Share Button

Ryw 15 mis ar ôl imi orffen yr atgofion blaenorol, fe wireddwyd y freuddwyd honno o ryw fath o lwyddiant i’r Clwb, ac fe’i gwireddwyd yn y ffordd ore bosib, trwy ennill y Brewers. Er y gobeithion trwy flynyddoedd cynt, yn bersonol byddai llwyddiant wedi cael ei gyflawni trwy gyrraedd 8 ola’r Brewers, neu rownd derfynol y Mallett. Doeddwn i ddim wir yn credu’i fod yn bosib y byddwn i ‘rioed yn tystio’r Clwb yn cael ei goroni’n bencampwyr y wlad ar gae y mileniwm. Ond, ar Ebrill y 12fed, 2003, dyna ddigwyddodd, ac roedd hi’n ddiwrnod i’w gofio i bawb oedd yno.

‘Dwi ddim am fanylu’n ormod ar y tymor. Roeddwn i fel “fair weather supporter” i fod yn deg. Ar ôl i’r bechgyn guro’r Eglwys Newydd yn reit gyfforddus, fe allwn i fod wedi teithio i Blackwood ar gyfer y rownd nesa’. Mae’n rhaid bod yn onest, doeddwn i ddim yn gweld mawr o obaith iddynt, ac felly fe benderfynais aros yng Nghaerdydd am y diwrnod. Fyddwn i’n difaru’n fawr yn ddiweddarach wrth glywed am y perfformiad. Wedi clywed y canlyniad, yr unig beth ar fy meddwl ar y pryd oedd y gobaith na fyddent yn gwastraffu’r cyfle euraidd yma. Erbyn imi gael cyfle i’w gweld yn chwarae eto, roeddynt wedi llwyddo yn Aberbargoed hefyd, ac roedd gem fawr yn erbyn Trefil o’u blaenau. Wrth sgwrsio efo rhai ohonynt yn ddiweddarach, hwn oedd y gêm fawr, ac i raddau, yr un allweddol. Calon ac amddiffyn y tîm oedd mwyaf amlwg wrth iddynt ennill.

Erbyn y daith i Bont-y-pŵl, a’r rownd gynderfynol roedd hi’n amlwg for hyder yn rhedeg trwy’r tîm. Roedd perfformiad y cefnwyr y diwrnod hwnnw yn syfrdanol wrth ystyried y tywydd, ac fel blaenwr, byddai’n esgeulus imi beidio crybwyll perfformiad y pac, yn erbyn pac anferth Girlings. Roedd hi’n fuddugoliaeth gwbwl haeddiannol eto, ac yn fy marn i, roedd y Clwb yn debyg o fynd i Gaerdydd fel ffefrynnau.
I rhai fel fi, roedd yr wythnosau hynny yn arwain at y ffeinal yn rhai llawn rhwystredigaeth. Fe fyddwn i wedi gwneud unrhyw beth i gael bod yno yn chwarae. Bûm yn e-bostio Llyr Roberts yn Awstralia, ac roedd ei deimladau fe yn debyg i mi. Roeddwn i’n genfigennus iawn o’r chwaraewyr, yn enwedig wrth ystyried for un neu ddau yr un oedran a mi, neu hyd yn oed yn hun.

Roedd y diwrnod mawr yn un berffaith ymhob ffordd. Tywydd da, torf fawr, digonedd o gyn-chwaraewyr, a chanlyniad cywir. Eto, roedd hi’n ganlyniad teg, ag eto fel yn y gemau cynt, y Clwb yn llwyddo trwy sgorio ceisiadau a chwarae gem agored yn erbyn pac cryf y gwrthwynebwyr. Roedd hi’n ddiddorol gweld faint o bwyntiau a sgoriwyd ar y ffordd i’r rownd derfynol drwy geisiadau yn hytrach na chiciau cosb. Prin iawn oedd y cicio, eto’n cadarnhau nad oedd steil y chwarae wedi newid rhyw lawer dros y blynyddoedd.
Bu noson gofiadwy i bawb yn Yates wedi’r gêm. Roedd hi’n ddiddorol trafod â rhai o’m gyn cyd-chwaraewyr safon y tîm presennol, a hefyd sut oedd y tîm hwn wedi llwyddo lle’r oedden ni wedi methu yn y gorffennol. Roedd sôn wedi bod, ac roedden i ymysg y rhai oedd yn trafod, nad oedd safon WDRU cystal heddiw ag yr oedd hi wedi bod yn y gorffennol. Byddai hyn yn rheswm syml i egluro sut ‘roedd y bois wedi cyrraedd y ffeinal. Ond wrth imi feddwl yn fanylach, roedd hi’n amlwg nad oedd y safbwynt yma’n un teg. Mae’n wir, mae safon timoedd Caerdydd wedi gostwng wrth i dimoedd fel Fairwater a St.Albans symud i chwarae yn cynghreiriau’r WRU. Ond os oedd safon Caerdydd wedi gostwng, yn sicr doedd timoedd Gwent a chanol Morgannwg heb waethygu, ac roedd y Clwb wedi curo pedwar ohonynt ar y ffordd i’r ffeinal, a thri o’r gemau hynny y tu hwnt i gaeau Llandaf. Doedden nhw ddim wedi manteisio ar gêm gyfforddus yn erbyn tîm o’r gogledd i’w helpu, ac yn ogystal â hyn oll, roedden nhw wedi curo deiliad y cwpan oddi cartref yn yr ail rownd. Na, roedd llwyddiant y Clwb eleni yn gwbwl haeddiannol, ac i’w weld yn ganlyniad o waith caled ac ysbryd da.
Felly’r canlyniad yw mai hwn yw’r tîm gorau sydd wedi cynrychioli’r clwb. Mae’r canlyniadau wedi sicrhau fod hynny’n ffaith. Ond eto, wrth i’r cwrw llifo’r noson hwnnw yn Yates, bûm yn trafod â rhai o’m cyd-chwaraewyr dros y blynyddoedd faint o’r tîm presennol fyddai wedi cael lle yn fy dream team dychmygol. Mae hynny’n anoddach. Mae unigolion da wedi bod efo ni ‘rioed. Ein methiant yn y gorffennol oedd i drawsnewid yr unigolion i greu tîm da. Dyna’r oedd Neil Cole a’i griw wedi cyflawni trwy’r tymor hwn. Rhaid gobeithio bydd y llwyddiant hwn yn parhau am dymhorau i ddod, er mwyn imi, a’m cyd cyn-chwaraewyr gael y cyfle i fanteisio ar esgus i gwrdd â thrafod yr hen ddyddiau, a’u cymharu â’r presennol.
John Parry-Jones Haf 2003