydd cafodd ei ddewis i chwarae yn y rheng ôl ar gyfer gem yn erbyn Yr Eglwys Newydd ar Gaedelyn. Rwy’n cofio’n glir y prawf cynta’ imi roi iddo. Imi, y disgwyl oedd na fyddai ganddo, fel cefnwr yn ôl ei natur, y dewrder i fod yn flaenwr da. Felly, wedi i dafliad i’r lein hedfan uwch ein pennau, Dyfrig oedd yn agosáu at y bel cyntaf, wrth i un o’u cefnwyr nhw ymestyn i gicio’r bel rhydd. “Cwymp arni” oedd fy ngorchymyn. Unwaith imi’i weld yn taflu’i hyn ar y bel rhydd dan draed ei chwaraewr nhw, ro’n i’n gwybod ar unwaith fod blaenwr teilwng wedi dod i’n plith. Pan ganiatawyd codi yn y leiniau’n, fe ddaeth Dyfrig yn aelod amlwg o’r pac, fel un oedd yn ddigon ysgafn i’w godi ond oedd a dwylo digon da i drafod y bel a sicrhau meddiant da inni.
Am rywun a oedd a’i yrfa ar ben rhyw ddegawd yn ôl, mae e wedi parhau yn arbennig, ac mae e’n dal i gyfrannu hyd heddiw. Yn wir, galla’i mond meddwl amdano fe a Dafydd Emyr a gynrychiolodd y Clwb yn yr wythdegau a hefyd yn y flwyddyn 2000. Y gwahaniaeth yw na chwaraeodd Dafydd o gwbl drwy’r nawdegau! Trwy gydol yr amser hwn, sgwn i sawl pâr o shorts y mai wedi distrywio?
Un arall a fu ar y cyffiniau drwy’r tymhorau diweddar yw Rob Dayton-Jones, a fu yno os oedd yn rhaid. Daith ei gyfle mawr pan aeth y Clwb i Borthmadog ar gyfer ei gem cwpan. Ro’n ni’n fyr o chwaraewyr, a Rob oedd yr unig eilydd. Roedd e’n bownd o chwarae felly. Wrth yr ymyl, roedd Vaseline dros ei wyneb, a thâp rownd ei ben wrth iddo gadw’n dwym. A ddaeth ei gyfle? Na. Roedd hi’n un o’r diwrnodau pryn hynny pan na anafwyd neb, ac fe aeth ei gyfle heibio.
Ond os am chwilio am y chwaraewr mwyaf versatile a thalentog, does dim angen chwilio ‘mhellach nag Alun Coch(Evans?) Y tro cyntaf imi gwrdd ag Alun oedd wrth ymarfer yn Llys Talybont. Roedd Alun yn ymarfer, ond doedd e ddim yn chwarae. Ro’n i, fel unigolyn, yn ymarfer yn dawel ac yn “mynd trwy’r motions”, yn enwedig gyda’r gemau semi-opposed ar y diwedd. Wedi’r cyfan, roedd hi’n gallu bod yn oer ac yn wlyb yno. Ond roedd Alun yn cymryd pethau’n ddifrifol iawn, yn ymosod a thaclo’n gadarn iawn. Doedd fy argraff gyntaf ohono ddim yn bositif iawn felly.
Ond fe newidiodd hyn wedi iddo ddechrau chwarae dros y clwb. Roedd yn amlwg ei fod yn chwaraewr o safon, a’r sôn oedd ei fod wedi chwarae dros ysgolion Cymru, neu rywbeth tebyg. Roedd hi’n beth da hefyd ar y pryd ei fod yn fwy na bodlon, efallai’n hapusach, i chwarae i’r ail dîm. O beth i’w gilydd, fe ddechreuodd chwarae’n fwy a mwy i’r tîm cyntaf, ac yn fwy a mwy mewn safleoedd gwahanol. Doedd hi ddim yn syndod i’w weld yn chwarae fel asgellwr i’r tîm cyntaf ar un Sadwrn, ac fel prop i’r ail dîm yr wythnos wedyn, neu’n flaenasgellwr un wythnos, ac yn ganolwr y nesa’. Roedd ei gyfraniad fel hyn yn anferth, a byddai’n cyfrannu’n hael i’r naill dim neu’r llall. A’r atgof fydd gan y rhan fwyaf ohono’ ni ohono ar y cae, fydd hynny ohono’n dal y bel. Petai rhywun yn dyfeisio one-handed rugby, byddai Alun yn gapten ar ei wlad. Rwy’n siwr ei fod yn chwarae gyda’r ffilosoffi o “why use two hands when one will do”.
Felly, ‘mlaen a ni at y glory boys, y cefnwyr. I fod yn deg, ac er ei fod yn mynd yn groes i’r graen i’w ddweud, bu sawl adeg pan enillwyd gemau y dylid fod wedi’u colli oherwydd safon y cefnwyr. Roedd pob tîm yn yr ardal yn gwerthfawrogi ein bod ni’n wrthwynebwyr peryglus dim ots pa mor fach a gwan oedd y pac oherwydd y tebygrwydd y gallai’r cefnwyr greu rhywbeth o ddim. Roedd hi’n bleser cael eu gwylio’n trafod y bel, nid dim ond i ni fel blaenwyr, ond mae’n siwr i unrhyw un oedd yn gwylio o ymyl y cae. Roedd hi’n fater o falchder i ni gyd fod enw’r Clwb yn cael ei gysylltu â rygbi da trwy’r brifddinas ac ymhellach. Wedi imi orffen chwarae, fe drafodais efo hyfforddwr Caerau Ely safonau’r ddau dîm, a’i farn e oedd petai ei bac e wedi chwarae gyda’n cefnwyr ni, byddai’r tîm wedi bod mor gryf ag unrhyw dim arall yng Nghymru ar y lefel hon. Gallwn i ddim anghytuno, er nad o’n i’n awyddus iawn i roi go arni!
Ac felly pwy oedd y rhai oedd yn cysylltu’r paciau gwan efo’r bacs cryf. Wrth imi ddechrau ‘da’r Clwb, roedd Huw Davies, Butchie’n, gapten ac yn fewnwr. Asgellwr oedd Butchie yn bennaf, oedd wedi datblygu yn fewnwr, a byddai’n symud nôl i’r asgell yn ddiweddarach yn ei yrfa. Ei brif rinweddau oedd ei gyflymder, a’i barodrwydd i dderbyn ei fod yn debyg o dderbyn digon o bêl wael. Roedd y ffaith ei fod yn adnabod steil y Clwb yn fantais iddo. Byddai mewnwyr eraill yn ymuno dros y tymhorau, yn disgwyl i bob lein cael ei gymryd a dwy law, cyn ffurfio sgarmes symudol i ennill rhagor o dir. Roedd Butchie’n fwy realistig, ac yn gwybod y byddai’n ffodus i dderbyn tapped ball wrth ei sodlau, gyda blaenasgellwr yn ei dargedu. Daith ei foment fawr lawr yn Nhregaron, wrth iddo dorri’n rhydd a sgorio o bell.

Wrth i’w yrfa ddirwyn i ben, cefais y fraint o fod yn gapten ar y clwb tra’i fod yn hyfforddi am ddau dymor, ac roedd ei bresenoldeb yn holl bwysig wrth inni fynd trwy gyfnod o newid mawr. Roedd e’n dal i chwarae ar brydiau’r adeg hyn, ac fe gymerodd y cam mawr o ffurfio tîm y CROCCs, a’i rhedeg am y tymhorau cyntaf. Roedd hi’n drist felly i’w yrfa ddod i ben unwaith ac am byth, gydag anaf cas tra’n cynrychioli’r CROCCs.
Wrth i Butchie orffen chwarae a symud allan i’r asgell, cyrhaeddodd Terry Jones, neu Terry Bach i bawb. Roedd Terry’n fewnwr typical, pass da, digon o gyflymder a digon o chops. Roedd e’n un ifanc, ac fe ddysgais lawer oddiwrtho, wedi symud i’r rheng ôl wedi i Ieuan Lloyd orffen chwarae. Roedd e’n un da i godi ysbryd y tîm, ac yn un oedd yn cyfrannu i’r ochr gymdeithasol ar nosweithiau Sadwrn.
Roedd Terry yn gyfrifol yn bennaf i gynllunio un o’r symudiadau syml hynny a weithiodd tro cyntaf ar y cae. Roedden ni ar ein ffordd lawr i chwarae ail dim Pontiets ar nos Fercher canol tymor dan oleuadau. Roedd Terry a finne’n trafod tactegau, ac fe awgrymodd os y byddai sgrym ar ochr chwith y cae, y dylwn i godi’r bel a mynd yn dywyll, trwy droi nghefn at y mewnwr a’u blaenasgellwr. Wrth wneud hyn a’u cymryd nhw allan o’r gêm, roedd angen pop-pass i Terry oedd yn dod y tu ôl imi, a byddai fe ac Emyr Jones yn glir yn erbyn ei asgellwr de nhw. Roedd y syniad yn iawn, ond do’n i ddim yn disgwyl iddi weithio. Wel wrth gwrs, ychydig fewn i’r ail hanner daith sgrym inni ar linell ddeg Pontiets, rhyw ddegllath o’r ystlys. Fe fachodd Brian yn llwyddiannus, ac roedd y bel wrth fy nhraed. Fe godais i, a symud i’r chwith a chefn i’w amddiffyn, pop-pass bach, ac roedd Terry’n glir. Fe dynnodd Terry’r cefnwr, cyn rhoi pàs i Emyr ac fe ddiflannodd e dan y pyst. Roedd hi’n syml, ond dwi byth ond cofio’r symudiad yn gweithio ‘to. Mae’n od sut mae un symudiad syml wedi aros yn y cof cyhyd – naill ai’n od neu’n drist!
Yn fwy diweddar, un tebyg, ond efo mwy o aggression oedd Steve Wilshaw. Rwy’n cofio gwylio Steve cyntaf yn chwarae i’r ail dîm fel rhywun oedd a rhywbeth i’w brofi, ac yn ymddangos ymhobman ar y cae. Wedi symud i’r tîm cyntaf, roedd ei natur gystadleuol yn holl bwysig ar ein teithiau poblogaidd i lefydd fel Barry Plastics. Ond roedd hi’n amlwg bod Steve yn rhwystredig iawn o’r ffaith nad oedd pac cryf o’i flaen, ac nad oedd yn debyg o ennill dim byd. Roedd hyn yn biti, gan mai Steve oedd y fath o chwaraewr oedd yn ddigon cryf a phenderfynol i lwyddo gyda ni, a ro’n ni gyd yn siomedig pan benderfynodd adael y clwb, ac yn fwy siomedig fyth i glywed ei fod yn bwriadu ymuno a Fairwater.
Fe gyrhaeddodd Phil James y Clwb gyda bechgyn Clwb Ifor Bach, wedi i’w clwb nhw chwalu. Y blaenwyr, fel Robin a Grundy oedd yn bwysig i ddechrau, ond cyn bo hir, fe ymddangosodd y byddai Phil yn aelod pwysig hefyd. Roedd e’n fewnwr trefnus, heb unrhyw frills, ac yn un oedd yn ddigon hapus i roi ei gorff ar y lein a thaclo blaenwyr mawr. Doedd e heb greu rhyw argraff fawr arna’i nes inni deithio i Drefforest i chwarae’r Poli. Am ryw reswm y noson honno, fe sylweddolais i fod ganddo’r rhinweddau i wneud capten da inni, a dyna fel y bu y tymor canlynol. Un tebyg yn ei ffordd oedd Dai Morris. Roedd y ddau’n fewnwyr oedd a digon i ddweud, ond efallai bod Dai’n ‘chydig yn fwy naturiol fel mewnwr – byddai Phil wedi gwneud blaenwr da hefyd. Roedd hi’n drueni fod dau fewnwr da efo ni ar yr un adeg, a doedd hi’n fawr o syndod i Dai adael y clwb wedi i Phil gael ei ethol yn gapten. Roedd ei gyfraniad i St.Peters, ar ac oddi-ar y cae, yn fawr, ac fe welwyd ei golled yn y ffordd yma am amser hir. Roedd hi’n beth da iddo gadw cysylltiad â’r clwb ar daith am sawl tymor wedi iddo adael. Roedd e’n un o’r rhai hynny, fel Neil, Martin Kitchener, Benny ac eraill oedd yn deithwyr cyson, ac roedd croeso cynnes iddynt bob tymor.
Ymysg y rhai eraill, beth am Gareth Harvey, mewnwr taclus – un oedd yn gwneud penderfyniadau call, dim gwell efallai na hynny i roi’r gorau i chwarae wrth ystyried y timoedd oedd yn ein herbyn. Neu beth am Pete Rowlands, meddyg tawel â’r un lliw gwallt a Stumpy, ond eto fel Stumpy’n dwyllodrus o gyflym. Nol yn yr Wythdegau, roedd dau fewnwr gwbl wahanol ei steil a’i maint. Wyn Bach Davies, mewnwr clasurol byddai’n chwarae’n ddi-nonsens yn cyfuno’r blaenwyr a’r cefnwyr, a dim ond yn bylchu ar ambell dro, neu Alun Humphries, neu Huw Chiswell, oedd a maint a chryfder, a natur bwrpasol a phenderfynol ac yn rhedeg a’r bel yn gyson. Efallai y gallwn gymharu’r ddau fel Robert Jones a Terry Holmes y clwb yn yr wythdegau.
Wrth ddod nôl i’r nawdegau, pwy allai anghofio Rhys Jones(Bala), un cofiadwy am fod yn sâl dwywaith. Y tro cyntaf, wedi iddo ennill yard of ale yn erbyn rhyw glwb a phencadlys oddi ar City Rd. Fe yfodd Rhys ‘chydig o’r cwrw, cyn iddo fod yn sâl fewn i’r yard, cyn ceisio ail-ddechrau yfed eto. Doedd hi ddim yn bleserus i’w weld. Do’n i ddim yno’r ail dro pan gafodd concussion ar y cae, ac fe glywais iddo chwydu’n drwm wrth ochr y cae, cyn ceisio dod nôl ‘mlaen. Yn ôl pob sôn bu Stumpy ar fwyaf effro i’w gadw o’r cae. Fel chwaraewr, roedd Rhys yn debyg i sawl un o’n mewnwyr, yn ddigon bodlon delio a phêl wael a’i thacluso cyn dosbarthu. Cyn symud mlaen, rhaid dweud gair am Andy Lade, a drodd lan am ei sesiwn ymarfer cyntaf, a ni’n benderfynol fod prop newydd wedi cyrraedd, hyd nes iddo egluro’i fod yn fewnwr. Nid Andy oedd y mewnwr gorau a welais i dros y tymhorau o chwarae, ond roedd e’n ymroi ei hun i unrhyw gêm cant y cant, boed hynny i’r tîm cyntaf neu’r ail. Fe ddatblygodd hefyd yn drefnydd pwysig o nosweithiau’r clwb, ac roedd ei gysylltiadau yn yr Horse and Groom yn fuddiol am sawl tymor.
Sy’n ein gadael ni a dau fewnwr, ac mae dewis rhwng y ddau’n ddigon anodd. Ar y fainc felly byddai Dave Jones. Dwi ddim yn siwr iawn sut ymunodd Dave a’r Clwb, ond doedd hi ddim yn hir nes iddo brofi ei hun yn aelod pwysig. Roedd e’n fewnwr cryf oedd yn ddigon cyffyrddus yn rhedeg a’r bel, ond eto oedd a holl sgiliau traddodiadol mewnwr – pasio da, cicio, cyflymdra a hunanhyder. Yn anffodus iddo fe, roedd e ‘chydig bach yn rhy ddoeth i fod yn chwarae ar y lefel hyn, a galla’i ddychmygu iddo weld digonedd o ddrygioni’n digwydd o’i flaen. Doedd hi ddim felly’n syndod mawr iddo ddiflannu’n sydyn ar ddiwedd tymor, a mynd nôl i fwynhau chwarae golff ar ddyddiau Sadwrn yn hytrach na theithio i Drelái neu Barri. Ei gyfraniad ddiwetha’ ar y cae oedd ar daith yn erbyn Brest, ac mewn ffordd, mae’n bosib ei fod wedi dewis yr amser hynny fel amser da i roi’r gorau iddi. Roedd hi wedi bod yn daith gofiadwy, a ro’n ni wedi ennill gem agos, a dwi’n meddwl fod Dave wedi mwynhau mas draw. Roedd hi’n amser da i orffen mae’n siwr.
Roedd Dave yn gymeriad siaradus ar y cae, ond lawer tawelach oddi arni. Roedd ein prif fewnwr o’r un fath. Erbyn hyn, mae’n anodd cofio’n union beth oedd rhinweddau Gwydion Lewis. Dw’i ddim yn cofio’r un bylchiad, neu gais neu rediad arbennig. Ond dw’i yn cofio bod yna rywbeth arbennig yn ei chwarae. Roedd e’n dawel ac yn ddiymhongar ond roedd e’n gyswllt arbennig rhwng y blaenwyr a’r cefnwyr. Dim ond am ryw hanner tymor bu’n chwarae dros y Clwb, ond wrth edrych nôl ar ein taith i’r Drenewydd, roedd pob un o’r gweddill ohono’ ni’n sylweddoli cymaint o effaith a gafodd ar weddill y tîm. Roedd ganddo’r sgiliau syml. Roedd e’n chwim, roedd ei bas yn hir a chyflym, felly’n helpu bwriad y cefnwyr o redeg y bel, ac roedd ganddo ymennydd mewnwr. Roedd hyn yn ei alluogi i ymateb yn gyflym, ac i ragweld beth oedd yn mynd i ddigwydd iddo gael paratoi’i hun. Roedd ei golled lan yn y Drenewydd yn anferth. Ro’n ni wedi dechrau’n gryf, ac am chwarter awr wedi bod ynghlwm yn ei dwy-ar-hugain. Roedden ni fel pac yn ennill pêl, ac roedd Gwydion yn bwydo Dafydd Emyr mor gyflym, roedd cymaint o amser iddo fe ennill tir efo’i giciau mawr. Ond mewn un eiliad trist, fe drodd y gêm ar ei phen. Anafwyd Gwydion, ac er na sylweddolo’n ni ar y pryd, lwyddo’n ni ddim i gyrraedd safon y chwarter awr agoriadol eto. Fel yr eglurais i, dwi ddim yn gwybod y rhesymau pam, ond does gen i ddim ansicrwydd mai Gwydion fyddai mewnwr y tîm hwn.
Mae dewis maswr wedi cael ei selio ar ddewis y ddau ganolwr. Wedi penderfynu ar ddau ganolwr cadarn, y penderfyniad oedd dewis rhedwr o faswr. Yn sgil hyn, mae Meurig Phillips yn methu â chael lle yn y tîm, sy’n anffodus wrth inni ystyried cyfraniad Meurig dros y blynyddoedd. Efallai inni feddwl am Meurig yn debyg i Neil Jenkins, yn giciwr o fry nad oedd yn gallu rhedeg a’r bel. Mae hyn ‘chydig bach yn rhy syml. Roedd safon ei gicio yn uchel iawn, boed hynny o’r llawr neu o’i ddwylo. Wyddwn i ddim sawl gwaith imi godi o sgrym amddiffynnol ar ein lein ein hunain, a throi i weld y bel yn hedfan o’i droed a glanio hanner can llath lawr y cae dros ben cefnwr syn y gwrthwynebwyr. A sawl gwaith a allwn gofio Meurig yn anelu at y pyst o hanner ffordd i gyfrannu triphwynt arall i’n cyfanswm. Pethau fel hyn, neu’r dyddiau prin hynny pan nad oedd ei gicio ar ei orau, sy’n aros yn y cof, yn hytrach na’r atgofion ohono’n rhedeg a’r bel neu’n gweld cyfle i weddill y cefnwyr redeg a’r bel. Er yn giciwr o fry, roedd e’n un oedd yn deall ethos y clwb o redeg y bel o bobman, neu efallai’n ddigon syml ei fod yn deall mai dyna’r gobaith orau oedd gynno’ ni i ennill y gêm.
Oddi ar y cae, roedd ei gyfraniad yn fawr hefyd. Bu’n gapten am ddau dymor, ac rwy’n cofio’i ymroddiad ar y pryd o arwain sesiynau ymarfer yng Nglantaf yn absenoldeb hyfforddwr. Roedd ei ffitrwydd a’i arweiniad yn ddigon i wneud inni gyd deimlo’n euog. Yn ogystal â hyn, bu na’r un chwaraewr a ddaeth a gwen i ngwyneb i gymaint â Meurig. Roedd yr hiwmor naill ai’n blentynnaidd neu’n debyg i Viz, gyda dychymig eang, ond roedd hi’n ddoniol dim ots at bwy ‘roedd wedi’i anelu. Ond er hyn oll, a dim ots pa mor boblogaidd oedd Meurig, nid fe sy’n mynd i wisgo’r rhif deg!
Maswr gwbl wahanol oedd Huw Jones. Bu Huw nôl efo’r clwb am ddau dymor nôl tua dechrau’r wythdegau, cyn i’w anaf, y gwaetha’ y gwelais i ‘rioed, dod â’i yrfa i ben. Roedd hi’n gêm yn erbyn myfyrwyr Cyncoed lawr yn Llandaf pan dorrodd ei goes, ac mae ehangder yr anaf yn glir wrth gofio i’r gêm gael ei ohirio’n syth. Wrth imi gerdded tuag at Huw yn gorwedd ar y llawr, daith Charlie ataf i awgrymu imi beidio â mynd i edrych oherwydd natur yr anaf. Roedd hi’n ddiwedd trist i Huw.
Ar y cae, roedd Huw yn enillydd arall, nad oedd yn fodlon diodde’ neb yn rhoi llai na chant y cant. Rwy’n cofio’r tro cyntaf imi chwarae gydag e, a fe’n rhedeg at y sgrym i bwyso ar fy nghefn a gwaeddi “plyga dy goesau…ti’n rhy uchel”. I fod yn deg, roedd ei safonau’n uchel, a doedd e ddim am dderbyn llai na’r gorau. Roedd yr un safonau’n perthyn i’w chwarae fe’i hunan, a fe oedd y critig mwya’ o’i chwarae’i hun. Roedd hi hefyd yn fater o fwynhad i wrando ar y ddau frawd, fe ac Emyr yn gwaeddi arnynt ei gilydd, gyda Huw yn frawd hŷn yn dweud y drefn, ac Emyr fel brawd ifanc drwg nad oedd yn fodlon gwrando ar ei frawd mawr.
Ond am ryw reswm, mae un eiliad o chwarae Huw wedi aros yn y cof ers bron 20 mlynedd. Ro’n ni lan yn chwarae yn erbyn Blaenafon Forgeside (am ryw reswm) ac fel arfer, dan bwysau. Ond, ar yr adeg hon, ro’n ni’n ymosod lan ochr dde y cae. Ro’n ni o fewn ei dwy-ar-hugain pan gollwyd y bel, ac fe giciodd un o’i amddiffynwyr y bel tuag at hanner ffordd. Wrth i ni fel pac droi nôl i gynnig help, Huw oedd y cyntaf i gyrraedd y bel, a neb o’n tîm ni’n agos ato, heblaw am rywun, Emyr efallai, ymhell mas i’r chwith. Fe ddalodd Huw’r bel yn agos i’r ystlys dde, ac roedd rhyw dri ymosodwr yn agosáu ato. Fe siapiodd i daflu pàs anferth tuag at Emyr, cyn dal ‘mlaen at y bel a thaflu dummy. Fe “brynwyd” y dummy gan y tri ymosodwr, ac fe aeth Huw ar ei ffordd. Mae ceisio egluro’r foment ar bapur yn amhosib, ond mae’r atgof o weld tri chwaraewr Forgeside wedi’u twyllo yn gofiadwy iawn. Byddai’r Western Mail wedi’i ddisgrifio fel “outrageous dummy”, a dyna fel yr oedd hi.
Roedd Steve Lewis ar y llaw arall yn faswr tawel a di-frills, ond oedd yn un a gweledigaeth dda. Doedd e ddim yn un oedd yn debyg o redeg a’r bel ei hunan, yn hytrach roedd e’n gwybod fod cryfder gennym y tu fas iddo fyddai’n dod â’r rheng ôl chwim i mewn i’r gêm. Fel canlyniad, roedd Steve yn fwy o gyswllt na rhywun fel Huw er enghraifft, naill ai’n dosbarthu at y rhai hynny y tu fas iddo, neu’n cicio’n ddiogel. Roedd yna wahaniaeth rhyngddo fe a Meurig yn yr agwedd hon. Roedd cicio Meurig yn bownd o fod yn hir, ond ar brydiau, byddai’n methu canfod yr ystlys. Ar y llaw arall, gyda Steve, roedd y gic yn debyg o fod yn fyrrach, ond yn anaml iawn y byddai’r gic yn methu’r marc. Roedd Steve gyda’r chwaraewyr mwyaf anffodus, wrth iddo chwarae bron pob gem yn ystod y tymor hwnnw â’r rhediad cwpan, ond imi ei adael allan o’r tîm ar gyfer y gemau mawr oherwydd bod Dafydd Emyr ar gael. Roedd Steve yn haeddu mwy na hynny, ac rwy’n dal i deimlo ‘mod i wedi gwneud cam ag ef. Roedd Dafydd wrth gwrs yn chwaraewr gwbl wahanol, a allai fod, er tegwch imi, wedi ennill y gêm honno yn y Drenewydd. Roedd e’n fawr ac yn gryf, roedd ei droed chwith yn saethu’r bel ymhell lawr y cae, roedd e’n siaradus, ac wrth gwrs roedd ganddo gymaint o hyder. Roedd hi’n od wrth edrych nôl, imi ystyried nad oedd calon Dafydd efo’r clwb ar y pryd, efallai oherwydd ei fod yn gwybod fod ganddo’r dalent i chwarae safon yn uwch. Pan gyrhaeddodd tymor 2000, roedd Dafydd wedi ail-ymuno a’r Clwb i gael tymor neu ddwy arall o rygbi, a ro’n i’n sylweddoli erbyn hyn, gyda’i galon yn mynnu cyfrannu 100%, ei fod yn chwarae rygbi gwell nag y gwelais i e’n chwarae ‘rioed.
Pan ymunais i a’r Clwb, maswr y pryd oedd Ieuan Walters. Roedd Ieuan yn debyg i Steve Lewis yn ei ffordd – dim ffrils, un oedd yn hapus i adael i’r rhai oedd o’i gwmpas i wneud y pethau ffansi. Roedd ei gyfraniad i’r Clwb yn amlwg, wrth iddo dderbyn gwobr ar ddiwedd un tymor i’w ganmol am chwarae mwy o gemau i’r tîm cyntaf yn hanes y clwb. Mae’n drist i raddau nad oes neb yn cadw’r math yma o ffeithiau i asesu cymaint o gemau mae rhai unigolion wedi chwarae dros y tymhorau. Wrth i yrfa Ieuan ddod i ben, roedd Wyn Thomas, canolwr neu’n faswr, wedi ymuno. Roedd Wyn yn faswr cyflawn, un arall heb ryw lawer o ffrills, ond yn un oedd yn darllen y gêm yn dda, ac yn dosbarthu a chicio’n ddiogel. Roedd hi’n drist iddo ddiflannu’n sydyn nôl i’r Gorllewin heb gyfle i ffarwelio a’r Clwb.
Rhai eraill a wisgodd crys rhif deg dros y blynyddoedd oedd cymeriadau fel Nigel Harrington a Chris Price, meddyg oedd yn debyg iawn ymhob ffordd i Gareth Rees, maswr Canada. Wedi hynny, daith Caron Iolo am dymor neu ddwy. Roedd Caron yn debyg i Wyn; roedd e’n hunan-hyderus, yn darllen gem yn dda, ac yn ymddangos fod ganddo amser i drafod y bel trwy’r amser, ac wrth ystyried y fath o bêl ro’ ni’n dosbarthu mas iddo fe, roedd hynny’n syndod. Mae’n od fod yr atgof cliriaf sy’ gen i ohono ar gae rygbi oedd ei wylio fe a Stumpy yn rhedeg nerth eu traed a phasio hyd y cae wrth inni ymarfer ar Landaf cyn dechrau un tymor.
Wrth agosáu at y presennol, mae un cymeriad arall yn dod i’r meddwl, un a oedd gan amla’n cael ei ddewis i’r ail dîm, ond na fyddai byth yn gadael y tîm cynta’ lawr pan fo’r galw. Roedd Rupert Jones yn un arall o’r chwaraewyr hynny oedd a gwên gyson ar ei wyneb, hyd yn oed pan mai fe oedd testun yr hiwmor. Fe ddefnyddiodd ei safle fel maswr i’w ddefnydd ei hun yn ystod tymor y tîm ffantasi. Roedd e’n gyson i’w weld yn ceisio ciciau adlam annhebygol iawn gan fod gôl adlam yn werthfawr iawn iddo gyda dull sgorio’r ffantasi. Ond fyddai’n annheg awgrymu na fyddai’n cymryd gemau o ddifri. Dan yr amgylchiadau iawn, a phan fo’r angen, roedd Rupert yn ddigon abl i reoli gêm, ac yn ddigon cyson byddai’r bêl yn diflannu lawr i “cow corner” oddi ar ei droed chwith. Dangoswyd ei ymroddiad i’r Clwb ar ôl imi orffen chwarae, pan drodd Rupert fyny i wylio gem yn ei ddillad cyffredin. Anafwyd Angus, ac fel arfer doedd dim eilydd ar gael, ac felly heb ailfeddwl, fe newidiodd Rupert fewn i unrhyw bâr o shorts a bŵts oedd ar gael er mwyn sicrhau na fyddai’r Clwb yn chwarae’n fyr yn ystod yr ail hanner.

Ond wedi’r cyfan, fy newis fel maswr fyddai Rhidian Lloyd. Roedd Rhidian yn debyg iawn i Huw Jones, a phe bawn i wedi gweld mwy o Huw yn chwarae, mae’n bosib y byddwn wedi mynd amdano yn lle. Roedd chwarae gyda, a gwylio Rhidan yn chwarae yn destun pleserus ar bob adeg. Roedd e’n bwyllog ac yn darllen y gêm yn dda, yn giciwr da o’i ddwylo, ac yn rhedwr twyllodrus. Ar ei orau roedd e’n gallu rheoli gêm a’i redeg twyllodrus. Yn gyson, Rhidian oedd catalydd perfformiad agored a chyflym yn null traddodiadol y clwb. Roedd hi’n drist iddo adael y Clwb pan oedd yn agosáu at ei orau, ond i’r gwrthwyneb i rai eraill, ro’n i’n deall ei resymau. Roedd e wedi bod yn gapten ar y clwb am ddau dymor anodd yn fuan ar ôl i sawl un ohonom orffen chwarae, pan oedd niferoedd y chwaraewyr yn brin iawn. Ond ni adawodd hyn fyth i ymyrryd ar ei ymroddiad cyson i’w gydchwaraewyr.
Rhidian hefyd gododd statws y Clwb, wrth gael ei ddewis i chwarae dros Gymru tra’n aelod o’r Clwb. Anghofia’i fyth y gêm a chwaraewyd wythnos cyn ei gap cyntaf, pan ei anafwyd wrth geisio’i orau i amddiffyn gem lle’r oedd y clwb yn sicr o golli. Fe allai fod wedi peidio chwarae, ond fyddai hynny wedi gadael ei ffrindiau lawr, ac felly fe adawodd y cae y p’nawn hwnnw wedi troi ei ben-glin. Mae’n siwr na ddylai fod wedi chwarae’r gêm ryngwladol, ond fe wnaeth, a dod â chlod i’r Clwb. Yn wir, doedd dim llawer o chwaraewyr y Clwb yn awyddus i chwarae dros ardal Caerdydd, am bob math o resymau, ac felly roedd hi’n braf bod un o’n cydchwaraewyr yn ddigon hyderus i adnabod ei dalent, ac i lwyddo gwneud cymaint o’r dalent yma ag oedd yn bosib. Efallai bod sawl cyn-chwaraewr yn difaru peidio â cheisio ymestyn eu hunain i geisio cynrychioli tîm yr ardal.
Fe adawodd Rhidian er mwyn ceisio chwarae ar lefel uwch. Roedd hyn yn deg. Ro’n ni wedi ei werthfawrogi am sawl tymor, ac roedd pawb yn gwybod y byddai’r Clwb yn parhau i fod yn bwysig iddo. Y trueni mawr oedd iddo ddewis chwarae i Canton, lle na fyddai ei sgiliau rhedeg yn cael ei gwerthfawrogi rhyw lawer. Roedd hi hefyd yn anodd i’w dderbyn i rai ohono’ ni’r hen chwaraewyr, oedd dal yn trin Canton fel yr hen elyn oedd yn chwarae ar y cae ar ein pwys ni. Roedd hi fel pêl-droediwr yn symud o Lerpŵl i Everton!
Ymlaen a ni at ganolwyr y Clwb, ac wrth gwrs, mae digonedd ohonynt wedi bod, os am gynnwys yr “utility backs” sy wedi mwynhau prynhawn neu ddwy yng nghanol y cefnwyr. Mae’n anodd ceisio cofio pwy oedd yno yn ystod y dyddiau cynnar nôl yn yr wythdegau. Roedd y Clwb yn llawn doctoriaid ar y pryd, a chafwyd un adeg pan oedd y ddau Andy, Bradley a James yn gwisgo’r rhifau 12 a 13. Roedd y ddau’n ganolwyr dibynadwy yn fwy na dim, a’r unig atgof o fod mewn gem gyda’n nhw oedd Andy James yn cael ei anfon o’r maes ar gaeau Llandaf. Mae’r atgof ohono’n ymladd o dan y goeden, a’i wyneb syn wrth sylweddoli ei fod yn gorfod mynd nôl i’r cawodydd yn glir yn y cof. Pwy fyddai’n credu y byddai ‘mond rhyw dri neu bedwar chwaraewr yn ymuno â’r criw pryn yma i dderbyn y garden goch dros y 15 mlynedd nesa’?
Rhai eraill o’r adeg hynny oedd cymeriadau fel Nigel Harrington a Mike Evans, a oedd, erbyn i mi gyrraedd, yn chwarae gan aml’ i’r ail dîm, ond a fyddai’n symud fyny i’r tîm cyntaf yn ddigon cyfforddus pan oedd angen. Roedd Tony Morgan a Beuno Hughes yn llenwi ar adegau, er rhyw dymor neu ddwy ar ôl imi ymuno, daith Beuno’n aelod cyson o’r tîm cyntaf. ‘Dwi ddim yn credu i bawb werthfawrogi sgiliau Beuno. Roedd ganddo ddwylo da, a gweledigaeth arbennig. Roedd e’n deall pan oedd hi’n well i gicio yn hytrach na phasio. Rwy’n cofio hefyd pa mor gadarn oedd ei daclo hefyd, er nad yn fawr ei faint. Techneg dda fyddwn i’n awgrymu. Fel un oedd yn deall rygbi’n dda, efallai nad oedd pawb arall ar yr un lefel a fe, ac mae’n bosib y gallai hyn fod wedi achosi problemau iddo. Rwy’n cofio un gêm yn erbyn yr Eglwys Newydd ar Gaedelyn, pan geisiodd Beuno bas nôl y tu cefn iddo. Doedd neb o’n tîm ni wedi disgwyl y pàs, ac fe’i rhyngipiwyd, a chollwyd ‘chydig o dir. Dyna gyd wi’n cofio yw clywed llais Frank Williams “Beuno, you ….idiot….just do the …simple things”.
Gallai feddwl am ddau ganolwr a fu’n anffodus iawn. Ymunodd Matt Bryon a ni yn ifanc iawn, ac roedd ein cefnwyr yn gryf iawn. Roedd Matt yn chwaraewr o safon, ac fe fyddai wedi datblygu’n ganolwr arbennig inni am sawl tymor i ddod. Yn anffodus i ni, roedd e’n awyddus i chwarae rygbi tîm cyntaf, a chafodd fawr o gyfle oherwydd ein cryfder, ac efallai, ein hanfodlonrwydd i ddod â chwaraewyr newydd mewn. Fe oedd y cyntaf y gallwn ddweud efallai “went North”. Wel fe aeth i chwarae peldroed i’r Cymric, beth bynnag. Ein colled ni, yn anffodus.
Un o’m cydoeswyr i oedd Ifer Arch. Roedd Ifer yn un arall o’r chwaraewyr hynny ro’n i’n ei edmygu’n fawr. Roedd e’n ddigon hapus i gynrychioli’r ail dîm tymor ar ôl tymor, dim ots sawl gwaith byddai’n teithio efo nhw gyda thîm o ddeuddeg, neu dîm ifanc, neu dîm heb reng flaen. Fel hen ben, Ifer oedd wastad yn derbyn y cyfrifoldeb o egluro wrth y gwrthwynebwyr pam roedd y tîm yn fyr ac yn y blaen. Fe fyddwn i’n awgrymu hefyd efallai mai Ifer a gynrychiolodd y Clwb yn y rhan fwyaf o safleoedd dros y blynyddoedd. Dwi ddim yn cofio iddo chwarae yn yr ail reng, ond gallai gredu iddo wisgo pob rhif arall. Synnwn i’n fawr i glywed ei fod wedi chwarae yn yr ail reng rywdro, beth bynnag. Fel sawl un arall, roedd Ifer hefyd yn un o’r chwaraewyr a fyddai wedi gallu chwarae’n gyson i’r tîm cyntaf, oni bai am y ffaith bod ein cefnwyr ni mor gryf.
A phwy arall sy’ wedi cyfrannu’n fawr i’r ail dîm dros y tymhorau? Yn ystod dyddiau cofiadwy Gavin yn gapten i’r ail dîm, roedd Dafydd Llyr ac Eirian Davies, Bot i bawb. Cyn hynny, roedd yr Eirian Davies arall, a hefyd Elfed Charles. Estynnodd cyfraniad Dafydd ac Elfed at fod yn gapteiniaid hefyd. Yn fwy diweddar, roedd Gwyndaf Jenkins yn fwy o utility back i’r ail dîm, ac erbyn hyn, mae Jon Owen fel rhyw utlity committee i’r Clwb. Wrth imi orffen chwarae, roedd Jon yn dechrau ei yrfa gyda’r Clwb. Blwyddyn neu ddwy yn ôl, rwy’n cofio Jon yn egluro pwysigrwydd y Clwb iddo fe. Pe na bai’r Clwb wedi bodoli, byddai Jon ddim wedi chwarae rygbi o gwbl wedi dod i Gaerdydd. Fel un oedd yn dod o Gaerdydd, a fyddai wedi ffeindio clwb yn rhywle yn y ddinas yn absenoldeb y Clwb, doeddwn i ‘rioed wedi ystyried pwysigrwydd y Clwb fel hyn o’r blaen.
Erbyn hyn, mae Jon yn aelod holl bwysig o bwyllgor y Clwb. Hyd y gwn i, mae e’n Ysgrifennydd, ysgrifennydd gemau, a hefyd yn gapten ar yr ail dîm, a hyn oll am yr ail dymor yn olynol. Yn ogystal â hyn, mae e’n hyfforddwr ar y CRICC bob bore Sadwrn. Fe, wrth gwrs, hefyd dderbyniodd ar ail anaf gwaetha’ imi’i weld, wedi hynny dderbyniwyd gan ei gyd-athro Huw Jones. Rwy’n cofio gweld Jon yn syrthio o ‘mlaen i dan y goeden yn Llandaf, ac wrth glywed crac enfawr, dychmygais ei fod wedi glanio ar frigau’r coed, a dyna ro’n i wedi clywed yn torri. Wrth gwrs, roedd y gwirionedd yn hunllefus, ac mae’r graith ar ei fraich yn gwneud i mi deimlo’n ffodus!
Mae yna ddau ganolwr arall a fyddai wedi llenwi crysau rhif 12 ac 13 yn gyfforddus imi dros y tîm hwn. Y cyntaf yw Ioan Prydderch, un arall sy’n dal i fwynhau ei rygbi da’r Clwb. Am ei gem gynta’, daith Ioan ‘mlaen fel eilydd mewn gem gwpan, yn erbyn Barry Plastics, dwi’n meddwl, lle’r ro’n ni ymhell ar y blaen ar funud ola’r gêm. Fe gollwyd y meddiant mewn sgarmes, ac fe gyrhaeddodd y bel un o ganolwyr BP. Wrth i’r bel gyrraedd ei ddwylo, fe daclodd Ioan e “man and ball”. Daith chwiban y dyfarnwr, ac fe gosbwyd Ioan. Roedd hi’n amlwg ei fod yn camsefyll. Hyd yn oed wrth ystyried pa mor araf oedd cefnwyr BP, doedd hi ddim yn bosib y gallai fod wedi cyrraedd mewn cyn lleied o amser. Dim ond nôl yn yr ystafell newid, cefais air ag un arall o’r cefnwr, ac roedd e’n benderfynol nad oedd Ioan wedi bod yn camsefyll. Ei gyflymdra oedd wedi ei ganiatáu i gyrraedd mor gyflym. O hynny ‘mlaen, roedd hi’n amlwg fod chwaraewr arbennig yn ein plith. Pan oedd yn hyderus, doedd neb gwell, gyda’i gyflymder yn ei ganiatáu i fynd tu fas i’w wrthwynebwyr. “Deceptively quick” byddai’r ffordd orau o’i ddisgrifio. Yn anffodus, roedd Ioan yn un arall o’r rhai hynny a ddioddefodd o gael ei ethol yn gapten, a’r problemau di-ri sydd ynghlwm i’r swydd hon. Roedd hi’n amlwg ar brydiau nad oedd ganddo’r hyder i roi ei ben yn ôl a mynd – doedd dim cwestiwn, ar ei orau, byddai cystal â neb yn chwarae rygbi yn y brifddinas. Erbyn hyn, mae’n bleser gweld ei fod wedi adennill ei hyder a’i fwynhad yn y gêm, ac mae’n siwr fod safon ei rygbi wedi codi yn yr un modd.
Un arall o’r un math a Ioan oedd Andy Thomas, neu Stumpy i bawb. Doctor arall, fe gyrhaeddodd y Clwb rhyw dymor cyn imi orffen capteinio’r Clwb. Wrth ei weld, a’i wallt llwyd, y meddwl cyntaf oedd ei fod yn rhywun oedd wedi dod i orffen ei yrfa gyda’r Clwb, ac a fyddai’n fuddiol i’r ail dîm. Wedi sylweddoli nad oedd cweit mor hen ag yr oedd yn edrych, cefais gyfle i chwarae yn yr un tîm ag e’, a sylweddolais yn sydyn y byddai ei gyfraniad i’r tîm cyntaf yn fwy na’r ail. Daith ‘mlaen i’r tîm cyntaf am y tro cyntaf lan yn erbyn y Politechneg yn Nhrefforest (am ryw reswm, mae pob gem ar y cae yna wedi aros yn y cof !). Roedd y rhan fwyaf o’n canolwyr ni wedi bod yn gryf a phwerus, yn cymryd “route one”. Roedd hi’n syndod imi felly, pan dderbyniodd Stumpy’r bel tu fas i’w dwy ar hugain a “drifftio” y tu fas i ganolwr y Brifysgol. Doeddwn i ‘rioed wedi gweld un o fechgyn y Clwb yn gwneud hyn o’r blaen, er y byddai’n digwydd yn fwy aml dros y blynyddoedd nesa’ gyda dyfodiad Ioan a Gareth Hall i’r canol.
Er ei faint, roedd e hefyd yn amddiffyn yn gadarn, a dim ond yn anaml iawn byddai’r gwrthwynebwyr yn llwyddo torri heibio fe. Ond yn ogystal â’i chwarae ar y cae, ymroddiad Stumpy i’r Clwb sy’n aros yn y cof cymaint â dim. Fel doctor, fe fyddai wedi bod yn hawdd iddo ddewis ei gemau, a defnyddio’r cerdyn “on call” pan oedd trip i Barry neu Trelai ar y ffordd. Ond na, byddai yno bob Sadwrn, er yn ddigon cyson yn cwrdd â ni yn yr ystafell newid. Yr enghraifft fwyaf cofiadwy efallai imi, oedd fy ngêm ola fel capten y clwb. Roedd hi wedi bod yn dri thymor hir imi, a ro’n i wedi cael digon. Roedd un gêm ola’ wedi ei drefnu ar ddiwedd mis Ebrill, yn erbyn Canton, oedd ar fin esgyn i gynghrair y WRU. Ro’n ni’n cael trafferth codi tîm, ac roedd Stumpy wedi torri ei drwyn. Doedd gen i ddim llawer o awch i ffonio rownd, a byddai wedi bod yn syml i Stumpy egluro’i fod yn methu chwarae. Ond er tegwch, fe dderbyniais alwad oddiwrtho, yn egluro ei fod yn fodlon chwarae os oedd angen, a dyna ddigwyddodd. Chwaraewyr fel hynny oedd yn sicrhau fod y Clwb yn parhau chwarae pan oedd pethau’n mynd yn dynn.
Ond wedi meddwl yn galed am ganolwyr i’r tîm dychmygol hyn, rwy wedi mynd am ddau o’r chwaraewyr cryf, mawr, yn hytrach na rhedwyr twyllodrus. Efallai nad yw hyn yn dilyn natur gyffredin y clwb o chwarae rygbi cyflym agored, ond wedi dewis rhedwr o faswr, ac wrth wybod y cefnwr a’r asgellwyr, rwy’n caniatáu fy hun i ddewis fel ‘dwi’n teimlo sy’ orau. Nid Llyr Roberts fyddai dewis pawb yn y canol efallai, ond roedd ganddo bopeth ro’n i’n ei edmygu wrth chwarae yno. Ei brif werth, efallai, oedd ei fod yn un oedd yn mynnu ennill gemau, a doedd e ddim yn gwerthfawrogi unrhyw un oedd yn rhoi llai na chant y cant. Roedd e’n ddigon bodlon dweud hyn yn blwmp ac yn blaen wrth bobl, ac roedd sawl un na fyddai’n hoff o glywed gwirionedd fel hyn. Ond fel cydchwaraewr, ro’n i’n ddigon balch clywed ei lais yn cyfarth ar y gweddill i godi ei gem. Roedd e’n debyg iawn i Brian Sullivan fel hyn, er nad o’n i’n ei ofni fe yn yr un ffordd a Brian.
Ar y cae, roedd e’n drefnus a chryf, fel arfer yn dosbarthu, neu’n defnyddio’r chwaraewyr y tu fas iddo i greu lle. Anaml iawn byddai’n bylchi, ond roedd e’n un arall oedd a digon o sens i ddarllen gem yn dda. Roedd e wedi ymuno â’r Clwb fel cefnwr ac efallai bod chwarae fel cefnwr wedi helpu iddo ddarllen gem yn dda. Gan nad oedd yn bylchu’n aml ei hunain, does dim atgof o niferoedd o geisiadau, sydd efallai’n od o rywun a gyfrannodd am ddeng mlynedd yn y tîm cyntaf. Efallai mai’r ffaith nad oedd yn gwneud camgymeriadau’n aml sy’n tanlinellu ei gysondeb yn y canol. Er nad oedd yn rhedwr cyson, mae un enghraifft yn gofiadwy ohono’n mynd heibio’i wrthwynebydd, a hwnnw ar y daith i Frest. Roedd hi’n gais clasurol i ganolwr, a oedd yn deilwng o ennill y gêm. Dim ond un peth dwi’n ffeindio’n anodd credu efo Llyr, a hynny yw sut y llwyddodd, mewn deg tymor a mwy, i osgoi eistedd ar bwyllgor y Clwb mewn unrhyw safle o gwbl. Gyda’r pwyllgor yn newid o un tymor i’r nesa’, roedd hi’n anochel y byddai unrhyw un oedd efo’r Clwb am ryw dri thymor yn gwneud stint o ryw fath ar y pwyllgor, ond rywffordd neu’i gilydd, byddai Llyr ag esgusodion di-ri yn ystod pob AGM, a chynigion di-ri o enwau pobl i dderbyn seddu yn ei le.
Mae dewis yr ail ganolwr ‘chydig bach yn haws. Eto rwy wedi mynd am chwaraewr cryf, direct, efallai gallwn ni ddweud “the ultimate route one player”, sef Ianto Hughes. Mae sawl un o’r tîm dychmygol hyn wedi derbyn clod ac edmygedd unrhyw un a chwaraeodd gyda’n nhw, ond greda’i na edmygwyd neb mwy na Iants. Roedd Ianto’n chwarae’r un ffordd yn y funud ola ag oedd yn chwarae yn y funud gyntaf, hyd yn oed os oedden ni ymhell ar ei hol hi, a doedd dim gwell ysbrydoliaeth i weddill y tîm, neu i gapten. Dim ots pa mor galed oedd pethau, neu’r amddiffyn o’n blaenau, byddai Iants wastad yn awyddus a pharod i dderbyn y bel ar ryw switch fyddai’n ei anfon nôl fewn i reng ôl ein gwrthwynebwyr.
I gapten, roedd Iants yn berffaith. Roedd e’n ddigon tawel yn yr ystafell newid, yn ddigon bodlon gwrando ar yr hyn oedd gan unrhyw un arall i’w gynnig. Roedd hi fel ei fod yn derbyn fod pobl eraill yno i wneud y penderfyniadau, a’i fod e yno i weithredu’r dymuniadau hyn. Petawn ni wedi gofyn iddo redeg trwy wal, dwi’n siwr y byddai wedi ceisio gwneud hyn. Mae’n od, roedd y rhan fwyaf o’n cefnwyr ni dros y blynyddoedd yn chwaraewyr amryddawn, oedd yn gallu chwarae mewn sawl safle ymysg y cefnwyr. Nid un felly oedd Iants. Gallai mo’i ddychmygu fel maswr neu fel cefnwr, a byddai ei adael allan ar yr asgell wedi’i wastraffu’n llwyr. Byddai wedi bod yn debyg i’r ffordd mai Llanelli’n defnyddio Salesi Finau.
Eto, mae ceisio cofio ceisiadau cofiadwy ganddo’n reit anodd. Rwy’n ei gofio’n rhyng-gipio, a rhedeg hyd y cae mewn gem gwpan yn erbyn Llanrumney rhywdro blynyddoedd yn ôl, ond heblaw am hynny, does yr un arall yn dod i’r cof. Dyna gyd galla’i ddychmygu yw taw fe oedd yn gyfrifol am dorri’r lein a sugno rheng ôl y gwrthwynebwyr fewn, cyn inni’r blaenwyr sicrhau ail-feddiant er mwyn i un o’r cefnwyr eraill derbyn y fraint o sgorio. Ta beth, does dim dwywaith y byddai Iants gyda’r cyntaf i gael ei enw ar bapur yn y tîm hwn.
Ac felly at y glory boys ei hunain, yr asgellwyr. O feddwl fod dau ohonynt yn chwarae bob dydd Sadwrn , does dim rhyw lawer o asgellwyr yn dod i’r cof dros y blynyddoedd. Mae hyn naill oherwydd bod unrhyw un yn gallu chwarae ar yr asgell, ac felly mae sawl un wedi cael ei nodi mewn safleoedd eraill, neu’r ffaith ei bod nhw’n chwarae mas ar yr asgell dawel heb ofn derbyn anaf, ac felly mae rhyw fath o longevity naturiol yn gysylltiedig â’r safle. Dwn i ddim. Mae’n anodd cofio pwy oedd yno reit ar y dechrau. O’r rhai cynta’ sy’n dod i’r cof mae Malcolm Rees, yr antithesis i Jonah Lomu. Roedd Malcs yn rhedwr chwim a thwyllodrus, ac yn sicr ddim yn un oedd yn mynd i redeg trwy’r amddiffyn. Mae cais cofiadwy yn erbyn y Meds yn Llanrumney’n dod i’r cof am ryw reswm, er mai efallai fel ysgrifennydd gemau am dymhorau maith y bydd sawl un yn ei gofio.
Fe ddaeth ac fe ddiflannodd asgellwyr drwy’r wythdegau. Enwau fel Gary Pashley, Pete Rees (Chwaraewr 7s orau’r Clwb mae’n siwr), Huw Eurig a Huw Hall wrth gwrs, Sion Hughes, Geraint Jenkin, a David Davies, neu Dimmo i bawb, a oedd yn asgellwr da, ac yn gricedwr arbennig. Bu pob un o’r rhain o gwmpas am dymor neu ddwy, yn yr un ffordd a Marc Edwards, asgellwr ifanc a chyflym a chwaraeodd yn gyson am dymor ar ôl iddo orffen coleg. Y disgwyl oedd y byddai’n gwisgo crys rhif 14 trwy gydol y nawdegau, ac fe’i barnwyd yn chwaraewr ifanc y flwyddyn y tymor hwnnw. Wrth gwrs, fe ddiflannodd i weithio o Gaerdydd, a gwelwyd mohono fe na’r wobr hynny eto!
Erbyn diwedd yr wythdegau, fe gyrhaeddodd Richard Williams fel asgellwr. Roedd Rich yn asgellwr naturiol, ond roedd yr awydd ganddo am fwy o waith nag oedd e’n ei fwynhau ar yr asgell. Wedi tymor ar yr asgell fe newidiodd ei safle i fod yn fachwr, ac er tegwch iddo, wrth geisio’r newid hyn, fe ddaliodd at ei dasg. Ond imi, fel asgellwr y dylai fod wedi aros. Yn ystod y nawdegau, bu sawl un arall yn gwisgo’r crysau 11 a 14. Un o’r mwyaf poblogaidd, sy’n dal i gynrychioli’r ail dîm o bryd yw gilydd oedd Angus McFarlane. Roedd Angus yn asgellwr cryf, a ddenodd yr enw “Crazy horse” gan rai o’i gydchwaraewyr. Ro’n i wastad o’r farn y byddai’n gwneud blaenasgellwr da, ond roedd Angus o’r farn y byddai’n achosi problemau trwy chwarae yno oherwydd na fyddai’n gwybod be fyddai’n ei wneud. Fel canlyniad, mas ar yr asgell yr arhosodd, ac yno bu’n sgoriwr cyson, yn rhedeg trwy’r amddiffyn yn hytrach nag o’u cwmpas. Mae’n od cofio, wrth ystyried cryfder ei redeg, iddo anafu wrth chwarae un Sadwrn, drwy syrthio dros welltyn o wair hir ar y cae, heb fod neb arall o’i gwmpas!
Ar yr asgell arall i Angus trwy flynyddoedd cynnar y nawdegau, oedd Sion Clwyd. Heb os, Sion oedd y gorffennwr orau (best finisher) bu efo ni mas ar yr asgell. Fe ddatblygodd ddealltwriaeth arbennig efo Iants a Llyr a Meurig, a byddai’n gyson yn ymddangos yn y lle cywir ar yr eiliad iawn. Roedd y siarad rhyngddynt yn dda, ac ar sawl achlysur byddai Sion yn diflannu i “cow corner” i dirio cic trwodd gan un o’r chwaraewyr y tu fewn iddo. Roedd ganddo hefyd ymennydd rygbi da, a byddai i’w weld yn aml y tu fas i John neu Gareth, yn disgwyl am y briwsion ar ôl i’r naill neu’r llall fylchu. Bu achlysuron cyson pan fyddai’r Clwb wedi ennill o 50 o bwyntiau, a heb imi sylweddoli, roedd Sion wedi sgorio 3 neu 4 cais. Roedd e hefyd yn un arall o’r rhai hynny oedd yno’n gyson o un Sadwrn i’r nesa’. Os nad oedd ar gael ar ‘bnawn Sadwrn, roedd yn rhaid bod yna reswm da. Byddai dewis Sion i’r tîm hwn wedi bod yn ddigon naturiol, ond, fel Graham Henry, rwy’n caniatáu fy hun i ddewis asgellwr mawr ar un ystlys yn ei le.

Cyn hynny, un neu ddau arall sy’ wedi’n cynrychioli dros y tymhorau. Yn eu plith, roedd ‘na rai fel Darren Phillips, y chwaraewr mwyaf ymroddedig dros y blynyddoedd na werthfawrogwyd fel chwaraewr efallai cymaint ag y dylai fod wedi. Yn ystod y nawdegau hefyd oedd Dafydd Levi, asgellwr cyflym, a enillodd wobr “chwaraewr mwyaf gwerthfawr” yn ystod cystadleuaeth ffantasi’r clwb, ond a oedd a enw o fod â dwylo ansicr. Hefyd am dymor, roedd Rhodri, un arall a llawer o dalent a sgoriodd ceisiadau cofiadwy inni yn y Wîg ac yn Morganstown, a Gwyndaf a Dafydd Iolo, dau o’n cyfeillion o Dregaron.
Ond at y tîm ei hun, mae un dewis digon hawdd, ac un arall ychydig yn llai amlwg. Roedd Emyr Jones yn asgellwr swnllyd a siaradus, ond prin iawn o chwaraewyr y Clwb oedd a chymaint o dalent. Y ffordd orau o’i ddisgrifio yw i gofio cais cyntaf Jason Robinson dros y Llewod yn 2001, wrth iddo fynd heibio’i wrthwynebydd heb fod ganddo fwy na medr neu ddwy i gyflawni hyn. Emyr, am wn i, fyddai unig aelod y Clwb oedd â’r gallu i wneud rhywbeth fel hyn. Roedd e’n asgellwr oedd yn gwybod be oedd ei allu, ac yn un oedd yn dibynnu lawer ar ei hyder. Rwy’n cofio trafod gydag e unwaith, ac yntau’n dweud ei fod e’n gwybod petai’n derbyn pêl “one-on one” unrhyw le o fewn llinell 10 medr y gwrthwynebwyr, byddai’n cefnu ei hunain i sgorio. Unrhyw beth ymhellach na’r llinell 10 medr, roedd e’n debyg o redeg allan o wynt! Dyna oedd ei farn e, a fyddwn i ddim wedi anghytuno o gwbl.
Er ei fod yn gwbl ffyddlon i’r Clwb ar b’nawn Sadwrn, fyddwn i byth yn awgrymu ei fod yn un o’r rhai hynny oedd yno bob nos Fercher yn ymarfer. Yn yr un ffordd, os oedd cawr o wrthwynebydd yn dod tuag ato, yr atgof yw y byddai’n symud o’r ffordd er mwyn diogelu ei iechyd a’i good looks. Mae hyn efallai’n ategu at ba mor dda’r oedd a’r bel yn ei ddwylo. Roedd hi’n hawdd derbyn ei amddiffyn bregus wrth gofio faint ‘roedd yn cyfrannu yn ymosodol. Heblaw am ei gais lawr ym Mhontiets, does dim un arall yn dod i’r cof, ond eto mae’r atgofion ohono fel rhedwr twyllodrus yn glir. Fel un neu ddau arall yn y tîm hwn, efallai mai ei brif rinwedd inni oedd ei benderfyniad i fod yn fuddugol ac yn llwyddiannus. Roedd hyn ar y cyfan yn beth positif, er inni ar brydiau weld yr ochr negatif, mewn sefyllfaoedd efo’i frawd, ac yn fwy cofiadwy byth, ei syrthio mas efo DH yn ystod hanner amser mewn gem yn erbyn Pyle, a arweiniodd at ymddiswyddiad DH fel hyfforddwr. Er gwaetha hyn, byddai Emyr yn aelod arbennig o’r tîm hwn.
Ar yr asgell arall byddwn yn dewis Tudor Young. Mae dewis Tudor yn debyg i’r ffordd imi ddewis Andy Long yn y rheng flaen. Does gen i ddim rhyw lawer o atgofion ohono’n chwarae, ond mae’r atgof yn glir ‘mod i’n ei barchu’n fawr ar y cae. Roedd Tudor yn asgellwr mawr, cryf, ond oedd yn ddigon chwim unwaith iddo fynd heibio’i ddyn. Roedd Emyr a fe’n cynnig gwrthgyferbyniad(?) da ar y naill asgell, gydag Emyr yn fach ac yn dwyllodrus, a Tudor yn gryf, ac yn hapus i redeg trwy yn hytrach na rownd ei wrthwynebydd. Yr unig atgof ohono ar y cae, yw honno lawr yn Nhregaron, ac yntau’n ennill tir gyda chwaraewyr Tregaron rownd ei ysgwyddau. Er bod yr atgofion yn fyr, maent yn ddigon clir imi fod yn siwr taw Tudor fyddai ar yr asgell chwith yn y tîm hwn.
Ac felly at grys rhif 15. Digon syml ar y cyfan. Llenwyd y safle hwn yn gyson gan chwaraewyr ‘dwi wedi’u trafod yn barod, fel Llyr Roberts a Meurig. Yn anaml iawn cafwyd chwaraewyr oedd yn gefnwyr, a dim ond yn gefnwyr. Yn eu plith, blynyddoedd maith yn ôl, roedd pobl fel Huw “Bristol” Davies, ac Owen Jenkins. Roedd chwarae’r ddau hwn yn debyg iawn i’w gilydd. Roedd y ddau yn gefnwyr “soled” nad oeddent yn debyg o wrthymosod o’u dwy-ar-hugain, ond oedd yn arbenigwyr dan y bel uchel, ac, i’r gwrthwyneb i Emyr, oedd yn ddigon bodlon taclo’n gryf lle bo’r eisiau. Un arall o’r un math oedd Gareth James, neu Wiblet i bawb. Roedd Wib yn aelod dibynadwy o’r ail dîm, a ddaeth yn un o drefnwyr pwysig a ffyddlon tîm criced y clwb – yr unig left-arm spinner oedd i’w weld ar gaeau Llandaf fel arfer.
Ond imi, daw neb yn agos at Eryl Jones fel cefnwr. Ro’n i wedi chwarae gydag Eryl yn yr ysgol, ac felly’n gwybod yn iawn sut chwaraewr oedd e. Fe gyrhaeddodd, fel fi, yn syth o’r ysgol, a chafodd ei ddewis i’r tîm cyntaf o’r dechrau. Bu yno am ddau neu dri thymor digon llwyddiannus, cyn iddo dderbyn anaf cas i’w goes, tra’n chwarae yn erbyn Prifysgol Abertawe. Fel un oedd wedi cadw cysylltiad â sawl ffrind ysgol, daith yr egwyl o chwarae yn gyfle i newid tîm ac ymuno â rhai o’i ffrindie ysgol yn Rhiwbeina.
Fe aeth rhyw dri thymor heibio, pan gwrddais i ag ef, a chlywais ei fod yn considro ail-ymuno a’r clwb. Cafodd wahoddiad i ymarfer, a chyn pen dim, roedd e nôl yn y tîm cyntaf. Roedd Rob Thomas yn gapten erbyn hyn, ac fe gymerodd lawer o berswâd imi sicrhau Rob y dylai roi cyfle i Eryl yn syth. Y noson honno, wedi ei gem gyntaf nôl, rwy’n cofio Rob yn diolch imi, a chytuno fod cefnwr arbennig wedi ail-ymuno a’r Clwb.
Ac wedi dod nôl, cafodd sawl tymor oedd yn well hyd yn oed na’i dymhorau cynnar. Fe ddatblygodd berthynas da gyda Meurig, Llyr a Stumpy, ac roedd ei amseru fewn i’r lein yn berffaith. Roedd ganddo ddigon o gyflymder, roedd ei ddealltwriaeth o gêm yn dda, roedd e’n cicio efo’r ddau droed, yn ddiogel dan y bel uchel…roedd ganddo bopeth oedd yn ei wneud yn berffaith i’n dull ni o chwarae.
Ac felly dyna hi. Tîm wedi ei ddewis a fyddai, efallai, wedi dod â llwyddiant inni petawn ni wedi llwyddo tynnu pawb at ei gilydd ar yr un pryd. Mae’n ddiddorol nodi bod saith o’r tîm hwn wedi teithio i’r Drenewydd, yn cadarnhau’r teimlad mai hwnnw oedd y tîm cryfa’ i marn i, a gynrychiolodd y Clwb ar un p’nawn Sadwrn.

15 Cefnwr Eryl Jones
14 Asgell dde Tudor Young
13 Canolwr Ianto Huws
12 Canolwr Llyr Roberts
11 Asgell Chwith Emyr Jones
10 Maswr Rhidian Lloyd
9 Mewnwr Gwydion Lewis
8 Wythwr Ieuan Lloyd
7 Blaenasgellwr Huw Hall Williams
6 Blaenasgellwr John Hayes
5 Clo Gareth Hall Williams
4 Clo Neil Cole
3 Prop Wyn Lewis
2 Bachwr Brian Sullivan
1 Prop Andy Long

Byddai’r tîm hyn wedi bod yn llwyddiannus, dw’i ddim yn amau hynny o gwbl. Ond beth am hyn fel ail dim, i gadarnhau’r teimlad bod cymaint o chwaraewyr da wedi bod yn ein plith ers 1983.
15 Cefnwr Meurig Phillips
14 Asgell Dde Sion Clwyd
13 Canolwr Andy Thomas
12 Canolwr Ioan Prydderch
11 Asgell Chwith Angus McFarlane
10 Maswr Huw Jones
9 Mewnwr Dave Jones
8 Wythwr Gareth Wilkins
7 Blaenasgellwr Dai Lewis
6 Blaenasgellwr Llyr Williams
5 Clo Dave Pemberton
4 Clo Dafydd Idris
3 Prop Frank Williams
2 Bachwr Tony Vobe
1 Prop Kevin Evans.

Byddai’r ail dîm hwn yn rhoi digon o gêm i’r tîm cyntaf. Byddai aggression pum cefn y pac yn sicr o gystadlu’n frwd efo bois y tîm cyntaf, yn enwedig efo Grundy, Dyfs a Rhidian John wrth gefn.